[ENGLISH] [Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
Newyddion21 Chwefror 2001Prif Grantiau i Ogledd Cymru Mae dau brosiect Cymorth i Ferched yng Ngogledd Cymru yn dathlu yn dilyn y rownd o grantiau Gweithredu cymunedol a Tlodi a difreintedd diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Elusennau yng Nghymru. 21 Chwefror 2001Prif Grantiau i Dde Cymru Mae elusen sy'n cefnogi pobl anabl yn ardal Abertawe a Chastell Nedd Aberfan yn dathlu yn dilyn y rownd o grantiau Gweithredu cymunedol a Tlodi a difreintedd diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Elusennau yng Nghymru. 03 Tachwedd 2000Hwb i Gludiant Cymunedol, a dyfarniad o �4m Heddiw, dyfarnodd y Bwrdd Elusennau grantiau Gweithredu cymunedol a Thlodi a difreintedd i 24 o grwpiau yng Nghymru yn werth cyfanswm o �4,181,881. Dywedodd Elisabeth Watkins, Cadeirydd y Bwrdd Elusennau yng Nghymru, "Roedd y dyfarniadau heddiw'n brawf o waith caled ac ymroddiad aruthrol a hoffwn longyfarch pawb sydd wedi derbyn grant." Un grant a fydd yn cael effaith ledled Cymru yw'r grant o �269,912 a ddyfarnwyd i Gymdeithas Cludiant Cymunedol y DG er mwyn sefydlu adeiledd cyfundrefnol sy'n angenrheidiol er mwyn cynghori a datblygu prosiectau cludiant cymunedol yng Nghymru. Bydd yr arian yn talu am gyflogi tri aelod o staff llawn amser, cludiant, rhent a chostau swyddfa am dair blynedd. Yn ogystal, caiff y rhai hynny sydd � diddordeb mewn cynnal prosiectau cludiant cymunedol gymorth ynghylch materion rheoli, gwybodaeth a hyfforddiant yn ymwneud � deddfwriaeth, iechyd a diogelwch, a rhagofynion cerbydau. 01 Tachwedd 2000Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol yn cyhoeddi Rhaglen ymchwil newydd Heddiw cyhoeddodd y Bwrdd Elusennau fanylion am ei raglen ymchwil newydd, a fydd yn agor ar 11 Mehefin 2001. Bydd y rhaglen newydd yn cefnogi ymchwil feddygol ac ymchwil gymdeithasol ym meysydd iechyd a lles cymdeithasol. 31 Hydref 2000Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol yn agor Rhaglen grantiau rhyngwladol newydd Agorodd y Bwrdd Elusennau y llinellau cais ar gyfer Rhaglen grantiau rhyngwladol newydd heddiw. Yn y rhaglen hon bydd y Bwrdd Elusennau yn ariannu prosiectau datblygu sydd yn mynd i'r afael ag achosion tlodi ac anghyfartaledd ac yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i rai o'r bobl fwyaf bregus yn y byd. 27 Hydref 2000Grant i Drechu'r Bwlis Bydd plant sy'n dioddef yn sgil bwlio, yn ogystal � phobl gwan eu golwg, pobl sy'n gaeth i'w tai, a rhai sy'n galaru yn elwa o �148,819 a ddyfarnwyd i 51 o grwpiau gan y Bwrdd Elusennau yng Nghymru heddiw. 26 Hydref 2000Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Elusennau yn dangos y buddsoddiad mwyaf erioed mewn cymunedau ar draws y DG Mae Adroddiad Blynyddol 1999/2000 y Bwrdd Elusennau a gyflwynwyd i'r Senedd heddiw, yn dangos bod y Bwrdd Elusennau wedi cyflwyno'r cyfanswm mwyaf erioed, 11,347 o grantiau gwerth �456.6 miliwn, yn ystod 1999/2000. Yn ystod y pum mlynedd o fodolaeth y Bwrdd Elusennau fel dyfarnwr grantiau i'r bobl mwyaf difreintiedig yn y DG, dosbarthwyd rhagor na �1.8 biliwn i dros 36,000 o elusennau a grwpiau gwirfoddol. 12 Medi 2000Grantiau'r Bwrdd Elusennau ar gael yn gynt Bydd Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol yng Nghymru yn prosesu a dyfarnu Grantiau bychain yn llawer cynt o hyn allan, ac yn sgil hynny bydd arian ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus yn llawer cyflymach nag y bu yn y gorffennol. Dywedodd Roy Norris, Cyfarwyddwr y Bwrdd Elusennau yng Nghymru: "Gwyddwn ers tro nad yw arian yn cael ei drosglwyddo i grwpiau mor gyflym ag y dylai gan fod ceisiadau'n pentyrru'n sydyn. Yn dilyn arolwg o'n dulliau prosesu a dyfarnu Grantiau bychain, hyderwn bod gennym bellach system gyflymach a mwy effeithlon er budd i bawb." Yn y rownd ddiweddaraf o Grantiau bychain yng Nghymru a gyhoeddwyd gan y Bwrdd heddiw, rhennir cyfanswm o �365,465 rhwng 110 o fudiadau. Bydd plant, pobl ifanc, henoed a grwpiau i bobl sy'n anabl yn gorfforol a meddyliol yn elwa o'r grantiau. |