[ENGLISH] [Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
21 Chwefror 2001 Prif Grantiau i Ogledd CymruMae dau brosiect Cymorth i Ferched yng Ngogledd Cymru yn dathlu yn dilyn y rownd o grantiau Gweithredu cymunedol a Tlodi a difreintedd diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Elusennau yng Nghymru. Mae Cymorth i Ferched Glyndwr yn Sir Ddinbych yn darparu cefnogaeth arbenigol i ferched a phlant sydd wedi dioddef cam-drin yn y cartref ac yn derbyn £158,032 i ddatblygu cymorth a gweithgareddau chwarae ac addysg i blant. Meddai Catherine Bailey, Gweithiwr Datblygu gyda'r elusen: "Mae cam-drin yn y cartef yn gyffredin ac yn hynod frawychus. Rydym wedi lletya 66 o blant â'u mamau mewn lloches dros y flwyddyn diwethaf ac rydym yn ymwybodol bod y sefyllfa yn niweidiol i blant. Yn amlach na pheidio, maent yn gadael ffrindiau, teulu, tegannau ac anifeiliaid anwes ar ôl ac yn ogystal â'r gofid o weld cam-driniaeth, efallai bod rhai o'r plant wedi cael eu cam-drin yn gorfforol, yn rhywiol neu'n emosiynol eu hunain." Bydd y grant yn gwneud gwahaniaeth mawr, ychwanegodd Catherine: "Mae plant yn aml yn ddioddefwyr cudd o gam-drin yn y cartref. Rydym yn ceisio dod ac elfen bositif i'w bywydau, ond hyd nawr mae'r darpariaethau sydd genym yn gyfyngedig ac rydym wedi bod heb gyllid digonol. Bydd yr arian yma yn ein galluogi i gynnig llawer mwy." Mae rhai o'r gweithgareddau cynnal i blant ar hyn o bryd yn cynnwys tripiau i'r traeth, ymweliadau i'r sinema, nofio, sesiynnau crochenwaith, mynd am dro, picnics, cyfarfodydd plant ac amser siarad. Yn Ynys Môn, mae Cymorth Merched Ynys Môn yn derbyn £155,425 i barhau â gwasanaethau sy'n bodoli ac i ddatblygu eu gwasanaethau allanol, yn arbennig mewn cymunedau anghysbell. Meddai Brenda Murray, Gweithiwr 'Outreach': "Targed gwaith 'Outreach' yw i ddarparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i ferched a theuluoedd sydd yn cael eu ail-gartrefu wedi bod mewn lloches, ac hefyd i ferched sydd â phlant neu beidio, sydd yn byw yn y gymuned ac yn dioddef trais neu'n cael eu cam-drin." Ychwanegodd: "Rydym yn ceisio galluogi merched i ddatblygu eu hunan werth ac i gymeryd rheolaeth o'u bywydau unwaith eto. Mae llawer o'n gwaith yn cynnwys cysylltu a chymdeithasau cymunedol eraill." Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i dalu costau staff a gwirfoddolwyr ac am ddefnyddiau gwybodaeth, addysgol ac hyrwyddo. Mewn manau eraill o Ogledd Cymru, mae cymdeithasau eraill wedi elwa trwy'r rownd ddiweddaraf o brif grantiau. Ledled y wlad mae 30 cymdeithas yn rhannu cyfanswm o £4,837,711. Yn Sir Ddinbych mae Cymdeithas Cyfeillion Meddygfa Canolbarth Cymuned Prestatyn yn derbyn £10,000 i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth car i ysbytai a chanolfeydd meddygol eraill i bobl sydd heb fynediad at drafnidiaeth eu hunain. Ym Maesgeirchen yng Ngwynedd mae Eglwys Gymunedol y Groes yn derbyn £84,890 i adnewyddu adeilad yr eglwys ac ym Mangor mae Sefydliad Datblygu Cymuned yn derbyn £444,571 i wella cyflwr cymdeithasol ac economaidd yr ardal trwy gryfhau cymdeithasau sydd â sail cymdeithasol a gwaith datblygu cymunedol. Yn Ynys Môn mae Cymdeithas Adloniadol Llanfachraeth yn cael £32,903 i ddarparu cae chwarae ac adnoddau chwarae pêl i bobl ifanc ac yn Wrecsam mae 'Chariotts' yn derbyn £28,343 i brynu cerbyd ychwanegol i ddarparu trafnidiaeth cymunedol i bobl anabl. Mae tri grwp arall hefyd yn dathlu. Mae NEWVOL sydd wedi ei leoli yn Wrecsam yn derbyn £190,933 i ddarparu swyddfeydd 'drop-in' i gefnogi gofalwyr mewn mannau anghysbell ledled Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint ac mae CHICS ('Children's Cancer Support Group') sydd wedi ei leoli yn Sir Ddimbych yn derbyn £31,861 i ddarparu cerbyd cymunedol i gludo aelodau o'r grwp i gyfarfodydd, ymweliadau i'r ysbyty ac ar gyfer chludiant gwyliau. Mae dros £109 miliwn wedi ei ddosbarthu i grwpiau gwirfoddol gan y Bwrdd Elusennau yng Nghymru i daclo tlodi ac i hyrwyddo ymrwymiad cymdeithasol. Dylai grwpiau sydd angen ffurflenni cais ar gyfer prif grantiau'r Bwrdd Elusennau neu sydd angen mwy o fanylion alw 0845 791 9191 (Saesneg) or 0845 727 3273 (Cymraeg). Nodiadau i Olygyddon:
Nodyn i Gynllunwyr Logo Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol yw'r logo crwn sy'n ymddangos ar y datganiad i'r wasg yma. (Mae'r logo "bysedd wedi eu croesi" yn arwyddnod i'r Loteri Genedlaethol ac felly nid yw ar gyfer defnydd y Bwrdd Elusennau). |