|
[Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
Ein rhaglenni grantiauRydym yn rhedeg nifer o raglenni sy'n addas i fudiadau a phrosiectau gwahanol. Disgrifir ein rhaglenni cyfredol isod. O dro i dro mae'n bosib y byddwn yn rhedeg rhaglenni eraill, byddwn yn hysbysebu y rhain ymlaen llaw.
Rhaglen grantiau rhyngwladolMae'r rhaglen grantiau rhyngwladol wedi ei hanelu at fudiadau gwirfoddol wedi eu lleoli yn y DG sy'n gweithio gyda phartneriaid tramor. Gallwn hefyd ariannu mudiadau yn y DG sy'n gweithio gyda phartneriaid ar addysg ddatblygol yn y DG. O dan ein Rhaglen grantiau rhyngwladol, ein nod yw ariannu prosiectau datblygu sy'n ymateb i achosion tlodi ac anghyfartaledd ac sy'n gwella ansawdd bywyd rhai o'r bobl fwyaf difreintiedig yn y byd yn sylweddol. Yn y rhaglen hon byddwn yn cefnogi prosiectau a fydd yn:
Ffocws daearyddol Byddwn yn parhau i rhoi ffocws ar brosiectau sydd o fantais i bobl difreintiedig yn yr Affrig, Asia, y Dwyrain Canol, Canolbarth a De America, y Carib� a Chanolbarth a Dwyrain Ewrop. Pryd i wneud cais Bydd y llinell gais ar gyfer ein pumed raglen yn agor ar 30 Hydref 2000, ac yn cau ar 26 Ionawr 2001. Mae'n rhaid i ni dderbyn eich ceisiadau cyflawn erbyn 5pm 16 Mawrth 2001. Sut i ymgeisio Gallwch dderbyn pecyn cais trwy ffonio 0845 727 3273 (Ff�n testun: 01686 610205). Neu, cewch ddadlwytho'r ffurflen gais (yma). Byddwn yn cynnal cyfarfodydd ar draws y DG yn ystod misoedd Hydref, Tachwedd a Rhagfyr 2000, i amlinellu ein Rhaglen grantiau rhyngwladol ac i ddarparu gwybodaeth am ein trefniadau ymgeisio ac asesu ac i roi adborth ar y rhaglen ddiwethaf. Gwobrau bychain i grwpiau bychain- Gwobrau i Bawb (Lloegr a'r Alban) Cynllun grantiau ar gyfer grwpiau bychain sy'n ymwneud � chelf, chwaraeon, treftadaeth weithgareddau gwirfoddol a chymunedol ac sy'n chwilio am grant rhwng �500 a �5,000 yw Gwobrau i Bawb. Mae'n cael ei ariannu ar y cyd gan ddosbarthwyr y Loteri yn Lloegr a'r Alban. Yn Lloegr rhoddir blaenoriaeth i grwpiau sydd ag incwm blynyddol o llai na �15,000. Yn yr Alban rhoddir grantiau i grwpiau ag incwm blynyddol o llai na �15,000 yn unig. Mae'n rhaid i grwpiau wario'r arian a chwblhau unrhyw weithgareddau o fewn chwe mis i dderbyn y grant. Sut i ymgeisio Gallwch dderbyn pecyn cais trwy ffonio 0845 600 20 40 (Ff�n testun: 0845 755 6656). Neu trwy ymweld � safle'r we: www.awardsforall.org.uk Cynllun grantiau bychain (Cymru a Gogledd Iwerddon) Rydym yn dyfarnu grantiau rhwng �500 a �5,000 i grwpiau bychan lleol dan y cynllun hwn. Mae'n rhaid i grwpiau wario'r arian a chwblhau unrhyw weithgareddau o fewn chwe mis i dderbyn y grant. Mae'r cynllun yn dyfarnu grantiau i grwpiau sydd ag incwm o llai na �15,000 y flwyddyn. Sut i ymgeisio Gallwch dderbyn pecyn cais trwy ffonio 0845 727 3273 (Ff�n testun: 01686 6102050) yng Nghymru a 0845 791 9191 (Ff�n testun: 0845 755 6656) yng Ngogledd Iwerddon. Neu, cewch ddadlwytho'r ffurflen gais (yma). Ymchwil iechyd a chymdeithasolRhaglenni Ymchwil Bydd y Bwrdd Elusennau yn rhedeg rhaglen ymchwil newydd, yn benodol ar gyfer iechyd a lles cymdeithasol, o'r 11 Mehefin 2001. Bydd y rhaglen newydd yn barhaol heb ddyddiad cau i geisiadau. Rydym eisiau ariannu ymchwil o ansawdd uchel ac yn arbennig, ymchwil a allai gael effaith uniongyrochol i gynorthwyo y rhai mwyaf difreintiedig yn y gymdeithas. Gwybodaeth yn y GymraegRydym yn gweithredu Cynllun laith Gymraeg. Mae'r holl becynnau cais a't llyfrynnau ar gael yn y Gymraeg. Dylai ymgeiswyr Gymraeg ffonio 0845 727 3273. Gywbodaeth mewn ieithoedd a dulliau eraill Mae gwybodaeth am ein rhaglenni grantiau ar gael mewn ieithoedd cymunedol, ar d�p sain, Braille a phrint bras. Mae taflenni i bobl ag anawsterau dysgu betyd ar gael. |