[ENGLISH] [Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
31 Hydref 2000 Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol yn agor Rhaglen grantiau rhyngwladol newyddAgorodd y Bwrdd Elusennau y llinellau cais ar gyfer Rhaglen grantiau rhyngwladol newydd heddiw. Yn y rhaglen hon bydd y Bwrdd Elusennau yn ariannu prosiectau datblygu sydd yn mynd i'r afael ag achosion tlodi ac anghyfartaledd ac yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i rai o'r bobl fwyaf bregus yn y byd. Mae'r rhaglen wedi'i anelu at elusennau a mudiadau gwirfoddol sydd wedi eu lleoli yn y DG sydd yn gweithio gyda phartneriaid o dramor. Byddwn hefyd yn ariannu mudiadau o'r DG sy'n gweithio gyda phartneriaid ar addysg ddatblygol yn y DG. Hyd yma mae'r Bwrdd Elusennau wedi dosbarthu cyfanswm o £106.9 miliwn i 527 o grwpiau gwirfoddol sy'n gweithio dramor. Gall mudiadau sydd wedi derbyn grant dan y Rhaglenni rhyngwladol blaenorol wneud cais i ariannu prosiect dan y rhaglen newydd hon. Mae pobl a allai gael budd o'r rhaglen newydd yn cynnwys rhai heb ddigon o fwyd, dwr glân a chysgod; rhai heb ofal iechyd digonol neu addysg neu fodd dibynadwy o wneud bywoliaeth; a rhai sy'n dioddef oherwydd rhyfel neu orthrwm. Bydd y llinellau cais yn cau ar 26 Ionawr 2001. Mae'n rhaid i ni dderbyn ceisiadau cyflawn erbyn 5pm ar 16 Mawrth 2001. Mae'r Bwrdd Elusennau yn disgwyl cyhoeddi'r grantiau ar ddiwedd Haf 2001. Ffoniwch 0845 727 3273 (Ffôn testun: 01686 610205) neu ymwelwch a'r wefan yn www.nlcb.org.uk. Ymholiadau'r wasg: Robert Blow 020 7747 5227 |