[ENGLISH] [General Info] [Media] [Contact] [Links] [Help] [Previous] |
12 Medi 2000 Grantiau'r Bwrdd Elusennau ar gael yn gyntBydd Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol yng Nghymru yn prosesu a dyfarnu Grantiau bychain yn llawer cynt o hyn allan, ac yn sgil hynny bydd arian ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus yn llawer cyflymach nag y bu yn y gorffennol. Dywedodd Roy Norris, Cyfarwyddwr y Bwrdd Elusennau yng Nghymru: "Gwyddwn ers tro nad yw arian yn cael ei drosglwyddo i grwpiau mor gyflym ag y dylai gan fod ceisiadau'n pentyrru'n sydyn. Yn dilyn arolwg o'n dulliau prosesu a dyfarnu Grantiau bychain, hyderwn bod gennym bellach system gyflymach a mwy effeithlon er budd i bawb." Yn y rownd ddiweddaraf o Grantiau bychain yng Nghymru a gyhoeddwyd gan y Bwrdd heddiw, rhennir cyfanswm o £365,465 rhwng 110 o fudiadau. Bydd plant, pobl ifanc, henoed a grwpiau i bobl sy'n anabl yn gorfforol a meddyliol yn elwa o'r grantiau. Yng Nghaerdydd, bydd Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Llys Oldwell yn derbyn £3,500 er mwyn darparu cyfrifiadur a chyswllt â'r rhyngrwyd i henoed sy'n byw mewn llety lloches, ac yng Nghonwy, dyfarnwyd £2,000 i Gymdeithas Gwarchod Cymdogaeth Sir Conwy. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo atal trosedd yn yr ardal. Er mwyn gwella eu sgiliau a helpu i ddenu aelodau newydd, dyfarnwyd £1,678 i Glwb Gwau Bedwas, ac ym Mlaenau Gwent caiff Eglwys Fethodistaidd Cwmcelyn £4,900 er mwyn adfer darn o dir gwastraff sydd wrth ochr yr eglwys. Yn Sir y Fflint, bydd Pwyllgor y Mileniwm Caerwys yn derbyn £5,000 er mwyn darparu system sain gymunedol yn cynnwys system ddolen cymorth clywed i'r byddar, ac yng Ngwynedd dyfarnwyd £4,899 i Gymdeithas Gwenyna Llyn ac Eifionydd er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth pobl o wenyna a rôl gwenyn yn yr amgylchedd. Bydd Gwefan Gymunedol Caldicot yn derbyn £4,991 er mwyn darparu hyfforddiant i grwpiau cymunedol, a bydd grant Cymorth i Ferched Cwm Lliw o £3,757 yn talu am ddodrefn ar gyfer lloches i ferched. Dyfarnwyd £3,500 i Gynllun Dodrefn Cymunedol Phoenix yn Sir Fynwy er mwyn gwella'r adeilad ailgylchu, ac fe gaiff Cyngor Henoed Gorllewin Morgannwg yn Abertawe £4,968 i lunio llyfryn gwybodaeth ar gyfer pobl hyn yn yr ardal. Dyfarnwyd swm o £4,965 i ehangu gweithgareddau yng Nghanolfan Ieuenctid Cwmbran, ac yn ardal Wrecsam bydd grant o £2,750 yn cael ei ddefnyddio i ddarparu deunydd hyrwyddo, hyfforddiant ac offer TG ar gyfer Partneriaeth Gwersyllt. Dylai grwpiau sydd am gael ffurflenni cais ar gyfer grantiau'r Bwrdd Elusennau neu ragor o wybodaeth ffonio 0845 727 3273. Nodiadau i Olygyddion 1. Am ymholiadau'r wasg neu rifau cyswllt y grwpiau cysylltwch â Brian ar 01286 830438 neu 07880 5580361 |