Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol yn cyhoeddi Rhaglen ymchwil newydd TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-



[ENGLISH]


[Gwybodaeth gyffredinol]
[Y wasg]
[Cyswllt]
[Cysylltiadau]
[Help]
[Yn ôl]

01 Tachwedd 2000

Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol yn cyhoeddi Rhaglen ymchwil newydd

Heddiw cyhoeddodd y Bwrdd Elusennau fanylion am ei raglen ymchwil newydd, a fydd yn agor ar 11 Mehefin 2001.

Bydd y rhaglen newydd yn cefnogi ymchwil feddygol ac ymchwil gymdeithasol ym meysydd iechyd a lles cymdeithasol.

Mae'r rhaglen wedi'i anelu at elusennau a grwpiau gwirfoddol a chymunedol sydd fel arfer yn gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion a chanolfannau ymchwil.

Rydym wedi cyhoeddi llyfryn o fanylion y rhaglen sydd ar gael o'r swyddfeydd Bwrdd Elusennau lleol.

Dywedodd Diana Brittan, Cadeirydd, Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol: "Hyd yma rydym wedi dosbarthu dros £30 miliwn i 200 o elusennau a mudiadau gwirfoddol ar gyfer prosiectau ymchwil ym meysydd iechyd, anabledd a gofal. Byddwn yn gwneud defnydd o'r gwersi a ddysgwyd ym meysydd iechyd a lles cymdeithasol mewn rhaglenni ymchwil blaenorol.

Dan y Rhaglen grantiau ymchwil newydd mae'r Bwrdd Elusennau yn dymuno ariannu ymchwil o safon uchel, ac yn arbennig ymchwil a allai gael effaith wirioneddol ar y rhai mwyaf difreintiedig mewn cymdeithas."

Gall grwpiau fel elusennau sy'n ymchwilio i salwch meddyliol a chorfforol, anghenion plant anabl a phlant mewn perygl, fanteisio o'r rhaglen newydd.

Bydd y rhaglen yn un barhaol heb ddyddiadau cau, a byddwn yn cyhoeddi'r grantiau ddwywaith y flwyddyn.

Ffoniwch 0845 727 3273 (Ffôn testun: 01686 610205) i dderbyn taflen am y Rhaglen grantiau ymchwil neu edrychwch ar y wefan yn: www.nlcb.org.uk

Ymholiadau'r wasg: Robert Blow 020 7747 5227