Hwb i Gludiant Cymunedol, a dyfarniad o £4m TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-



[ENGLISH]


[Gwybodaeth gyffredinol]
[Y wasg]
[Cyswllt]
[Cysylltiadau]
[Help]
[Yn ôl]

3 Tachwedd 2000

Hwb i Gludiant Cymunedol, a dyfarniad o £4m

Heddiw, dyfarnodd y Bwrdd Elusennau grantiau Gweithredu cymunedol a Thlodi a difreintedd i 24 o grwpiau yng Nghymru yn werth cyfanswm o £4,181,881. Dywedodd Elisabeth Watkins, Cadeirydd y Bwrdd Elusennau yng Nghymru, "Roedd y dyfarniadau heddiw'n brawf o waith caled ac ymroddiad aruthrol a hoffwn longyfarch pawb sydd wedi derbyn grant."

Un grant a fydd yn cael effaith ledled Cymru yw'r grant o £269,912 a ddyfarnwyd i Gymdeithas Cludiant Cymunedol y DG er mwyn sefydlu adeiledd cyfundrefnol sy'n angenrheidiol er mwyn cynghori a datblygu prosiectau cludiant cymunedol yng Nghymru. Bydd yr arian yn talu am gyflogi tri aelod o staff llawn amser, cludiant, rhent a chostau swyddfa am dair blynedd. Yn ogystal, caiff y rhai hynny sydd â diddordeb mewn cynnal prosiectau cludiant cymunedol gymorth ynghylch materion rheoli, gwybodaeth a hyfforddiant yn ymwneud â deddfwriaeth, iechyd a diogelwch, a rhagofynion cerbydau.

"Mae diffyg cludiant yn aml yn rhwystr ychwanegol i bobl anabl, yr henoed neu bobl sy'n byw mewn cymunedau difreintiedig ac felly mae'n bleser o'r mwyaf dyfarnu grant i brosiect sy'n cyfrannu at ymestyn cludiant cymunedol yng Nghymru," meddai Elisabeth Watkins. "Mae cludiant cymunedol yn delio ag anghenion cludiant nad ydyw'r sector cyhoeddus na phreifat yn mynd i'r afael â hwy. Un enghraifft i'w hystyried yw'r broblem o gael swyddi sy'n wynebu ieuenctid mewn ardal ddifreintiedig lle nad oes cludiant cyhoeddus ar gael ac am fod cludiant preifat mor gostus. Gellid goresgyn y broblem gyda phwll sgwteri neu fws mini cymunedol. Mae 'bysiau troed', pan fo oedolion yn hebrwng grwpiau o blant i'r ysgol, yn ffurf ar gludiant cymunedol hefyd. Yng Nghymru, mae'r Bwrdd Elusennau wedi clustnodi cyfanswm o £9m am gyfnod o dair blynedd er mwyn ariannu prosiectau'n ymwneud â chludiant cymunedol. Mawr obeithiaf felly y bydd cymunedau ledled Cymru yn cysylltu â'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol er mwyn cael rhagor o wybodaeth ac i sicrhau bydd eraill dan anfantais yn elwa o'r grant hwn."

Dyfarnwyd grantiau i ddau brosiect lleol hefyd sy'n ymwneud â chludiant cymunedol, sef Consortiwm Ambus yn Sir Fynwy a dderbyniodd £27,407 a fydd yn cael ei rannu gan sawl grw^p gwirfoddol er mwyn prynu bws mini a thalu costau rhedeg, a Chludiant Ogwr i'r Henoed neu'r Anabl a dderbyniodd grant o £29,814 er mwyn prynu cerbyd newydd.

Ymhlith y dyfarniadau eraill heddiw mae dau grant dros £400,000, sef £414,200 a ddyfarnwyd i Westy Ymadfer Rest Bay i dalu am adeilad wedi ei adeiladu'n bwrpasol ym Mhorthcawl a £486,072 a ddyfarnwyd i NEWVOL er mwyn sefydlu swyddfa weithredol a hawdd i'w chyrraedd i Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych.

Bu dau grw^p Cymorth i Ferched yn llwyddiannus hefyd: sef Cymorth i Ferched Abertawe a dderbyniodd £104,326 a Chymorth i Ferched Y Fenni a dderbyniodd £198,820 er mwyn ymestyn y gwasanaeth presennol. Diogelu teuluoedd clwyfadwy yw nod Achub y Teulu Cyf yn Sir y Fflint hefyd, a derbyniodd y grw^p grant o £321,115 er mwyn adnewyddu hostel.

Dylai grwpiau sydd am gael ffurflenni cais ar gyfer grantiau'r Bwrdd Elusennau neu ragor o wybodaeth ffonio 0845 727 3273.

Nodiadau i Olygyddion

  1. Ar gyfer ymholiadau'r wasg neu rifau cyswllt y grwpiau ffoniwch Brian ar 01248 679003 neu 07880 5580361
  2. Mae Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol yn gorff annibynnol a sefydlwyd gan y Senedd i ddosbarthu arian i gefnogi mudiadau elusennol, dyngarol a llesiannol. Mae 17 o aelodau ar y Bwrdd, gan gynnwys y Cadeirydd. Penderfynir ar grantiau gan yr aelodau ar bwyllgorau dyfarnu grantiau ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r DG gyfan.
  3. Mae dwy brif raglen grantiau y Bwrdd Elusennau: Gweithredu cymunedol a Thlodi a difreintedd, yn ogystal â'r Grantiau bychain yn cael eu dosrannu gan Bwyllgor Cymru. Aelodau'r Bwrdd yng Nghymru yw Elisabeth Watkins (Cadeirydd), Jeff Carroll a Rhiannon Bevan. Mae Margaret Dennis, Aled Siôn a'r Dr Glyn Williams yn Aelodau cyfetholedig o'r Bwrdd.
  4. Prif nod y Bwrdd yw rhoi grantiau i ateb anghenion y rhai mwyaf difreintiedig mewn cymdeithas ac i wella ansawdd bywyd yn y gymuned.
  5. Er Hydref 1995, mae Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol, o dan y prif grantiau, wedi dyfarnu bron i £99 miliwn i 1020 o grwpiau yng Nghymru. Cafodd dros £5 miliwn ei ddyfarnu i 1,916 o grwpiau o dan y Cynllun grantiau bychain. Daw hyn â'r cyfanswm a ddosbarthwyd yng Nghymru, dros bum mlynedd, i ragor na £100 miliwn.
  6. Cyhoeddir rhestrau llawn o grantiau'r Bwrdd Elusennau ar y rhyngrwyd ar www.nlcb.org.uk a rhestrir rhestrau llawn o holl grantiau dosbarthwyr arian y Loteri ar www.lottery.culture.gov.uk.

Nodyn i Ddylunwyr

Logo Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol yw y logo cylchol sy'n ymddangos ar y datganiad i'r wasg hwn. (Mae'r logo "croesi bysedd" yn nod masnach ar gyfer y Loteri Genedlaethol ac nid yw felly at ddefnydd y Bwrdd Elusennau.)