TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-



[ENGLISH]


[Gwybodaeth gyffredinol]
[Y wasg]
[Cyswllt]
[Cysylltiadau]
[Help]
[Yn ôl]

27 Hydref 2000

Grant i Drechu'r Bwlis

Bydd plant sy'n dioddef yn sgil bwlio, yn ogystal â phobl gwan eu golwg, pobl sy'n gaeth i'w tai, a rhai sy'n galaru yn elwa o £148,819 a ddyfarnwyd i 51 o grwpiau gan y Bwrdd Elusennau yng Nghymru heddiw.

Dyfarnwyd £5,000 i Plant sy'n Dioddef Bwlio (CURB) er mwyn gwella gwaith gweinyddol a chwrdd â chostau teithio'r grw^p hwn sy'n gwasanaethu Cymru gyfan. Bydd pobl sy'n gaeth i'w tai yn y Rhondda Fach yn elwa yn sgil cadair olwyn newydd a gwell cefnogaeth gan Glwb 'Housebound' y Rhondda Fach, a dderbyniodd grant o £1,250.

Yn Y Drenewydd, dyfarnwyd £524 i Glwb Y Drenewydd a'r Cylch i Bobl Gwan eu Golwg er mwyn talu am gludiant a ffïoedd siaradwyr, tra yn Wrecsam, Sir y Fflint ac ardal Glannau Dyfrdwy bydd grant Gofal Galarwyr 'Cruse' o £1,500 yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwirfoddolwyr cwnsela galarwyr trwy dalu costau teithio a chostau eraill.

Dywedodd Elisabeth Watkins, Cadeirydd y Bwrdd yng Nghymru, "Mae'r Grantiau bychain yn amlygu dro ar ôl tro mor eang ac amrywiol yw gweithgareddau gwirfoddol oddi mewn i gymunedau ledled Cymru. Mae'r Bwrdd Elusennau yn ymateb i ofynion grwpiau sy'n lleisio ac yn mynd i'r afael ag anghenion eu cymunedau eu hunain. Gall y Grantiau bychain hyn, sy'n amrywio o £500 i £5,000, wneud y byd o wahaniaeth drwy roi hwb ymlaen i brosiectau ac annog morâl aelodau'r grwpiau. Ond y gobaith hefyd yw y bydd rhai o'r prosiectau yr ydym ni'n eu hariannu o ddiddordeb ac yn ysbrydoli gweithgarwch cymunedol tebyg mewn rhannau eraill o Gymru. Dylai'r ffaith bod oddeutu un o bob dau gais yn llwyddiannus fod yn ysgogiad i lawer rhagor o grwpiau bychain wneud cais am arian y Bwrdd Elusennau."

Dylai grwpiau sydd am gael ffurflenni cais ar gyfer grantiau'r Bwrdd Elusennau neu ragor o wybodaeth ffonio 0845 727 3273.

Nodiadau i Olygyddion

  1. Ar gyfer ymholiadau'r wasg neu rifau cyswllt y grwpiau ffoniwch Brian ar 01248 679003 neu 07880 5580361
  2. Mae Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol yn gorff annibynnol a sefydlwyd gan y Senedd i ddosbarthu arian i gefnogi mudiadau elusennol, dyngarol a llesiannol. Mae 17 o aelodau ar y Bwrdd, gan gynnwys y Cadeirydd. Penderfynir ar grantiau gan yr aelodau ar bwyllgorau dyfarnu grantiau ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r DG gyfan.
  3. Mae dwy brif raglen grantiau y Bwrdd Elusennau: Gweithredu cymunedol a Thlodi a difreintedd, yn ogystal â'r Grantiau bychain yn cael eu dosrannu gan Bwyllgor Cymru. Aelodau'r Bwrdd yng Nghymru yw Elisabeth Watkins (Cadeirydd), Jeff Carroll a Rhiannon Bevan. Mae Margaret Dennis, Aled Siôn a'r Dr Glyn Williams yn Aelodau cyfetholedig o'r Bwrdd.
  4. Prif nod y Bwrdd yw rhoi grantiau i ateb anghenion y rhai mwyaf difreintiedig mewn cymdeithas ac i wella ansawdd bywyd yn y gymuned.
  5. Er Hydref 1995, mae Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol, o dan y prif grantiau, wedi dyfarnu bron i £95 miliwn i 996 o grwpiau yng Nghymru. Cafodd dros £5 miliwn ei ddyfarnu i 1,916 o grwpiau o dan y Cynllun grantiau bychain. Daw hyn â'r cyfanswm a ddosbarthwyd yng Nghymru, dros bum mlynedd, i ragor na £100 miliwn.
  6. Cyhoeddir rhestrau llawn o grantiau'r Bwrdd Elusennau ar y rhyngrwyd ar www.nlcb.org.uk a rhestrir rhestrau llawn o holl grantiau dosbarthwyr arian y Loteri ar www.lottery.culture.gov.uk.

Nodyn i Ddylunwyr

Logo Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol yw y logo cylchol sy'n ymddangos ar y datganiad i'r wasg hwn. (Mae'r logo "croesi bysedd" yn nod masnach ar gyfer y Loteri Genedlaethol ac nid yw felly at ddefnydd y Bwrdd Elusennau.)