TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-






[Gwybodaeth gyffredinol]
[Y wasg]
[Cyswllt]
[Cysylltiadau]
[Help]
[Yn ôl]

26 Hydref 2000

Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Elusennau yn dangos y buddsoddiad mwyaf erioed mewn cymunedau ar draws y DG

Mae Adroddiad Blynyddol 1999/2000 y Bwrdd Elusennau a gyflwynwyd i'r Senedd heddiw, yn dangos bod y Bwrdd Elusennau wedi cyflwyno'r cyfanswm mwyaf erioed, 11,347 o grantiau gwerth £456.6 miliwn, yn ystod 1999/2000. Yn ystod y pum mlynedd o fodolaeth y Bwrdd Elusennau fel dyfarnwr grantiau i'r bobl mwyaf difreintiedig yn y DG, dosbarthwyd rhagor na £1.8 biliwn i dros 36,000 o elusennau a grwpiau gwirfoddol.

Mae grantiau'r Bwrdd Elusennau yn adlewyrchu'r amrywiaeth mewn gweithgareddau gwirfoddol yng Nghymru heddiw. Rhoddwyd arian mawr i hosbisau ac elusennau cenedlaethol a chyfansymiau llai i brosiectau sylfaenol, fel clybiau ieuenctid, llyfrgelloedd teganau, cyrsiau iaith i ffoaduriaid, clybiau'r henoed a neuaddau pentref. Beth bynnag yw maint y grant, fe wnaeth wahaniaeth mesuriadwy i amrywiaeth eang o gymunedau.

Mae'r Adroddiad Blynyddol yn tynnu sylw at rai o'r bobl yng Nghymru a fanteisiodd o arian y Loteri.

Prif ddatblygiadau'r flwyddyn oedd:

  • Neilltuo £3 miliwn y flwyddyn i brosiectau Cludiant cymunedol yng Nghymru
  • Datganoli'r penderfyniadau i raddfa leol, trwy roi grym i'r Pwyllgorau Dyfarnu Rhanbarthol yn y naw rhanbarth o Lloegr i ddyfarnu grantiau hyd at £1 miliwn yn eu hardaloedd
  • Dosbarthu grantiau gwerth £24.6 miliwn dan y rhaglen Ymchwil iechyd a chymdeithasol, i brosiectau amrywiol ym meysydd ymchwil meddygol a chymdeithasol a grantiau gwerth £32.7 miliwn i elusennau o'r DG sy'n gweithio yn rhai o ardaloedd tlotaf y byd
  • Ail lansio gwefan ddwyieithog y Bwrdd Elusennau i'w gwenud hi'n haws i'w defnyddio, yn arbennig gan y rhai â nam ar eu golwg

Dywedodd Diana Brittan, Cadeirydd y Bwrdd Elusennau: "Rwyn falch i ddweud, ers i ni ddechrau bum mlynedd yn ôl, rydym wedi cynorthwyo miloedd o bobl i wella ansawdd eu bywyd.

"Am ein bod wedi ymrwymo i ganolbwyntio ar y cwsmer, i fod yn fwy agored ac atebol, bwriadwn wella ein dyfarnu grantiau trwy uno y ddwy brif raglen grantiau a gwneud y drefn asesu yn haws i'w deall. Byddwn yn cyflwyno ffurflen gais llai i grwpiau o bob maint sydd yn dymuno gwneud cais am grantiau canolig eu maint. Byddwn yn lansio rhaglen ymchwil barhaol ar gyfer ymchwil iechyd ac ymchwil gymdeithasol. Bydd y pecyn cais ar gael ar ddisg, i hwyluso'r drefn ymgeisio, yn arbennig i rhai â nam ar eu golwg.

Fel arwydd o'r newidiadau yma byddwn yn cyflwyno delwedd gorfforaethol newydd yn 2001 i gyfathrebu ein pwrpas, ein bwriad a'n gwerthoedd yn fwy effeithiol. Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda'r sector gwirfoddol i gyflwyno manteision y newidiadau hyn."

Ymholiadau'r wasg i: Robert Blow 020 7747 5227

Mae copïau o'r Adroddiad Blynyddol ar gael gan eich swyddfa Bwrdd Elusennau leol neu oddi ar ein gewfan yn ; www.nlcb.org.uk

Nodyn i olygyddion:

Mae'r Bwrdd Elusennau yn dosbarthu 4.7 ceiniog o bob £1 a ddaw o'r Loteri Genedlaethol i elusennau a grwpiau gwirfoddol a chymunedol. Mae'r Bwrdd Elusennau yn dosbarthu arian i gynorthwyo y rhai mwyaf difreintiedig mewn cymdeithas ac i well ansawdd bywyd yn y gymuned.