TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-






[Gwybodaeth gyffredinol]
[Y wasg]
[Cyswllt]
[Cysylltiadau]
[Help]
[Yn ôl]

Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol

* Newyddion * Ffocws * Cyswllt * Cysylltiadau
Image: Map of Wales - Click to Enlarge

Tudalennau Cymru

Croeso i swyddfa Cymru o Fwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol.

Mae ein swyddfa wedi ei lleoli yng Nghanolbarth Cymru yn y Drenewydd, Powys. Wrth ddatganoli gallwn fod o fewn cyrraedd i bobl o bob ran o Gymru. Rydym yn gwasanaethu Cymru gyfan gan gynnwys 22 Awdurdod Lleol a 2.93 miliwn o bobl. Mae Cymru'n wlad amrywiol a'i phobl yn ymwybodol iawn o'u hunaniaeth ddiwylliannol. Rydym yn cynnig nifer o raglenni grantiau sy'n addas i brosiectau a mudiadau gwahanol. Cliciwch yma ar gyfer Ceisiadau a Chyhoeddiadau.

Mae grantiau gan Bwyllgor Cymru wedi amrywio o �500 i grwpiau bach lleol hyd at �850,000 ar gyfer prosiectau mawr neu hir dymor. Er nad oes uchafswm ar gyfer grantiau ar hyn o bryd, o Gwanwyn 2001 mae'n annhebygol y byddwn yn dyfarnu grantiau dros �300,000 heblaw mewn amgylchiadau eithriadol. Maint cyfartalog grant yng Nghymru yw �97,000. Hyd at fis Hydref 2000 roedd grwpiau yng Nghymru wedi elwa o 2,936 o grantiau gwerth cyfanswm o dros �100,000,000. Golyga hyn ein bod ni wedi dosbarthu tua �35 yr un i bob person yng Nghymru.

Nid ydym yn rhoi blaenoriaeth i ardaloedd penodol o Gymru ond rydym yn sylweddoli nad yw rhai ardaloedd yn cyflwyno cymaint o geisiadau ag eraill. Yn ogystal � hyn os yw eich rhanbarth chi wedi bod yn llwyddiannus, nid yw hyn yn golygu na fyddwn yn dal i ystyried ceisiadau o'ch ardal chi. Cliciwch yma i weld Ffigyrau Allweddol ar y nifer o grwpiau a ariannwyd yn eich ardal chi o Gymru.

Bydd ein staff yn barod i'ch cynorthwyo gyda unrhyw wybodaeth am ein rhaglenni presennol, cymhwyster a blaenoriaethau Cymru. Rydym yn cymryd rhan mewn seminarau a chyflwyniadau am ein rhaglenni grantiau a sut i ymgeisio. Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gyngor unigol arnoch, efallai bydd eich Cyngor Gwirfoddol Lleol yn barod i'ch helpu chi. Ffoniwch ni i dderbyn manylion am eich swyddfa cynghori leol.

Cewch hyd i fanylion pellach sy'n berthnasol i'n grantiau yng Nghymru trwy glicio ar: