21 Chwefror 2001
Prif Grantiau i Ogledd Cymru
Mae dau brosiect Cymorth i Ferched yng Ngogledd Cymru yn dathlu yn dilyn y rownd o grantiau Gweithredu cymunedol a Tlodi a difreintedd diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Elusennau yng Nghymru.
Mae Cymorth i Ferched Glyndwr yn Sir Ddinbych yn darparu cefnogaeth arbenigol i ferched a phlant sydd wedi dioddef cam-drin yn y cartref ac yn derbyn �158,032 i ddatblygu cymorth a gweithgareddau chwarae ac addysg i blant.
Meddai Catherine Bailey, Gweithiwr Datblygu gyda'r elusen: "Mae cam-drin yn y cartef yn gyffredin ac yn hynod frawychus. Rydym wedi lletya 66 o blant �'u mamau mewn lloches dros y flwyddyn diwethaf ac rydym yn ymwybodol bod y sefyllfa yn niweidiol i blant. Yn amlach na pheidio, maent yn gadael ffrindiau, teulu, tegannau ac anifeiliaid anwes ar �l ac yn ogystal �'r gofid o weld cam-driniaeth, efallai bod rhai o'r plant wedi cael eu cam-drin yn gorfforol, yn rhywiol neu'n emosiynol eu hunain."
Bydd y grant yn gwneud gwahaniaeth mawr, ychwanegodd Catherine: "Mae plant yn aml yn ddioddefwyr cudd o gam-drin yn y cartref. Rydym yn ceisio dod ac elfen bositif i'w bywydau, ond hyd nawr mae'r darpariaethau sydd genym yn gyfyngedig ac rydym wedi bod heb gyllid digonol. Bydd yr arian yma yn ein galluogi i gynnig llawer mwy."
Mae rhai o'r gweithgareddau cynnal i blant ar hyn o bryd yn cynnwys tripiau i'r traeth, ymweliadau i'r sinema, nofio, sesiynnau crochenwaith, mynd am dro, picnics, cyfarfodydd plant ac amser siarad.
Yn Ynys M�n, mae Cymorth Merched Ynys M�n yn derbyn �155,425 i barhau � gwasanaethau sy'n bodoli ac i ddatblygu eu gwasanaethau allanol, yn arbennig mewn cymunedau anghysbell. Meddai Brenda Murray, Gweithiwr 'Outreach': "Targed gwaith 'Outreach' yw i ddarparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i ferched a theuluoedd sydd yn cael eu ail-gartrefu wedi bod mewn lloches, ac hefyd i ferched sydd � phlant neu beidio, sydd yn byw yn y gymuned ac yn dioddef trais neu'n cael eu cam-drin."
Ychwanegodd: "Rydym yn ceisio galluogi merched i ddatblygu eu hunan werth ac i gymeryd rheolaeth o'u bywydau unwaith eto. Mae llawer o'n gwaith yn cynnwys cysylltu a chymdeithasau cymunedol eraill."
Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i dalu costau staff a gwirfoddolwyr ac am ddefnyddiau gwybodaeth, addysgol ac hyrwyddo.
Mewn manau eraill o Ogledd Cymru, mae cymdeithasau eraill wedi elwa trwy'r rownd ddiweddaraf o brif grantiau. Ledled y wlad mae 30 cymdeithas yn rhannu cyfanswm o �4,837,711.
Yn Sir Ddinbych mae Cymdeithas Cyfeillion Meddygfa Canolbarth Cymuned Prestatyn yn derbyn �10,000 i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth car i ysbytai a chanolfeydd meddygol eraill i bobl sydd heb fynediad at drafnidiaeth eu hunain.
Ym Maesgeirchen yng Ngwynedd mae Eglwys Gymunedol y Groes yn derbyn �84,890 i adnewyddu adeilad yr eglwys ac ym Mangor mae Sefydliad Datblygu Cymuned yn derbyn �444,571 i wella cyflwr cymdeithasol ac economaidd yr ardal trwy gryfhau cymdeithasau sydd � sail cymdeithasol a gwaith datblygu cymunedol.
Yn Ynys M�n mae Cymdeithas Adloniadol Llanfachraeth yn cael �32,903 i ddarparu cae chwarae ac adnoddau chwarae p�l i bobl ifanc ac yn Wrecsam mae 'Chariotts' yn derbyn �28,343 i brynu cerbyd ychwanegol i ddarparu trafnidiaeth cymunedol i bobl anabl.
Mae tri grwp arall hefyd yn dathlu. Mae NEWVOL sydd wedi ei leoli yn Wrecsam yn derbyn �190,933 i ddarparu swyddfeydd 'drop-in' i gefnogi gofalwyr mewn mannau anghysbell ledled Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint ac mae CHICS ('Children's Cancer Support Group') sydd wedi ei leoli yn Sir Ddimbych yn derbyn �31,861 i ddarparu cerbyd cymunedol i gludo aelodau o'r grwp i gyfarfodydd, ymweliadau i'r ysbyty ac ar gyfer chludiant gwyliau.
Mae dros �109 miliwn wedi ei ddosbarthu i grwpiau gwirfoddol gan y Bwrdd Elusennau yng Nghymru i daclo tlodi ac i hyrwyddo ymrwymiad cymdeithasol.
Prif Grantiau i Dde Cymru
Mae elusen sy'n cefnogi pobl anabl yn ardal Abertawe a Chastell Nedd Aberfan yn dathlu yn dilyn y rownd o grantiau Gweithredu cymunedol a Tlodi a difreintedd diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Elusennau yng Nghymru.
Mae 'DIAL, y Disability Information and Advice Line' sydd wedi ei leoli yn Abertawe yn derbyn �71,000 i ehangu'r gwasanaethau sydd ar gynnig ac i gyflogi cyd-drefnydd llawn-amser. Mae DIAL yn cynnig lein gymorth deleff�n i bobl sydd dan anfantais trwy anabledd, yn eu cefnogi i arwain bywydau bywiog a boddhaus, yn ymgyfuno �'r gymdeithas.
Meddai Tony Beddow, y Cadeirydd: "Mae'r grant yn galonogol iawn ac yn ein galluogi i gyfnerthu ein gwasanaethau i bobl anabl yn yr ardal yma o Dde Cymru. Cynyddodd y nifer o alwadau a dderbyniom 40 y cant y llynedd ar y flwyddyn cynt, ac mae'r swm yna yn codi o hyd.
"Rydym yma ar gyfer unrhyw ymholiad sy'n gysylltiedig -ag anabledd, a ni yw'r man galw cyntaf i bobl sydd angen cymorth. Rydym yn medru rhoi cyngor ynglyn � hawliau llesiant a buddion ac medrwn hefyd helpu pobl i lenwi ffurflenni. Gall ymholiadau eraill ymwneud � materion fel anffafriaeth, cymorthau a chyfasaddiadau, mynediadau i gadair olwyn, darpariaeth trafnidiaeth, addysg, gwyliau a chartrefu. Pan mae'n briodol, rydym yn cyfeirio galwyr at grwpiau anabledd cymunedol am gymorth mwy arbenigol."
Does dim cost am alwadau, ac mae'r linnell gymorth ar agor am bum diwrnod yr wythnos, rhwng 10yb a 3.30yh."
Mewn manau eraill o Dde Cymru, mae cymdeithasau eraill wedi elwa trwy'r rownd ddiweddaraf o brif grantiau. Ledled y wlad mae 30 cymdeithas yn rhannu cyfanswm o �4,837,711.
Mae grant o �161,295 i Ganolfan 'Drop-in' Senghenydd Caerffili yn cynnig gwell mynediad at adnoddau, gwybodaeth, cefnogaethac hyfforddiant ac mae Cymdeithas Preswylwyr a Chymuned Trephilip yn derbyn �192,795 i sefydlu ty cymunedol i ddarparu gwasanaethau a chyngor eang.
Yng Nghaerdydd, mae Headway yn derbyn �60,428 i barhau a datblygu gweithgareddau ac i baratoi diwrnod o weithgareddau i ysgogi'r synhwyrau ac i roi cefnogaeth i bobl sydd ag anafiadau i'r pen mewn canolfan ddydd arbenigol.
Mae Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tydfil yn derbyn �184,395 i wella'r mynediad i adnoddau, gwasanaethau 'outreach' a chymorth ymarferol i grwpiau gwirfoddol a chymunedol y tu allan i brif gytrefiad Merthyr Tydfil ac yn Rhondda Cynon Taf mae Ailgylchu Dodrefn Valleys yn derbyn �83,479 i gynnal arddangosfeydd dodrefn mewn cymunedau anghysbell i alluogi pobl ag incwm isel i brynu nwyddau fforddiadwy. Ym Marri yn Nyffryn Morgannwg, mae Llamau Cyf yn derbyn �170,410 i ddatblygu a chynnal gwasanaeth gwybodaeth i bobl digartref.
Mae Gweithredu i Bobl Sengl Digartref Casnewydd yn derbyn �416,686 i ddarparu canolfan ddydd yn seiliedig ar gelf i'r digartref ac yn Abertawe Mae XL Cymru yn derbyn �297,126 ar gyfer prosiect sy'n galluogi i blant, rhieni a theidiau a neiniau i weithio gyda'i gilydd i ddatblygu eu sgiliau gwyddoniaeth, gwybodaeth technoleg a bywyd trwy Glwb Dyfeisio Teuluol.
Mae prif grantiau eraill ledled De Cymru yn cynnwys �153,508 i Rhwydwaith Amgylchedd y Duon i wella ansawdd bywydau pobl mewn grwpiau ethnig lleiafrifol, llawer ohonynt yn byw dan anfantais ac mewn tlodi a �142,582 i Age Concern Cymru dros dair mlynedd i alluogi'r gymdeithas i godi'r proffil o henoed �'r Cynulliad Cenedlaethol a'r Llywodraeth.
Mae Cymdeithas Byddariaid Prydain yn derbyn �188,000 i ddatblygu prosiect Byddarion Ifanc Cymru ac yng Nghaerdydd mae'r 'Community Foundation in Wales' yn derbyn �193,311 i wella'r mynediad at grwpiau cymunedol ledled Cymru.
Mae dros �109 miliwn wedi ei ddosbarthu i grwpiau gwirfoddol gan y Bwrdd Elusennau yng Nghymru i daclo tlodi ac i hyrwyddo ymrwymiad cymdeithasol.
Dylai grwpiau sydd angen ffurflenni cais ar gyfer prif grantiau'r Bwrdd Elusennau neu sydd angen mwy o fanylion alw 0845 791 9191 (Saesneg) or 0845 727 3273 (Cymraeg).
Nodiadau i Olygyddon:
- Am ymholiadau neu rifau cyswllt grwpiau, cysylltwch � Debbie ar 01352 700208
- Mae Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol yn sefydliad annibynnol a ffurfiwyd gan y Senedd i ddosbarthu arian er mwyn cefnogi cymdeithasau elusennol, llesiannol a dyngarol. Mae yna 17 aelod o'r Bwrdd, yn cynnwys y Cadeirydd. Mae penderfyniadau am grantiau yn cael eu gwneud gan yr aelodau mewn pwyllgorau grantiau yn cwmpasu Cymru, Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r DU gyfan.
- Mae dwy brif raglen grantiau y Bwrdd Elusennau: Gweithredu cymunedol a Tlodi a difreintedd yn ogystal � Grantiau bach yn cael eu gwobrwyo gan Bwyllgor Cymru. Aelodau'r Pwyllgor yng Nghymru yw Elisabeth Watkins (Cadeirydd), Jeff Carroll a Rhiannon Bevan. Aelodau cyfetholedig i'r Bwrdd yw Margaret Davies, Aled Si�n a Dr Glyn Williams.
- Prif n�d y Bwrdd yw i roi grantiau i helpu'r rhai sydd fwyaf difreintiedig mewn cymdeithas ac i wella ansawdd bywyd yn y gymuned.
- Ers Hydref 1995, mae Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol, o dan y prif grantiau, wedi gwobrwyo dros �104 miliwn i 1050 o grwpiau yng Nghymru. Mae dros �5.4 miliwn wedi ei wobrwyo i 1,993 o grwpiau o dan y cynllun Grantiau bach. Mae hyn yn dod a'r cyfanswm a ddosbarthwyd yn Nghymru, dros bum mlynedd, i dros �109 miliwn.
- Mae rhestr llawn o grantiau'r Bwrdd Elusennau yn gyhoeddedig ar y rhyngrwyd ar www.nlcb.org.uk ac mae rhestrau llawn o holl ddosbarthwyr grantiau'r Loteri wedi eu rhestru ar www.lottery.culture.gov.uk.
Nodyn i Gynllunwyr
Logo Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol yw'r logo crwn sy'n ymddangos ar y datganiad i'r wasg yma. (Mae'r logo "bysedd wedi eu croesi" yn arwyddnod i'r Loteri Genedlaethol ac felly nid yw ar gyfer defnydd y Bwrdd Elusennau).