Pwy sy'n yn penderfynu pa geisiadau sy'n derbyn grantiau
�Mae system asesu Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol yn nodedig. Dyma'r
ymgais orau a welwyd ym Mhrydain, ac yn �l pob tebyg, yn unrhyw le yn y byd,
i wneud penderfyniadau gwrthrychol yngl�n � dyfarnu grantiau sy'n dal i gynrychioli
polis�au y dyfarnwr grantiau.�
Luke FitzHerbert, The National Lottery Year Book,
The Directory of Social Change.
Ein datganiad o fwriad; i gynorthwyo y rhai hynny sydd dan yr anfantais fwyaf
mewn cymdeithas a gwella ansawdd bywyd yn y gymuned, yw canolbwynt ein holl
waith. Y ceisiadau sy'n llwyddo i gyrraedd y nod hyn yw'r rhai a fydd yn derbyn
grantiau.
Wedi i chi ymgeisio am grant gan Fwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol, bydd
Swyddog grant yn cysylltu � chi er mwyn trafod eich cais. Fodd bynnag, nid y
Swyddog grant sy'n penderfynu a fyddwch yn derbyn grant neu beidio. Byddant
yn gwneud argymhelliad i Bwyllgor Cymru am ddilysrwydd y cais. Y Pwyllgor sydd
yn gwneud y penderfyniad i ganiat�u neu wrthod y grant.
Mae Pwyllgor Cymru yn cynnwys chwe aelod, tri sydd yn aelodau llawn o'r Bwrdd
a thri aelod cyf-etholedig, sy'n sicrhau ystod eang o wybodaeth am wahanol rannau
o Gymru ac adrannau amrywiol o fewn y sector gwirfoddol. Ceir cyflwyniad byr
i'r Pwyllgor isod:
Elisabeth Watkins, Cadeirydd
Bargyfreithwraig yw Elisabeth Watkins sydd wedi gweithio ym Mhrydain a Bermuda.
Mae'n ddyfarnwr mewnfudo ac yn Gadeirydd Panel Annibynnol Cymru i Adolygu Cwynion
yn erbyn y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol. Mae wedi gweithio dros fudiadau gwirfoddol
ym Mhacistan, Canada a Swasiland, ac yn gyn Gadeirydd Pwyllgor Rhyngwladol y
Groes yn Vancouver, a Chadeirydd sylfaenol Hospis yn y Cartref, Swasiland. Jeff
Carroll Ymddeolodd o Wasanaeth yr Heddlu fel Uwch arolygydd yn gyfrifol am faterion
cymunedol.
Rhiannon Bevan
Rhiannon Bevan yw Cadeirydd Bwrdd Ymgyrch Cadw Cymru'n Daclus a Llywydd Cymdeithas Cynghorau Tref a Chymuned Cymru. Ym 1998 ymddeolodd fel pennaeth swyddfa Cymru o Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched. Mae Mrs Bevan yn gyn Gadeirydd Cyngor Defnyddwyr Cymru ac yn gyn aelod o'r Cyngor Safonau Darlledu, y Comisiwn Safonau Darlledu a Bwrdd Twristiaeth Cymru. Addysgwyd Mrs Bevan yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd.
Jeff Carroll
yw Cadeirydd presennol y Bwrdd dros Gyfrifoldeb Cymdeithasol; Esgobaeth Llandaf;
Cadeirydd Sialens Cancr Castell Nedd a Phort Talbot; aelod, Cyngor Cydraddoldeb
Hiliol Caerdydd a�r Fro; Cadeirydd Clwb P�l droed Ieuenctid Cimla; Aelod o bwyllgor.
Clwb Rygbi Heddlu De Cymru; Is warden y Rheithor, plwyf Castell Nedd a Llantwit,
ac yn gyn aelod o bwyllgor codi arian Ap�l Ymchwil y Galon Syr Geraint Evans.
Aled Si�n (Aelod cyf-etholedig)
Trefnydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn y De. Bu'n cynorthwyo i drefnu'r Eisteddfod
ers 1995, a gweithiodd am un mlynedd ar ddeg fel Pennaeth Gwersyll yr Urdd,
Glanllyn. Mae ganddo gysylltiadau ag Ymddiriedolaeth Tryweryn, Pwyllgor Neuadd
Bentref Llanuwchlyn Phwyllgor Dyfodol Penllyn.
Margaret Dennis (Aelod cyf-etholedig)
Ymgynghorydd Cysylltiadau Cyhoeddus sy'n gweithio ar ei liwt ei hun, mae'i chleientau
yn cynnwys Tenovus, y Gymdeithas Er Atal Creulondeb i Blant ac Ymchwil Lewcemia.
Mae'n Gydlynydd Dadl yr Oed Cymru, Cadeirydd Cruse Bereavement Care Caerdydd
a'r Fro ac yn Gadeirydd Medialink.
Dr Glyn Williams (Aelod cyf-etholedig)
Pennaeth Canolfan Ymchwil Cymru ym Mhrifysgol Bangor. Mae'n gymdeithasegydd
a bu'n ddarlithydd ym mhrifysgolion Bangor a San Fransisco, cyhoeddodd amryw
o erthyglau a llyfrau. Bu'n aelod o bwyllgorau yn y Comisiwn Ewropeaidd, Academi
Frenhinol Iwerddon, ESRC, yr SRC a'r Academi Brydeinig.