Blaenoriaeth y Bwrdd Elusennau yng Nghymru
Mae Pwyllgor Cymru, sydd yn gwneud y penderfyniadau terfynol ar ba geisiadau i'w hariannu, wedi cytuno i roi blaenoriaeth i geisiadau sy'n cynorthwyo y rhai hynny sy'n dioddef oherwydd prinder cludiant. Mae wedi clustnodi hyd at �3 miliwn y flwyddyn i ariannu Cynlluniau Cludiant Cymunedol. Nid oes ffurflenni cais gwahanol ac fe asesir y prosiectau yn yr un modd � cheisiadau eraill. Fodd bynnag, pan fydd prosiect o'r math yma yn cael ei argymell i'w ariannu, byddwn yn ychwanegu 3 phwynt ychwanegol i'w sg�r asesu, a fydd yn cynyddu'r siawns o dderbyn grant
Olwynion yn troi yn y gymuned
Image: West Glamorgan Community Transport. Main grants programme.
Mae medru teithio a chyrraedd llefydd yn bwysig i bob un ohonom ni. Y trip siopa wythnosol, yr ymweliad �'r meddyg, noson yn y pictiwrs neu daith i lan y m�r. Mae llawer ohonom yn eu cymryd nhw i gyd yn ganiataol. Ond ym mhob rhan o Gymru mae pobl yn wynebu problemau dyddiol o ran teithio o'u cartrefi i lefydd y maen nhw'n dymuno neu'n gorfod bod.
Felly sut mae eu cynorthwyo nhw? Un dewis yw i ddarparu gwasanaeth Cludiant Cymunedol. Mae syniadau, cyngor a chymorth ar gyfer pobl sydd am sefydlu cynllun neu ar gyfer rhai sydd eisoes yn cynnig y fath wasanaeth ar gael gan y Gymdeithas Cludiant Cymunedol ar 01286 755555. Un enghraifft yw Cludiant Cymunedol Gorllewin Morgannwg. Mae'n rhedeg cynllun llwyddiannus sy'n cael ei arwain gan y gymuned ac yn cynorthwyo miloedd o bobl bob blwyddyn i deithio, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w bywydau.
A'r newyddion da yw fod arian ar gael ar gyfer grwpiau Cludiant Cymunedol. Mae'r Bwrdd Elusennau yn cytuno fod medru defnyddio gwasanaethau a chyfleusterau yn bwysig. Felly maent wedi cyhoeddi eu bod eisiau gwario hyd at �3 miliwn y flwyddyn ar Gludiant Cymunedol. Mae'r grantiau yn cychwyn o �500 a gallant dalu costau o 6 mis i 3 blynedd.
I roi pethau ar waith yn eich ardal chi, ffoniwch y Bwrdd Elusennau ar 0845 727 3273.