[ENGLISH] [Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
6 Awst 1998 Y Bwrdd Elusennau Yn Arwain Fforwm Agored Dosbarthwyr y Loteri: ‘Pwy Sydd Yn Dosbarthu Pa Grant?’Heddiw, yn yr Eisteddfod Genedlaethol, cynhaliwyd y fforwm agored ar y cyd cyntaf o’i fath i gael ei gydlynu gan Ddosbarthwyr y Loteri yng Nghymru o dan arweiniad Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol. Wedi cyflwyniadau yngln ag arian y Loteri ar gyfer y Celfyddydau, Elusennau, Treftadaeth, y Mileniwm a Chwaraeon cafwyd cwestiynau gan y gynulleidfa. Nod dosbarthwyr y Loteri oedd cydweithio er mwyn rhoi eglurhad yngln â rhaglenni cyfredol a’r broses ymgeisio. Yr oedd hefyd yn gyfle i ystyried y nifer o grantiau a ddyfarnwyd yng Nghymru hyd yma ac, ar ôl pasio’r Ddeddf Loteri newydd, yr oedd yn gyfle i edrych ymlaen at y datblygiadau newydd sydd yn cael eu cynllunio gan y Dosbarthwyr amrywiol. Dywedodd Tom Jones, Cadeirydd Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol yng Nghymru, "Dryswch y cyhoedd tra’n chwilio am opsiynau ariannu oedd ein man cychwyn wrth drefnu’r digwyddiad hwn. Gan mai dyma’r fforwm cyntaf o’i fath yr ydym yn disgwyl diddordeb eang ac yn wir, os ceir ymateb cadarnhaol, byddwn ni fel Dosbarthwyr yn cael ein hybu i gydweithio’n amlach er budd darpar ymgeiswyr." Cadeiriwyd y Fforwm gan Tom Jones a chafwyd cyflwyniadau gan:
Roedd y gynulleidfa yn cynnwys y cyhoedd, cynrychiolwyr ar ran nifer o fudiadau, y wasg ac Aelodau Seneddol. |