[ENGLISH] [Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
26 Tachwedd 1997 Y Nadolig Yn Dod Yn Fuan I Elusennau Yng NghymruMae Cynllun grantiau bychain Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol wedi rhoi lle i elusennau a grwpiau cymunedol lleol ddathlu’r gaeaf hwn. Yn y cylch diweddaraf o ddyfarniadau mae cyfanswm o £118,381 wedi ei ddosrannu i 36 o fudiadau trwy Gymru. Yn arwyddocaol, grwpiau ar gyfer yr henoed yw nifer o’r ymgeiswyr llwyddiannus gan eu bod yn awyddus i ariannu gwelliannau i’w mannau cyfarfod ac ymestyn rhaglenni gweithgareddau mewn misoedd i ddod. Mae’r rhai eraill a elwodd yn cynnwys grwpiau meithrin, y sgowtiaid a grwpiau cefnogi cancr. Mae’r grantiau wedi eu hanelu at grwpiau sydd ag angen arian ar unwaith ar gyfer prosiectau penodol, yn amrywio o £500 i £5,000. Dywedodd Tom Jones, Cadeirydd Pwyllgor Cymru’r Bwrdd, "Y mae’n galonogol iawn gweld yr ymroddiad a’r amser a roddir gan grwpiau cymunedol i wella’r agweddau amrywiol o fywyd yn eu cymunedau trwy Gymru a gallu cynnig cefnogaeth ymarferol gyda’r Cynllun grantiau bychain. Yn amlwg, mae yna nifer o grwpiau a phrosiectau haeddiannol eraill trwy Gymru ac yr wyf yn gobeithio annog y grwpiau hyn i wneud adduned Blwyddyn Newydd i helpu eu hachos drwy wneud cais am grant ym 1998! Buaswn yn annog ymgeiswyr a fu’n aflwyddiannus yn y gorffennol i wneud cais eto. Mae’r trefniadau ymgeisio ar gyfer y Cynllun grantiau bychain yn hawdd iawn i’w dilyn a heb fod ynghlwm wrth ddyddiadau cau. Ein nod yw cael arian i gymunedau a phrosiectau sydd mewn angen yn gyflym ond yn amlwg rhaid pori trwy beth waith papur yn gyntaf er mwyn sicrhau y bydd yr arian yn cael ei reoli’n effeithiol a’i ddefnyddio er y budd mwyaf." Gall grwpiau yng Nghymru sydd angen gwybodaeth am y cynllun neu ffurflen gais alw 0345 273273 am ffurflen gais unai yn y Gymraeg neu’n Saesneg. |