TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-



[ENGLISH]


[Gwybodaeth gyffredinol]
[Y wasg]
[Cyswllt]
[Cysylltiadau]
[Help]
[Yn ôl]

Delwedd Gorfforaethol a Defnyddio’r Logo

Lluniwyd logo Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol i adlewyrchu delwedd a chyfeiriad y Bwrdd. Mae’r cynnwys a’r steil (y graffeg a’r teipograffeg) yn hynod bwysig, ac mae’n rhaid cadw cysondeb. Mae’r logo ar y wefan wedi ei gymeradwyo gan y Bwrdd, ac yn barod i’w ddefnyddio mewn unrhyw gyhoeddiad, ond mae’n rhaid cadw o fewn y terfynau steil a nodir isod.

Darlun

Mae’r ddwy ‘C’ sy’n cyd-gloi yn gyffredin i holl fersiynau’r logo. Mae’n cynnwys ‘C’ fawr ddu yn wynebu ar i mlaen, sy’n cwmpasu ‘C’ wyrdd-las llai, yn wynebu ar i nôl. Dewiswyd lliw yr ‘C’ leiaf am nad ydyw’n cyfateb i unrhyw blaid wleidyddol ac o’r herwydd mae’n rhaid ei gopïo yn union. Yr arlliw a ddefnyddir yw Pantone 5483 (Cyan 70%, Magenta 30%, Melyn 50%) ar gyfer copïo’r lliw a 60% du ar gyfer fersiwn llwyd.

Image: logo details

Testun

Defnyddir y ffont Plantin ar gyfer y logo, gyda’r prif destun mewn llythrennau bras ac enwau’r gwledydd mewn italic a llythrennau bach. Rhaid i bawb sy’n defnyddio’r logo ar gyfer Cymru, gopïo’r logo dwyieithog cyfan, ni ddylech hepgor unrhyw un o’r ieithoedd.

Canllawiau cyffredinol

  • Rhaid copïo’r logo cyfan (hy darlun a thestun)
  • Peidiwch ag argraffu ar ben y logo
  • Peidiwch ag amgáu y logo o fewn llinellau neu siâp arbennig
  • Peidiwch ag argraffu’r logo mewn lliwiau cyffredin na’u gwrth-droi
  • Dylai’r logo ymddangos ar gefndir gwyn
  • Peidiwch â newid teip y logo

Peidiwch â gwyro o’r canllawiau hyn heb ganiatâd penodol gan yr Adran Gyfathrebu.

 

Nol i'r dudalen dadlwytho logo