[ENGLISH] [Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
Dadlwytho logoCewch ddewis o dri gwahanol fersiwn o logo Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol. Mae'r darluniau ar gael ar ffurf:
EPS rydym yn argymell i chi ddefnyddio hwn ar gyfer pob cyfrwng yr ydych yn bwriadu ei argraffu yn broffesiynol, gan ei fod yn bosib i amrywio'r eglurdeb. Dylech ddadlwytho'r logo yn y fersiwn yma, os ydych yn bwriadu argraffu'r logo yn broffesiynol neu os oes gennych y meddalwedd priodol i ddefnyddio'r ffeiliau. GIF dyma'r logo wedi ei gywasgu (gwneir hyn trwy gyfyngu nifer y lliwiau a ddefnyddir yn y logo i 16) mae hyn yn golygu ei fod yn dadlwytho ynghynt a dylech ei ddefnyddio os na fedrwch ddefnyddio ffeiliau EPS. Gall rhai argraffwyr proffesiynol gael trafferth i ddefnyddio GIF oherwydd y dull o storio'r lliwiau, os felly, dylech ddadlwytho naill ai Image Explorer Pro ar gyfer Windows, neu Graphic Converter ar gyfer Machintosh, bydd hwn yn gallu newid ffurf y ffeil. BMP dyma'r ffeiliau graffig mwyaf cyffredin. Gallwch ddefnyddio'r ffeiliau yma gyda dogfennau Word ond yn aml mae nhw'n rhy fawr i ffitio ar ddisg. Mae nhw'n cymryd amser i ddadlwytho. DPI ystyr hwn yw Dots Per Inch. Yr uchaf yw'r rhif yma, y gorau fydd ansawdd yr argraffu a gallwch chwyddo maint y darlun, dylech gofio fodd bynnag y bydd y ffeil yn fwy ar �l gwneud hyn.
Dadlwytho'r darluniau Bydd y rhan fwyaf o borwyr yn ceisio agor y darlun isod mewn ffenestr porwr yn hytrach na'i gadw ar ddisg. Er mwyn osgoi hyn defnyddiwch fotwm de (yn hytrach na botwm chwith) y llygoden i glicio ar y cyswllt ac yna dewiswch 'Save Link AS�' neu 'Save Target As�' o'r ddewislen, dewiswch leoliad yn eich ffeiliau a dewis 'Save'
| |||||||||||||||||||||||