|
[Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
CyflwyniadCroeso i ffurflen gais electroneg Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol. Cewch ei defnyddio i wneud cais i'r ddwy brif raglen grantiau, Gweithredu cymunedol a Tlodi a difreintedd . Mae'r fformat newydd yn well na'r un blaenorol pan oedd yn rhaid i chi ddadlwytho'r ffurflen fel pdf (Portable Document Format), oherwydd nawr mae'n bosib i gadw'r atebion wrth i chi lenwi'r ffurflen. Mae gweithio'n gyflymach ac mae'n bosib defnyddio'r ddisg Saesneg gyda darllenydd sgrîn a Braille ar gyfer rhai â nam ar eu golwg. Cliciwch yma i ddadlwytho'r ffurflen gais. Dewiswch leoliad i'r ffeil pan fydd yn gofyn am hynny. Awgrymwn eich bod yn ei gosod ar y 'Desktop'. Pan fydd y ffeil wedi gorffen dadlwytho, rhowch ddisg sy'n rhydd o firws yn y gyriant disg hyblyg. Cliciwch ddwywaith ar y ffeil sydd wedi ei dadlwytho. Agorir ffenestr â nifer o ddewisiadau: cliciwch ar 'Unzip'. Bydd y ffeiliau i gyd yn cael eu trosglwyddo i'r ddisg. PWYSIG. Mae'n rhaid i chi anfon y ffurflen gais atom ar ddisg ar ôl i chi ei llenwi. Ni fyddwn yn derbyn copi caled wedi ei argraffu o'r cyfrifiadur. Os ydych yn cael unrhyw drafferthion dadlwytho cliciwch ar y cwestiynau ac atebion ar y dudalen gwestiynau. Cyn i chi lenwi'r ffurflen gais dylech ddarllen y nodiadau ar y drefn ymgeisio. Cewch ddadlwytho'r nodiadau cynorthwyol fel ffeil pdf. Cliciwch yma i gyrraedd y ffeil. Dylai hwn roi yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch i wneud cais. Darllenwch hwn yn ofalus cyn llenwi'r ffurflen. Yn ogystal â'r wybodaeth gyffredinol dan Help ar y ddewislen, mae nodiadau cynorthwyol i'ch helpu gyda'r cwestiynau wedi eu lleoli gydol y ffurflen. Cliciwch ar unrhyw fotwm Help i weld y nodiadau cynorthwyol a phwyswch unrhyw fotwm i ddychwelyd i'r ffurflen. Ynglwn â ffurflenni cais Gweithredu cymunedol/Tlodi a difreinteddUn ffurflen gais sydd ar gyfer y ddwy brif raglen grantiau: Gweithredu cymunedol a Tlodi a difreintedd. Er hyn, mae'r wybodaeth ar sut i ymgeisio mewn pum fersiwn, Lloegr, Cymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r DG gyfan. Dadlwythwch y pecyn gwybodaeth perthnasol. Mae'r ffurflen a'r pecyn ar gael yn Saesneg (Cliciwch y botwm Saesneg i weld y ffurflen honno. Mae'n rhaid defnyddio Acrobat Reader fersiwn 3.01 neu uwch i weld y nodiadau ar y drefn ymgeisio. Os nad yw Acrobat Reader eisoes ar eich cyfrifiadur, cewch ddadlwytho copi ohono o'r dudalen ddadlwytho. Pan fyddwch wedi dadlwytho'r ffurflen ar ddisg, awgrymwn eich bod yn argraffu copi ohoni a'i dangos i bawb sydd angen ei gweld ac yna cwblhau'r ffurflen electroneg. Ar ôl gorffen y ffurflen dylech gadw copi ar y ddisg hyblyg wedi i chi gwblhau'r atebion. Mae'n rhaid i chi argraffu'r Datganiad ffurflen gais a gofalu fod pawb sydd angen gwneud, yn ei llofnodi. Am resymau cyfreithiol mae'n rhaid i'r holl lofnodion fod mewn llawysgrifen. Sut i ddefnyddio'r ffurflen gais electronegOs ydych yn gyfarwydd â Windows, dylech fedru defnyddio'r ffurflen gais electroneg heb lawer o gyfarwyddiadau manwl. Os ydych angen cymorth, darllenwch y llyfryn nodiadau a amgaewyd gyda'r ddisg, neu defnyddiwch 'Help' o'r ddewislen ac yna 'Symud o gwmpas y ffurflen gais'. Os yw'r problemau yn parhau ar ôl dilyn ein cyfarwyddiadau, ffoniwch 0845 727 3273. Hefyd mae nodiadau cynorthwyo trwy gydol y ffurflen i'ch helpu chi i ateb y cwestiynau. Cliciwch ar y botymau 'Help' i fynd at y nodiadau cynorthwyo a phwyswch unrhyw allwedd i ddychwelyd at y ffurflen. Cwblhau'r ffurflen Ar ôl i chi lenwi'r holl gwestiynau yn adrannau A, B, C (ac adran Ch os ydych yn ymgeisio fel consortiwm) bydd adran D yn gofyn i chi argraffu Datganiad ffurflen gais a'i lofnodi gan y swyddogion pwrpasol i orffen y cais. Ni ddylech newid y ffurflen gais wedi i chi argraffu'r Datganiad ffurflen gais. Postio eich cais Mae'n rhaid i chi ddychwelyd y ffurflen gais electroneg i ni ar y ddisg yma gyda'r Datganiad ffurflen gais ac unrhyw wybodaeth y gofynnwyd amdano. Cewch ddefnyddio'r amlen sydd wedi ei chynnwys ym mhoced cefn y pecyn cais. Amserlen ar gyfer dychwelyd y caisByddwn yn cyflwyno ffurflen gais newydd a gwell ar gyfer y prif grantiau ym mis Ebrill 2001. Byddwn yn parhau i brosesi ceisiadau ar y ffurflen bresennol nes fydd y ffurflenni newydd yn barod, ond mae'n rhaid i chi ddychwelyd y cais atom o fewn pedwar mis. Mae'r dyddiad ar gyfer dychwelyd eich cais wedi ei nodi ar flaen y ffurflen gais. Os na allwch ddychwelyd y cais erbyn y dyddiad hynny dylech ofyn am ffurflen newydd ym mis Ebrill. |