|
[Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
Holi ac ateb - Materion Technegol/YWeRhoddir crynodeb isod o'r cwestiynau mwyaf cyffredin mae BELG yn eu derbyn ynglyn a safle'r we. Os oes gennych gwestiwn nad yw yn cael ei ateb yma, a fyddech gystal ag ebostio hwnnw i weinyddwr y we, llenwi ffurflen ymholiadau ar linell neu'n ffonio ni. Sut fedra i dderbyn ffurflen gais ar gyfer ymgeisio am grant o'r we?Mae ffurflenni cais ar gyfer yr holl raglenni grant ar gael o'r safle gwe. Mae'r ffurflenni cais ar gael ar ffurff Adobe pdf (portable file document). Er mwyn darllen a defnyddio'r ffurflenni pdf rhaid i chi ddefnyddio meddalwedd Adobe Acrobat Reader sydd ar gael am ddim ar brif dudalen dadlwytho'n safle. Rydym yn argymell i chi ddaefnyddio Acrobat Reader 3.01 ar gyfer ein ffurflenni cais. A yw hi'n bosib i gadw gwybodaeth a lwythwyd ar ffurflen gais y we?Nid yw hi'n bosib cadw gwybodaeth a lwythwyd ar hyn o bryd. Mae dau reswm am hyn, oherwydd cyfyngiadau gwasanaeth Adobe Reader ac oherwydd trefniadau cyfreithiol ar ddiogelwch gwybodaeth y mae'n rhaid i'r Bwrdd Elusennau eu harddel. Mae'n bosib y gall hyn newid yn y dyfodol a hysbysebir unrhyw newidiadau ar y safle hwn. Gan nad yw'n bosib cadw gwybodaeth, yr ydym yn argymell eich bod yn llenwi ac argraffu un tudalen ar y tro yn hytrach na chwblhau'r ffurflen gyfan ar unwaith. Mae'n bosib hefyd i ddefnyddio rhaglen golygu testun (felWindows Notepad neu Microsoft Word) i deipio eich atebion, eu cadw ac yna torri a glynu i fewn i'r ffurflen gais yn Adobe Acrobat. Mae'r mwyafrif o ddogfennau yn caniatau i chi ddefnyddio CTRL C i gop�o/dorri y testun o un dogfen ac yna CTRL + V i lynu'r testun mewn dogfen arall. Os nad yw hyn yn gweithio ar eich peiriant chi, cyfeiriwch at lawlyfr y rhaglen. Sut fedra i ddadlwytho ffeil o'r rhyngrwyd?Mae'r drefn ar gyfer dadlwytho ffeil (ffurflen gais pdf) yr un fath ar y mwyafrif o borwyr:
NODYN: Gofalwch rhag clicio ar y botwm chwith ar y cyswllt dadlwytho, gall hyn agor yr hyn sy'n cael ei ddadlwytho ac achosu i'r system rewi dros dro. Pe bai hyn yn digwydd, caewch y porwr a chychwyn eto neu ail gychwyn eich cyfrifiadur. Pam nad yw'r ffurflen gais yn argraffu'n llwyddiannus?Gall hyn ddigwydd am nifer o resymau:
|