[ENGLISH] [General Info] [Media] [Contact] [Links] [Help] [Previous] |
27 Mehefin 2001 Dosbarthwyr loteri yn croesawu menter newydd i ariannu cymunedauMae'r Gronfa Gymunedol a'r Gronfa Cyfleoedd Newydd yn croesawu cyhoeddiad Tessa Jowell AS, Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (cynhadledd Lottery Monitor, 27 Mehefin) y byddant yn cydarwain menter newydd gwerth £15m i ariannu prosiectau cymunedol. Bydd y fenter hon yn targedu oddeutu 50 o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y DG sydd heb dderbyn eu cyfran o arian y loteri hyd yma. Dywedodd Cadeirydd y Gronfa Gymunedol , Diana Brittan: 'Mae'r Gronfa Gymunedol yn ymwybodol ers peth amser fod rhai ardaloedd difreintiedig heb gael llwyddiant wrth geisio am ein grantiau. Trwy ddatblygu'r fenter Brass for Barnsley 1998 ymhellach, rydym eisoes wedi targedu ardaloedd eraill ac wedi atgyfnerthu hyn yn ein Cynllun Strategol. Ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar yr ardaloedd i'w targedu yn y dyfodol, a byddwn yn cydweithio'n glos gyda'r Gronfa Cyfleoedd Newydd i sicrhau ein bod ni'n cydlynu'r gwaith. 'Rydym yn croesawu'r cyfle i gydweithio gyda'r Gronfa Cyfleoedd Newydd i sicrhau fod y fenter Rhoi cymunedau yn gyntaf yn llwyddo .' Dywedodd y Farwnes Jill Pitkeathley, Cadeirydd y Gronfa Cyfleoedd Newydd: "Mae'r Gronfa Cyfleoedd Newydd yn croesawu'r cynllun ar y cyd gyda'r Gronfa Gymunedol a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol heddiw. Mae'r cynllun newydd hwn yn cyd-fynd â'n nod o ganolbwyntio'n harian ar hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol. Mae'r Gronfa wedi ymrwymo i dargedu difreintedd cymdeithasol ar draws pob rhaglen ac edrychwn ymlaen at drafod y posibiliadau o ymarfer ein syniadau trwy'r rhaglen newydd hon." "Mae'n briodol i ddosbarthwyr loteri gydweithio pan fyddant yn rhannu'r un nod ac yn gallu cyflawni mwy o werth." Am ymholiadau y wasg cysylltwch â Deian Creunant, Swyddog Cyfathrebu ar 01686 611705 Nodiadau i olygyddion:
|