[ENGLISH] [General Info] [Media] [Contact] [Links] [Help] [Previous] |
26 Mehefin 2001 Dosbarthwyr loteri yn dod at ei gilydd i hwyluso'r drefn grantiau yng NghymruO heddiw ymlaen, bydd grwpiau cymunedol yng Nghymru yn medru defnyddio proses ymgeisio newydd a hwylus i gyrraedd cronfa o arian y Loteri Genedlaethol sy'n werth tua £2.5 miliwn y flwyddyn. Mae 'Arian i Bawb Cymru' yn bartneriaeth newydd o dri dosbarthwr arian loteri, y Gronfa Gymunedol, Cronfa Cyfleoedd Newydd a Chronfa Dreftadaeth y Loteri. Wrth gydweithio, byddant yn dyfarnu grantiau rhwng £500 a £5,000 i brosiectau sydd o fudd i gymunedau, ac sy'n dwyn pobl ynghyd i gymryd rhan yn eu cymuned trwy amrywiaeth eang o weithgareddau. Y brif amcan yw ariannu prosiectau sy'n dod â phobl at ei gilydd i gymryd rhan a mwynhau amrywiaeth eang o weithgareddau treftadaeth, elusennol, iechyd, addysgol, amgylcheddol a chymunedol. Wrth lansio 'Arian i Bawb Cymru' heddiw, dywedodd Jenny Randerson, Gweinidog y Cynulliad dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Iaith Gymraeg, bod y cynllun newydd yn ffordd gyflym a hawdd i gael arian loteri yn ôl i'r gymuned. "Bydd amrywiaeth eang o brosiectau ar draws y wlad sy'n cynnwys pobl yn nhreftadaeth, amgylchedd, iechyd ac addysg Cymru, yn medru manteisio a gall unrhyw grwp sy'n gweithio ar ran eu cymuned wneud cais." Mae Cadeirydd y Gronfa Gymunedol, Elisabeth Watkins, yn edrych ymlaen i'r ffordd newydd o weithio: "Mae'r cynllun yma wedi rhedeg yn llwyddiannus mewn rhannau eraill o'r DG ers peth amser, ac mae llawer o gymunedau wedi elwa o bartneriaeth y dosbarthwyr." Meddai Aelod o Fwrdd Cronfa Cyfleoedd Newydd yng Nghymru, Tom Davies, "Bydd llawer o brosiectau iechyd, addysg ac amgylcheddol yng Nghymru yn elwa o'r grantiau hyn. Mae'r arian yma'n perthyn i gymunedau Cymru, felly gorau po gyntaf y cawn yr arian iddynt." Meddai Chris Delaney, aelod o Bwyllgor Cronfa Treftadaeth y Loteri yng Nghymru: "Mewn rhannau eraill o'r DG mae Arian i Bawb wedi profi bod swm bach o arian yn medru gwneud gwahaniaeth mawr gan helpu i sicrhau dyfodol treftadaeth Cymru yng nghalon ei chymunedau." Croesewir ceisiadau o bob rhan o Gymru, yn enwedig gan grwpiau bach sydd yn cael eu rhedeg yn lleol; grwpiau newydd sydd heb dderbyn arian gan y loteri o'r blaen; ardaloedd ble mae gwasanaethau ac adnoddau yn brin; cymunedau du ac ethnig leiafrifol a chymunedau yr hen feysydd glo. Am fwy o wybodaeth a manylion ar sut i gael ffurflen gais, ffoniwch 0845 600 2040 neu edrychwch ar y wefan yn www.arianibawb.org.uk Cyfweld a lluniauJenny Randerson yn lansio cynllun loteri newydd yng Nghymru
Cyfweliadau: Swyddfa'r Wasg, Cronfa Gymunedol: Deian Creunant: 01686 611 705 neu 07811 269929 |