TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-




[ENGLISH]


[General Info]
[Media]
[Contact]
[Links]
[Help]
[Previous]

25 Mehefin 2001

Rhybudd gan y Gronfa Gymunedol

Mae dosbarthwr grantiau mwyaf Cymru yn rhybuddio grwpiau y bydd llai o arian ar gael yn ystod y flwyddyn nesaf ac yn y dyfodol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf dyfarnodd Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol, sydd bellach yn gweithredu fel y Gronfa Gymunedol, £21.5 miliwn i grwpiau yng Nghymru. Daeth hwn â'r cyfanswm gwariant grant yn y wlad i £115 miliwn a dros 3,000 o grantiau wedi eu dyfarnu. Ar gyfer y flwyddyn gyfredol mae'r gyllideb wedi ei gosod ar £15 miliwn, a chaiff y cyfan ei ddosbarthu erbyn Mawrth 2002.

Ar hyn o bryd mae dwy raglen grantiau, grantiau bychain (hyd at £5,000) a phrif grantiau (hyd at £300,000). Ni ddylai'r rhaglen grantiau bychain ddioddef gan fod £1.49 miliwn wedi ei glustnodi ar ei chyfer ac mae disgwyl na fydd angen gwrthod unrhyw gais i'r rhaglen grantiau bychain ar sail diffyg arian.

Serch hynny, dan y Brif Raglen Grantiau mae'n debygol y byddwn yn gorfod gwrthod sawl cais gan fod y cyfanswm sydd ar gael wedi lleihau'n sylweddol. Gan ddefnyddio cyfartaledd maint ceisiadau llynedd fel arweiniad, mae'n debygol maI 65 grant newydd fyddwn ni yn eu hariannu. Sef cyfartaledd o dri i bob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Ym mis Gorffennaf byddwn yn lansio rhaglen newydd, symlach yng Nghymru - rhaglen grant ar gyfer prosiectau sy'n costio hyd at £60,000. Caiff yr arian sydd ar gael ar gyfer y rhaglen hon ei adolygu yn ôl y galw. Os caiff mwy o grantiau eu dyfarnu o dan y rhaglen hon bydd nifer y grantiau yn cynyddu ond bydd cyfanswm yr arian sydd ar gael i'w ddosbarthu yn aros yn sefydlog yn £15 miliwn.

Eglurodd Roy Norris, Cyfarwyddwr y Gronfa Gymunedol yng Nghymru: "Rydym am i bobl ddeall fod y cyfanswm arian sydd ganddom yn lleihau a bod rhaid i benderfyniadau anodd gael eu gwneud. Bydd yn rhaid i ni barhau i wrthod ceisiadau gwych oherwydd diffyg arian. Y rhai sy'n fwyaf tebygol o ddioddef yw'r rheiny sy'n ceisio am arian i barhau a'u prosiect. Dyna pam mae'n fwy pwysig i grwpiau gynllunio i'r dyfodol a pheidio â chodi eu gobeithion yn ormodol pan yn ceisio am arian gan y Gronfa Gymunedol. Mae'r gystadleuaeth yn ffyrnig am yr arian sydd ar gael. Mae'n debygol mai dim ond tua 18 dyfarniad datblygu gaiff ei wneud eleni."

Mae'r Gronfa Gymunedol hefyd yn ymgynghori ar ei strategaeth i'r dyfodol ar gyfer y blynyddoedd 2002-2007 gan gynnwys y dewis o flaenoriaethau ar gyfer grantiau yn y dyfodol.

Os hoffech gymryd rhan ysgrifennwch at y Gronfa Gymunedol, 2il Lawr, T³ Ladywell, Y Drenewydd, Powys SY16 1JB neu ebost, enquiries.wales@community-fund.org.uk neu ffoniwch ar 01686 611 700 i gael copi o'r papur ymgynghori. Mae'r cyfnod ymgynghori yn agored tan 14 Medi 2001 a byddai eich sylwadau yn cael eu croesawu.

Am ymholiadau y wasg cysylltwch â Deian Creunant, Swyddog Cyfathrebu ar 01686 611705

Nodiadau i Olygyddon:

  1. Am ymholiadau neu rifau cyswllt grwpiau, cysylltwch â Debbie ar 01352 700208
  2. Mae'r Gronfa Gymunedol yn sefydliad annibynnol a ffurfiwyd gan y Senedd i ddosbarthu arian er mwyn cefnogi cymdeithasau elusennol, llesiannol a dyngarol. Mae yna 17 aelod o'r Gronfa, yn cynnwys y Cadeirydd. Mae penderfyniadau am grantiau yn cael eu gwneud gan yr aelodau mewn pwyllgorau grantiau yn cwmpasu Cymru, Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r DU gyfan.
  3. Mae rhaglen grantiau'r Gronfa Gymunedol yn cael eu gwobrwyo gan Bwyllgor Cymru. Aelodau'r Pwyllgor yng Nghymru yw Elisabeth Watkins (Cadeirydd), Jeff Carroll a Rhiannon Bevan. Aelodau cyfetholedig i'r Pwyllgor yw Margaret Davies, Aled Siôn a Dr Glyn Williams.
  4. Prif nôd y Gronfa yw i roi grantiau i helpu'r rhai sydd fwyaf difreintiedig mewn cymdeithas ac i wella ansawdd bywyd yn y gymuned.
  5. Ers Hydref 1995, mae'r Gronfa Gymunedol, o dan y prif grantiau, wedi gwobrwyo dros £109 miliwn i 1086 o grwpiau yng Nghymru. Mae dros £5.8 miliwn wedi ei wobrwyo i 2,131 o grwpiau o dan y Cynllun grantiau bach. Mae hyn yn dod a'r cyfanswm a ddosbarthwyd yn Nghymru, dros bum mlynedd, i dros £115 miliwn.
  6. Mae rhestr llawn o grantiau'r Gronfa Gymunedol yn gyhoeddedig ar y rhyngrwyd ar www.community-fund.org ac mae rhestrau llawn o holl ddosbarthwyr grantiau'r Loteri wedi eu rhestru ar www.lottery.culture.gov.uk.

Nodyn i Gynllunwyr

Mae logo'r Gronfa Genedlaethol yn ymddangos ar y datganiad i'r wasg yma. (Mae'r logo "bysedd wedi eu croesi" yn arwyddnod i'r Loteri Genedlaethol ac felly nid yw ar gyfer defnydd y Gronfa Genedlaethol)