TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-




[ENGLISH]


[General Info]
[Media]
[Contact]
[Links]
[Help]
[Previous]

14 Mehefin 2001

Grantiau bach i Dde Cymru

Mae grwpiau ledled y wlad yn dathlu wedi i'r Gronfa Gymunedol yng Nghymru gyhoeddi'r grantiau diweddaraf dan y Rhaglen grantiau bychain.

Bydd grant o £3,048 i Ganolfan galw-heibio defnyddwyr adnoddau'r Coed Duon yng Nghaerffili yn gwneud gwahaniaeth mawr. Wedi ei sefydlu yn1997 i helpu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a'u ffrindiau a'u teuluoedd, mae'r grwp yn darparu cefnogaeth a chyngor yn y ganolfan, bum diwrnod yr wythnos. Mae'n achubiaeth i lawer ohonynt.

Mae'r ganolfan 'galw-heibio' yn agored i bawb ac mae nifer o bobl yn taro i mewn am gyngor ar iechyd personol a iechyd eu hanwyliaid. Mae'n le diogel sy'n galluogi pobl i rannu profiadau ac i helpu eu hunain. Mae taflenni gwybodaeth ar lawer o bynciau ar gael ac mae gwirfoddolwyr wrth law i wrando a chynnig cyngor.

Mae yna, ar gyfartaledd, 400 ymweliad i'r Ganolfan pob mis ac mae'r Trysorydd, Helen Potter yn dweud bod y gwirfoddolwyr a'r defnyddwyr wedi eu bodd: "Mae'n holl waith yn wirfoddol a bydd yr arian yma yn ein galluogi i wneud y Ganolfan yn fwy effeithiol yn nhermau cyfarpar ac yn le mwy dymunol i'n ymwelwyr."

Mewn mannau eraill o Dde Cymru, mae cymdeithasau eraill wedi elwa trwy'r grantiau diweddaraf. Ledled y wlad mae 54 cymdeithas yn rhannu cyfanswm o £144,455.

Ym Mhen y bont ar Ogwr, mae Talbot Institute Group Revival Enterprise yn derbyn £2,000 i helpu'r grwp i edrych ar y posibilrwydd o brynu ac adnewyddu hen adeilad glowyr ar gyfer defnydd cymunedol ac yng Nghaerdydd mae Roath Park Golden Friendship Club yn cael £900 ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol i'r henoed.

Bydd grant o £1,149 i Grwp Chwarae 'Stepping Stones' Raglan yn Sir Fynwy yn darparu hyfforddiant, cyfarpar a sied ardd ac yng Nghastell Nedd a Phort Talbot mae Pensiynwyr Sgiwen yn derbyn £4,990 i ddarparu gwyliau byr yn ystod yr haf.

Yn Rhondda Cynon Taf mae tri grwp henoed yn elwa. Mae Cangen Henoed Penywaun yn cael £1,250 ar gyfer offer cegin a thripiau dydd, mae Grwp Henoed Penygawsi yn derbyn £2,395 ar gyfer tripiau bws, adloniant a phrydau ac mae Cymdeithas Henoed Pontygwaith yn derbyn £2,940 ar gyfer gweithgareddau adloniant ac offer swyddfa.

Dau grwp sy'n elwa yn Abertawe yw Burma Star Association Western Area sy'n derbyn £1,532 i gynnal gwasanaeth coffa yn Aberhonddu ar gyfer aelodau'r grwp ac y Royal Welch Fusiliers Comrades Association (Cangen Abertawe) sy'n cael £5,000 i ddarparu aduniad catrawd yng Nghaer.

Mae Sefydliad y Merched Saint Athan yn Nyffryn Morgannwg yn derbyn £4,032 ar gyfer cyrsiau hyfforddiant ac mae Cymdeithas Dynion wedi ymddeol Pontypwl yn cael £850 ar gyfer tripiau. Mae Cymorth Ariannol i Bobl Anabl sy'n gweithio ar draws Cymru gyfan ac sydd wedi ei lleoli yng Nghwmbran yn derbyn £3,576 ar gyfer offer cyfathrebu.

Mae dros £115 miliwn wedi ei ddosbarthu i grwpiau gwirfoddol gan y Gronfa Gymunedol yng Nghymru (Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol gynt) i daclo tlodi ac i hyrwyddo gweithredu cymunedol.

Nodiadau i Olygyddon:

  1. Am ymholiadau neu rifau cyswllt grwpiau, cysylltwch â Debbie ar 01352 700208
  2. Mae'r Gronfa Gymunedol yn sefydliad annibynnol a ffurfiwyd gan y Senedd i ddosbarthu arian er mwyn cefnogi cymdeithasau elusennol, llesiannol a dyngarol. Mae yna 17 aelod o'r Gronfa, yn cynnwys y Cadeirydd. Mae penderfyniadau am grantiau yn cael eu gwneud gan yr aelodau mewn pwyllgorau grantiau yn cwmpasu Cymru, Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r DU gyfan.
  3. Mae rhaglen grantiau'r Gronfa Gymunedol yn cael eu gwobrwyo gan Bwyllgor Cymru. Aelodau'r Pwyllgor yng Nghymru yw Elisabeth Watkins (Cadeirydd), Jeff Carroll a Rhiannon Bevan. Aelodau cyfetholedig i'r Pwyllgor yw Margaret Davies, Aled Siôn a Dr Glyn Williams.
  4. Prif nôd y Gronfa yw i roi grantiau i helpu'r rhai sydd fwyaf difreintiedig mewn cymdeithas ac i wella ansawdd bywyd yn y gymuned.
  5. Ers Hydref 1995, mae'r Gronfa Gymunedol, o dan y prif grantiau, wedi gwobrwyo dros £109 miliwn i 1086 o grwpiau yng Nghymru. Mae dros £5.8 miliwn wedi ei wobrwyo i 2,131 o grwpiau o dan y Cynllun grantiau bach. Mae hyn yn dod a'r cyfanswm a ddosbarthwyd yn Nghymru, dros bum mlynedd, i dros £115 miliwn.
  6. Mae rhestr llawn o grantiau'r Gronfa Gymunedol yn gyhoeddedig ar y rhyngrwyd ar www.community-fund.org ac mae rhestrau llawn o holl ddosbarthwyr grantiau'r Loteri wedi eu rhestru ar www.lottery.culture.gov.uk.

Nodyn i Gynllunwyr

Mae logo'r Gronfa Genedlaethol yn ymddangos ar y datganiad i'r wasg yma. (Mae'r logo "bysedd wedi eu croesi" yn arwyddnod i'r Loteri Genedlaethol ac felly nid yw ar gyfer defnydd y Gronfa Genedlaethol)