[ENGLISH] [General Info] [Media] [Contact] [Links] [Help] [Previous] |
14 Mehefin 2001 Grantiau bach i Ogledd CymruMae grwpiau ledled y wlad yn dathlu wedi i'r Gronfa Gymunedol yng Nghymru gyhoeddi'r grantiau diweddaraf dan ei Rhaglen grantiau bychain. Derbyniodd Cymdeithas Gwarchod Cymdogaeth Sir y Fflint, sy'n gweithio'n galed i feithrin cysylltiadau cymunedol cryfach ledled y sir, £1,410 i gynnal cynhadledd ar gyfer gwirfoddolwyr Gwarchod Cymdogaeth a Chynnal Dioddefwyr. Cynhaliwyd y gynhadledd yn ddiweddar ar y cyd â Chefnogaeth Dioddefwyr Sir y Fflint, a daeth hanner cant o gynrychiolwyr yno. Yn ystod y gynhadledd siaradodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru, Clive Wolfendal, am bwysigrwydd cefnogi pobl sy'n agored i niwed, gweithio ar y cyd a dinasyddiaeth dda. Mae Graham Harper, cadeirydd y Gymdeithas yn Sir y Fflint, wrth ei fodd o dderbyn y grant. Meddai: "Nid atal troseddu a lladron yn neidio dros waliau yw unig amcan Gwarchod Cymdogaeth; mae'r Gymdeithas hefyd yn gofalu am bobl, er enghraifft gwarchod yr henoed a'r bobl ifanc sydd o'n cwmpas. Rydym yn ceisio datblygu syniadau i geisio cynnwys pobl ifanc yn y Gymdeithas ac i recriwtio mwy o wirfoddolwyr yn gyffredinol a hybu pobl i gymeryd cyfrifoldeb am y pethau sy'n digwydd yn eu cymdogaeth a'u cymdeithas." Sefydlwyd Cymdeithas Gwarchod Cymdogaeth Sir y Fflint ym 1997 ac mae ganddynt 52 cyd-lynnydd ardal a 616 cyd-lynnydd stryd sy'n cwmpasu 9,588 o gartrefi. Mewn mannau eraill o Ogledd Cymru, mae cymdeithasau eraill wedi elwa trwy'r grantiau diweddaraf. Ledled y wlad mae 54 cymdeithas yn rhannu cyfanswm o £144,455. Un o bedwar o grwpiau i elwa yng Nghonwy yw Cymdeithas Gofal Maeth Conwy sy'n derbyn £750 i ddatblygu gwaith y grwp mewn ardaloedd gwledig o'r ardal ac yn Sir Ddinbych mae Cylch Meithrin Rhuthun yn cael £3,494 i wella'u cyfleusterau grwp chwarae. Yn Sir y Fflint mae pump grwp yn dathlu gan gynnwys Clwb Cinio Fflint a Bagillt, sy'n cael £775 i gynyddu'r nifer o weithgareddau cymdeithasol sy'n cael eu cynnig a Cylch Merched Mostyn sy'n cael £1,500 ar gyfer tripiau i grwp o henoed. Cymdeithas Merched Tseinëaidd Gogledd Cymru yn darparu gwell gweithgareddau cymdeithasol ac addysgol ac mae Cylch Meithrin Gellilydan a Chylch Meithrin Gerlan yn derbyn £684 a £720 i wella eu hadnoddau. Ar Ynys Môn, mae Cylch Meithrin Llangristiolus yn derbyn £1,271 ar gyfer cyfarpar chwarae, byrddau a chadeiriau. Mae dros £115 miliwn wedi ei ddosbarthu i grwpiau gwirfoddol gan y Gronfa Gymunedol yng Nghymru (Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol gynt) i daclo tlodi ac i hyrwyddo gweithredu cymunedol. Nodiadau i Olygyddon:
Nodyn i Gynllunwyr Mae logo'r Gronfa Genedlaethol yn ymddangos ar y datganiad i'r wasg yma. (Mae'r logo "bysedd wedi eu croesi" yn arwyddnod i'r Loteri Genedlaethol ac felly nid yw ar gyfer defnydd y Gronfa Genedlaethol) |