[ENGLISH] [General Info] [Media] [Contact] [Links] [Help] [Previous] |
14 Mehefin 2001 Prif grantiau i Dde CymruMae grwpiau ledled y wlad yn dathlu wedi i'r Gronfa Gymunedol yng Nghymru gyhoeddi'r grantiau diweddaraf dan ei Prif raglen grantiau. Ym Mro Morgannwg bydd grant o £258,198 yn gwneud gwahaniaeth mawr i Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Bro Morgannwg sydd wedi ei leoli yn Y Barri. Bydd y grant, dros dair blynedd, yn ariannu tair swydd llawn amser, yn cefnogi grwpiau'r sector gwirfoddol a magu cysylltiadau â'r gymuned fusnes. Meddai'r Cyfarwyddwr Dave Maggs: "Golyga hyn ein bod yn medru adeiladu ar y gwaith cynnar a wnaethpwyd ar y cynlluniau, ac ehangu ein gwasanaethau, yn arbennig yng Ngorllewin y Fro. Amcan 'Voluntary Link', un o brosiectau allweddol y Cyngor Gwirfoddol yw bod o fudd i gymdeithasau gwirfoddol bach a mawr trwy greu cyfarpar, darparu gwybodaeth a chyngor, hyrwyddo ymarferiad da rhwng grwpiau a hybu cydweithio rhwng grwpiau gwirfoddol, cymdeithasau gwirfoddol a chyrff cyfreithiol. "Mae ein cynllun allweddol arall, 'Business Link' yn fenter i ddatblygu cysylltiadau gwaith ac ewyllys da rhwng y sector gwirfoddol a busnesau lleol. Rydym hefyd yn annog pobl fusnes i gymryd rhan mewn gwaith gwirfoddol a chymryd diddordeb gweithredol yn ein gwaith." Ar hyn o bryd mae 250 o gymdeithasau gwirfoddol yn aelodau o'r Cyngor Gwirfoddol ac mae'r nifer yn cynyddu. Gyda chymorth y gweithwyr newydd, mae'r gymdeithas yn anelu at gynyddu'r ffigwr yma 20 y cant dros y tair blynedd nesaf. Mewn mannau eraill o Dde Cymru, mae cymdeithasau eraill wedi elwa trwy'r grantiau diweddaraf. Ledled y wlad mae 18 cymdeithas yn rhannu cyfanswm o £2,285,104. Yng Nghaerffili bydd grant o £72,060 dros dair blynedd i Brosiect Cyffuriau ac Alcohol lslwyn yn darparu gwasanaeth gwybodaeth angenrheidiol ar gam-ddefnyddio cyffuriau ac alcohol yng Nghwm Rhymni Uchaf. Mewn man arall o'r sir, bydd Neuadd Bentref Llanfach yn cael ei adnewyddu diolch i grant o £89,444 am gyfarpar a ffioedd proffesiynol. Mae'r mudiad ieuenctid Urdd Gobaith Cymru yn derbyn £89,662 ar gyfer prosiect i gynyddu'r ddarpariaeth o gyfleusterau a chlybiau trwy gyfrwng y Gymraeg i bobl ifanc yn ardal Caerdydd. Bydd y prosiect yn gweithio gyda Menter Iaith Caerdydd a Chyngor Sir Caerdydd. Hefyd yn y brifddinas, mae Shortlife Housing (Cymru) Ltd. yn derbyn £164,918 i ddarparu cefnogaeth a chyngor i bobl sydd mewn llety dros dro neu mewn tenantiaeth am y tro cyntaf. Yn Abertawe, bydd Cynllun Ceir Cymunedol Ystalyfera yn medru prynu cerbyd newydd wedi ei addasu'n arbennig er mwyn cludo pobl i'r meddyg neu'r ysbyty diolch i grant o £15,200 ac yn Nhorfaen, mae Cymorth Ariannol i Bobl Anabl yn derbyn £26,350 i gyflogi codwr arian i wneud ceisiadau ariannu ar ran pobl anabl sydd methu gwneud ceisiadau eu hunain. Hefyd yn Nhorfaen, mae'r Partneriaeth Garnsychan, wedi ei leoli ym Mhontypwl yn cael £180,687 i gyflogi tri gweithiwr cymunedol ac ym Morgannwg Ganol mae Cyngor Cydraddoldeb Hiliol y Cymoedd yn derbyn £97,670 dros dair blynedd i gyflogi Swyddog Aflonyddwch Hiliol. Mae dros £115 miliwn wedi ei ddosbarthu i grwpiau gwirfoddol gan y Gronfa Gymunedol yng Nghymru (Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol gynt) i daclo tlodi ac i hyrwyddo gweithredu cymunedol. Am ffurflenni cais neu fwy o wybodaeth ffoniwch: 0845 791 9191 (Saesneg) neu 0845 727 3273 (Cymraeg) Nodiadau i Olygyddon:
Nodyn i Gynllunwyr Mae logo'r Gronfa Genedlaethol yn ymddangos ar y datganiad i'r wasg yma. (Mae'r logo "bysedd wedi eu croesi" yn arwyddnod i'r Loteri Genedlaethol ac felly nid yw ar gyfer defnydd y Gronfa Genedlaethol) |