[ENGLISH] [General Info] [Media] [Contact] [Links] [Help] [Previous] |
14 Mehefin 2001 Prif grantiau yng Ngogledd CymruMae grwpiau ledled y wlad yn dathlu wedi i'r Gronfa Gymunedol yng Nghymru gyhoeddi'r grantiau diweddaraf dan ei Prif raglen grantiau. Bydd gwasanaethau Vision Enhancement Services Ltd. sydd wedi ei leoli yn Yr Wyddgrug ac sy'n gwasanaethu Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael eu ehangu, wedi iddynt dderbyn grant o £279,346 at y gost o uned symudol sy'n llawn o'r dyfeisiadau diweddaraf, saith gweithiwr rhan amser a hyfforddiant. Wedi ei sefydlu'n wreiddiol yn 1876, mae'r gymdeithas yn darparu cefnogaeth ymarferol i bobl o bob oed yn yr ardal, sydd â nam ar eu golwg a hefyd yn anelu at wella ansawdd bywyd trwy hyrwyddo annibyniaeth a chodi ymwybyddiaeth gyffredinol o anghenion pobl sydd â nam ar eu golwg. Mae canolfannau Vision Resource yn Yr Wyddgrug, Y Rhyl a Wrecsam yn darparu cefnogaeth a chyngor arbenigol yn ogystal â chyfarpar wedi eu haddasu, fel cymhorthion gwybodaeth technoleg, oriorau a meicrodonau sy'n siarad, teleffonau sydd â botymau mawr a pheiriannau cyflenwi diferion llygaid, i helpu pobl sydd â nam ar eu golwg gyda bywyd dyddiol. Gyda chymorth yr uned symudol, bydd y gwasanaethau hyn o fewn cyrraedd i bobl mewn ardaloedd gwledig. Mae Prif Swyddog y gymdeithas, Wendy Wedmore yn dweud bod yr elusen wrth eu bodd â'r newyddion: "Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gyflawni anghenion pobl sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig, sydd efallai'n methu dod i'n Canolfannau Adnoddau. Bydd yr uned symudol yn medru mynd yn uniongyrchol i ganol y gymdeithas; i'r henoed a'r rhai syn byw mewn ardaloedd anghysbell, mae'n wasanaeth hynod werthfawr. "Fel cymdeithas, rydym yn cefnogi pobl i wneud eu penderfyniadau eu hunain. Rydym yn cynnig ymweliadau cartref a chymwynaswyr, gweithgareddau hamdden a chymdeithasol yn ogystal â gwaith cefnogol, cymorth ymarferol, cyngor am fuddiannau, cefnogaeth a chyngor." Credir bod 1 o bob 6 o'r boblogaeth â nam ar eu golwg ac ar hyn o bryd mae'r gymdeithas yn helpu 3,000 o bobl ledled Gogledd Cymru a Sir Gaer. Mewn mannau eraill o Ogledd Cymru, mae cymdeithasau eraill wedi elwa trwy'r grantiau diweddaraf. Ledled y wlad mae 18 cymdeithas yn rhannu cyfanswm o £2,285,104. Ar Ynys Môn mae Cymdeithas Hamdden Esceifiog yn derbyn £40,105 ar gyfer adeiladu cae chwarae ynghyd â chyfarpar chwarae i blant lleol, a ledled Cymru mae Contact a Family yn cael £351,453 i ehangu'r ddarpariaeth o wybodaeth a chefnogaeth i deuluoedd sydd yn gofalu am blant ag anableddau, trwy benodi pum cynrychiolydd gwirfoddol lleol ychwanegol. Mae dros £115 miliwn wedi ei ddosbarthu i grwpiau gwirfoddol gan y Gronfa Gymunedol yng Nghymru (Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol gynt) i daclo tlodi ac i hyrwyddo gweithredu cymunedol. Am ffurflenni cais neu fwy o wybodaeth ffoniwch: 0845 791 9191 (Saesneg) neu 0845 727 3273 (Cymraeg) Nodiadau i Olygyddon:
Nodyn i Gynllunwyr Mae logo'r Gronfa Genedlaethol yn ymddangos ar y datganiad i'r wasg yma. (Mae'r logo "bysedd wedi eu croesi" yn arwyddnod i'r Loteri Genedlaethol ac felly nid yw ar gyfer defnydd y Gronfa Genedlaethol) |