[ENGLISH] [General Info] [Media] [Contact] [Links] [Help] [Previous] |
13 Mehefin 2001 Cronfa Gymunedol i ymgynghori â'r cyhoedd ynglyn â sut mae'n dosbarthu arian LoteriMae'r Gronfa Gymunedol, un o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, yn edrych am ystod eang o olygon barn ynglyn â'r ffordd mae'n ariannu grwpiau cymunedol ac elusennol yn y dyfodol. Bydd y gwaith ymgynghori hwn yn ei helpu i baratoi cynllun ariannu pum mlynedd ar gyfer 2002-2007. Mae'r Gronfa Gymunedol yn credu ei fod yn hollbwysig i dargedu'r arian sydd ganddo at ardaloedd blaenoriaeth ac ystyried anghenion tymor hir. Mae wedi ymrwymo i glustnodi ardaloedd o'r wlad sydd, hyd yn hyn, wedi colli allan ar gyfran deg o'r grantiau, a grwpiau o bobl gydag anghenion tymor hir. Yn ystod y blynyddoedd nesaf bydd gan y Gronfa Gymunedol lai o arian i ddosbarthu nad oedd ganddo yn y pum mlynedd cyntaf. Yn ogystal â thargedu mwy bydd yn gostwng y costau gweinyddu er mwyn sicrhau y bydd yn parhau i fod yn gorff ariannu effeithiol ar gyfer y sectorau elusennol a gwirfoddol. Mae dogfennau ymgynghori yn cael eu danfon at fudiadau yn y sector gwirfoddol a chyrff eraill sydd â diddordeb o'r 13eg Mehefin a rhaid eu dychwelyd erbyn 14eg Medi. Caiff cyfarfodydd eu cynnal ar draws y wlad lle caiff barn y bobl ei gasglu. Caiff y canlyniadau eu asesu a'u bwydo i Gynllun Strategol drafft y Gronfa Gymunedol, a gaiff ei gyhoeddi cyn y Nadolig. 'Rydym yn credu y byddwn yn fwy effeithiol os y gallwn fod yn fwy strategol a thymor hir wrth ddyfarnu grantiau,' meddai Diana Brittan, Cadeirydd y Gronfa Gymunedol. 'Fel ag y dywedwyd yn ystod ymgyrch yr etholiad, yr her sydd yn ein wynebu yw i adnabod a helpu ardaloedd penodol sydd yn anghenus, yn enwedig rheiny sydd wedi derbyn llai o grantiau na'u haeddiant, tra'n parhau i gynorthwyo ystod eang o elusennau a grwpiau gwirfoddol drwy'r wlad. 'Rwy'n siwr y gallwn ymateb i'r her hwn a chyfranogi i unrhyw fenter newydd sydd â ffocws cymunedol.' Mae'r dogfennau ymgynghori ar gael ar wefan y gronfa Gymunedol ar www.cronfa-gymunedol.org.uk Cyswllt y wasg: Robert Blow, 020 7747 5227 |