[ENGLISH] [General Info] [Media] [Contact] [Links] [Help] [Previous] |
11 Mehefin 2001 Cronfa Gymunedol yn lansio rhaglen grantiau ymchwilArian loteri ar gyfer ymchwil cymdeithasol a meddygol Mae'r Gronfa Gymunedol heddiw wedi lansio rhaglen grantiau ymchwil newydd, gyda'r nod o hybu iechyd a lles cymdeithasol. Mae'r Gronfa Gymunedol yn annog, yn enwedig, geisiadau i ariannu prosiectau ymchwil sy'n rhoi'r ffocws ar bobl ifanc, pobl h³n, pobl o grwpiau Du a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anawsterau dysgu. Bydd angen i geisiadau llwyddiannus ddangos sut y bydd pobl yn ymwneud â ac yn elwa o'r prosiect a strategaeth ar gyfer rhannu canlyniadau'r ymchwil. Bydd yn dosbarthu hyd at £8 miliwn mewn grantiau yn y flwyddyn gyntaf er mwyn cwrdd â'r nodau hyn. Croesawodd Stuart Etherington, prif weithredwr y Cyngor Cenedlaethol o Fudiadau Gwirfoddol ac Aelod o'r Cyngor Economaidd ac Ymchwil Cyndeithasol (ESRC), y rhaglen newydd hon: "Mae'r Gronfa Gymunedol wedi gwneud yn glir ei fod yn awyddus i gefnogi elusennau sydd angen gwneud ymchwil i achosion o ddifreintedd cymdeithasol er mwyn delio â nhw yn fwy effeithiol. Bydd hon yn raglen gwerthfawr a dyfeisgar ar gyfer y sector gwirfoddol." Dywedodd Diana Brittan, Cadeirydd y Gronfa Gymunedol: "Bydd y rhaglen hon yn annog ymchwil o safon uchel i helpu elusennau a mudiadau gwirfoddol i ddatblygu ymatebion dyfeisgar i faterion cyfoes a chynnig strategaethau allai ateb pryderon yn y dyfodol. Rydym yn gobeithio y bydd elusennau yn cael eu annog i gynyddu eu cysylltiad â gweithgareddau ymchwil, a chydweithio â chyrff ymchwil." Ni fydd dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i'r rhaglen, a bydd penderfyniadau ynglyn â grantiau yn cael eu gwneud ddwywaith y flwyddyn. Gan ddibynnu ar y mathau o geisiadau a'r niferoedd, mae'r Gronfa Gymunedol yn disgwyl gwneud y dyfarniadau cyntaf yn y rhaglen newydd yn y Gaeaf 2001 ac yna yng Ngwanwyn 2002. Cyswllt y Wasg: Robert Blow 020 7747 5227 Caiff manylion y rhaglen eu cyhoeddi yn y pecyn cais, sydd ar gael drwy ffonio 0845 727 3273 neu oddiar wefan y Gronfa Gymunedol ar: www.cronfa-gymunedol.org.uk |