TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-




[ENGLISH]


[General Info]
[Media]
[Contact]
[Links]
[Help]
[Previous]

19 Gorffennaf 2001

Llawenydd i Grwpiau De Cymru

Mae grwpiau ledled y wlad yn dathlu wedi i'r Gronfa Gymunedol yng Nghymru gyhoeddi'r rownd ddiweddaraf o Grantiau bychain.

Mae Heartbeat 95, grw^p cefnogaeth i bobl sydd ag afiechyd ar y galon sydd wedi ei leoli ym Merthyr Tydfil ac Aberdare, wedi derbyn £4,182 i wella eu gwasanaeth i gleifion cardiac yn yr ardal.

Sefydlwyd y grw^p yn 1995 i helpu pobl sydd wedi cael llawdriniaeth neu sy'n dioddef o gyflwr ar y galon. Mae 200 o aelodau ar hyn o bryd, ond mae'r grw^p yn helpu unrhyw un sy'n cysylltu â nhw ar eu llinell gymorth 24-awr.

Mae Heartbeat 95 yn un o ddwy linell gymorth sydd ar gael i gleifion cardiac yng Nghymru. Mae'r grw^p hefyd yn darparu gwasanaeth cludiant i gleifion i'w cario'n ddidrafferth i'r ysbyty ac i ddosbarth cadw'n heini sydd wedi ei addasu'n arbennig gan ffisiotherapydd proffesiynol i gleifion cardiac.

Dywedodd Eric Leslie, a helpodd sefydlu Heartbeat 95, ei fod wrth ei fodd â'r grant a fydd yn gymorth mawr i'r rhai sydd yn dioddef anhwylder ar y galon: "Cafodd fy mywyd ei newid wedi i mi ddioddef problemau â'r galon, a theimlais y gallwn wneud mwy i helpu cleifion cardiac" meddai.

"Bydd y grant yn help mawr, a bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer costau cyffredinol, costau gwirfoddolwyr, hysbysebu ar gyfer y llinell gymorth a dosbarthiadau cadw'n heini. Byddwn yn symud swyddfa ym mis Medi er mwyn darparu sesiynau cynghori un i un, a bydd y grant yn helpu gyda'r costau o sefydlu'r gwasanaeth."

Mewn mannau eraill o Dde Cymru, mae cymdeithasau eraill wedi elwa trwy'r rownd ddiweddaraf o Grantiau bychain. Ledled y wlad mae 66 cymdeithas yn rhannu cyfanswm o £214,175.

Mae grw^p Cefnogaeth Teulu a Chyffuriau ym Mlaenau Gwent yn derbyn £4,984 ar gyfer dodrefn ac offer, costau gwirfoddolwyr, hyfforddiant ac argraffu, ac ym Mhen y bont ar Ogwr, mae Grw^p Llywio Capel Bethel yn cael £3,102 ar gyfer datblygu adeilad cymunedol. Hefyd ym Mlaenau Gwent mae Cymdeithas Pensiynwyr Abercynffig a'r Fro yn derbyn £5,000 i gynyddu'r gweithgareddau cymdeithasol sy'n cael eu cynnig i'r henoed.

Mae Caerffili yn derbyn cyfanswm o £21,759 wedi ei rannu rhwng chwe grw^p gan gynnwys Prifysgol y Drydedd Oes y Coed Duon, sydd yn derbyn £2,668 i ariannu prosiect i gynyddu gweithgareddau addysgol i bobl hyn. Eraill sy'n dathlu yw, '2353 Ystrad Mynach Squadron ATC' gyda £4,951 i ddarparu offer cyfrifiadurol er mwyn gwella'u cyfleusterau cyfathrebu ac mae Clwb Ieuenctid St. Helens yn derbyn £5,000 ar gyfer offer sy'n cynnwys setiau radio pen, peiriant karaoke ac adnoddau sglefrio.

Mae pum grw^p yng Nghaerdydd yn cynnwys Sefydliad Merched Gwaelod-y-Garth, sy'n derbyn £2,101 ar gyfer cyrsiau hyfforddi a thripiau cymdeithasol ac mae Antur Cymuned Myfyrwyr Caerdydd (CSCA) yn derbyn £2,155 er mwyn datblygu gweinyddiaeth y grw^p.

Ym Merthyr mae 6ed Sgowtiaid Merthyr yn derbyn £5,000 ar gyfer gwres canolog nwy ac yn Sir Fynwy mae Pwyllgor Canolfan Adloniant a Neuadd Bentref Tyndyrn yn cael £3,284 er mwyn prynu byrddau i'r neuadd bentref.

Mae Grw^p Chwarae Cefnogaeth Rainbow yng Nghastell Nedd Port Talbot yn derbyn £520 ar gyfer teganau ac offer, a bydd Partneriaeth Cymuned Pillgwenlly yn elwa gyda £4,487 er mwyn sefydlu a chyhoeddi cylchlythyr cymunedol, gyda'r grant yn ariannu offer TG, costau argraffu a chostau adeiladu.

Yn Rhondda Cynon Taf, mae dau grw^p henoed yn elwa. Mae Pensiynwyr Cwmbach a Llwydcoed yn derbyn £4,900 a £1,218 ac mae Ffrindiau Rhigos Kids yn derbyn £4,769 ar gyfer cynllun chwarae Haf.

Mae saith grw^p yn Abertawe yn rhannu £21,543 gan gynnwys Cymdeithas Underhill 2000 sy'n cael £5,000 ar gyfer datblygu canolfan gymunedol. Mae grwpiau eraill o henoed yn dathlu gan gynnwys Clwb 'Cheery Boys' Manselton sy'n cael £974 ar gyfer offer snwcer ac mae Clwb Te Prynhawn Pennard yn derbyn £1,400 ar gyfer cludiant, prydau ac offer. Mae Cylch Meithrin Clydach hefyd yn elwa gyda £2,414 ar gyfer offer, teganau, defnydd celf a chrefft a chostau staff.

Mae Adran Pobl wedi ymddeol Gorllewin Y Barri yn Nyffryn Morgannwg yn derbyn £1,498, ar gyfer tripiau, taflunydd a sgrîn, bwrdd, ciwiau a chardiau chwarae ac yn Nhorfaen mae Cylch Meithrin Cwmbran yn cael £2,580 am gyfrifiadur, stand a lamineiddiwr, ac mae Pwyllgor Lles Henoed Pontymoile yn cael £5,000 er mwyn ailosod lloriau, carpedi, drysau a chadeiriau yn adeilad y grw^p.

Mae dros £116 miliwn wedi ei ddosbarthu i grwpiau gwirfoddol gan y Gronfa Gymunedol yng Nghymru (Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol yn flaenorol) i dargedu tlodi ac i hyrwyddo gweithredu cymunedol.

Am ffurflenni cais neu fwy o wybodaeth ffoniwch:
0845 600 2040

Nodiadau i olygyddion:

  1. Am ymholiadau neu rifau cyswllt grwpiau, cysylltwch â Debbie ar 01352 700208
  2. Mae'r Gronfa Gymunedol yn sefydliad annibynnol a ffurfiwyd gan y Senedd i ddosbarthu arian er mwyn cefnogi cymdeithasau elusennol, llesiannol a dyngarol. Mae yna 17 aelod o'r Gronfa, yn cynnwys y Cadeirydd. Mae penderfyniadau am grantiau yn cael eu gwneud gan yr aelodau mewn pwyllgorau grantiau yn cwmpasu Cymru, Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r DU gyfan.
  3. Mae rhaglen grantiau'r Gronfa Gymunedol yn cael eu gwobrwyo gan Bwyllgor Cymru. Aelodau'r Pwyllgor yng Nghymru yw Elisabeth Watkins (Cadeirydd), Jeff Carroll a Rhiannon Bevan. Aelodau cyfetholedig i'r Pwyllgor yw Margaret Dennis, Aled Siôn a Dr Glyn Williams.
  4. Prif nôd y Gronfa yw i roi grantiau i helpu'r rhai sydd fwyaf difreintiedig mewn cymdeithas ac i wella ansawdd bywyd yn y gymuned.
  5. Ers Hydref 1995, mae'r Gronfa Gymunedol, o dan y prif grantiau, wedi gwobrwyo dros £109 miliwn i 1086 o grwpiau yng Nghymru. Mae dros £6 miliwn wedi ei wobrwyo i 2,197 o grwpiau o dan y Cynllun grantiau bychain. Mae hyn yn dod â'r cyfanswm a ddosbarthwyd yng Nghymru, dros bum mlynedd, i dros £116 miliwn.
  6. Caiff rhestr llawn o grantiau'r Gronfa Gymunedol ei gyhoeddi ar y rhyngrwyd ar www.cronfa-gymunedol.org.uk ac mae rhestrau llawn o holl ddosbarthwyr grantiau'r Loteri wedi eu rhestru ar www.lottery.culture.gov.uk.

Nodyn i Gynllunwyr
Mae logo'r Gronfa Gymunedol yn ymddangos ar y datganiad i'r wasg yma. (Mae'r logo "bysedd wedi eu croesi" yn arwyddnod i'r Loteri Genedlaethol ac felly nid yw ar gyfer defnydd y Gronfa Gymunedol)