[ENGLISH] [Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
27 Ebrill 2001 Grantiau Bychain wrth fodd De CymruMae'r Gronfa Gymunedol wedi cyhoeddi'r gyfres gyntaf o Grantiau bychain dan ei henw newydd ac mae grwpiau ledled y wlad yn cael eu hannog i wneud cais am gyllid y loteri i gefnogi eu gweithgareddau yn y gymuned. Mae Cymdeithas Hen Bensiynwyr Winchestown ym Mlaenau Gwent yn dathlu wedi iddynt dderbyn £2,285 ar gyfer system gwres canolog ym man cyfarfod y grwp. Roedd y system gwres canolog wreiddiol wedi torri i lawr ac ni ellid ei thrwsio. Mae'r Gymdeithas yn cynnal nifer o weithgareddau i'r henoed, yn cynnwys cyfarfodydd cymdeithasu, sesiynau bingo a gwibdeithiau mewn bws yn yr haf. Mae pawb yn y grwp yn hynod falch o dderbyn yr arian, meddai Jeanette Page y Trysorydd (a'r alwraig bingo): "Bydd hyn yn gwneud y neuadd yn fwy cysurus i bawb sy'n ei defnyddio. Mae gennym oddeutu 30 o aelodau ac i rai ohonynt, fel Kate Jones o Winchestown sy'n 89 oed, a fu'n dod yma ers i'r grwp gychwyn flynyddoedd lawer yn ôl, hwn yw eu hunig weithgarwch cymdeithasol y tu allan i'w chartref." Mewn mannau eraill yn Ne Cymru mae grwpiau cymunedol wedi elwa ar gyfres ddiweddaraf y Grantiau bychain a ddyfarnwyd. Ar hyd a lled y wlad mae 39 o sefydliadau'n rhannu cyfanswm o £121,109. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, dyfarnwyd £4,875 i Sefydliad y Merched Maesteg i brynu offer cyfrifiadurol ac yng Nghaerffili bydd Clwb Ieuenctid Groeswen yn derbyn £2,725 i gael offer i wella'r cyfleusterau ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol. Un o dri grwp a fydd yn elwa yng Nghaerdydd yw Clwb Gefeilliaid Caerdydd sy'n derbyn £2,661 i godi ymwybyddiaeth o waith y grwp, sy'n darparu cefnogaeth i deuluoedd â phlant lluos-enedigaeth. Bydd grant o £5,000 i Gymdeithas Adfywio Treharris ym Merthyr Tudful yn ariannu astudiaeth i asesu'r angen am adeilad cymunedol pwrpasol ac yn Sir Fynwy, un o ddau grwp a fydd yn elwa yw Grwp Cefnogaeth Gofalwyr Cas-gwent a Caldicot sy'n derbyn £950 i drefnu gwibdaith yn ystod Wythnos Genedlaethol y Gofalwyr. Yng Nghastell-nedd Port Talbot bydd tri grwp yn cael grant, yn cynnwys Cymdeithas Gymunedol y Creunant sy'n derbyn £3,906 i brynu offer ffitrwydd ac un o'r grwpiau a fu'n llwyddiannus yng Nghasnewydd yw Cynllun Gwarchod Cymdogaeth Gaer sy'n cael £4,353 ar gyfer offer swyddfa. Yn Rhondda Cynon Taff rhoddir £882 i Glwb Nofio "Taff Ely Turtles" ar gyfer costau cludiant, bydd Cymdeithas yr Henoed Tonteg yn cael £1,810 a bydd Cymdeithas Hen Bensiynwyr Pendyrus yn derbyn £2,070, y ddau grant i wella gweithgareddau grwp. Un grwp fydd yn elwa yn Abertawe yw Grwp Menywod UCA Pontardulais & Llangyfelach sy'n derbyn £5,000 ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol ac ym Mro Morgannwg bydd Cwmni 1af Brigâd y Bechgyn Penarth yn derbyn £4,720. Ar gyfer gwibdeithiau bydd Cymdeithas Hen Bensiynwyr Pontnewydd yn Nhorfaen yn derbyn £1,300. Dosbarthwyd cyfanswm o dros £113 miliwn i grwpiau gwirfoddol gan y Gronfa Gymunedol yng Nghymru (Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol gynt) i fynd i'r afael â thlodi a hybu cymunedau i gymryd rhan. Dylai grwpiau sydd eisiau ffurflenni cais neu wybodaeth ychwanegol ffonio: 0845 791 9191 (Saesneg) neu 0845 727 3273 (Cymraeg). Nodiadau i Olygyddion:
Nodyn i Ddylunwyr Logo'r Gronfa Genedlaethol yw'r logo sy'n ymddangos ar y datganiad i'r wasg yma. (Mae'r logo "bysedd wedi eu croesi" yn arwyddnod i'r Loteri Genedlaethol ac felly nid yw ar gyfer defnydd y Gronfa Gymunedol). |