[ENGLISH] [Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
26 Ebrill 2001 Prif grantiau wrth fodd Gogledd CymruMae'r Gronfa Gymunedol wedi cyhoeddi'r gyfres gyntaf o Grantiau bychain dan ei henw newydd ac mae grwpiau ledled y wlad yn cael eu hannog i wneud cais am gyllid y loteri i gefnogi eu gweithgareddau yn y gymuned. Mae Prosiect Ieuenctid Dinbych sy'n darparu cyngor, cefnogaeth, gwybodaeth a gweithgareddau hamdden i bobl ifanc, yn dathlu wedi iddo gael grant o £165,393 ar gyfer costau cyflogau, offer swyddfa, costau hyfforddiant a chynnal a chadw yn gyffredinol. Mae'r Prosiect, a gychwynnodd yn Rock House ym 1996, yn agored i bob person ifanc ac mae'n fan cyswllt gwerthfawr yn y gymuned sy'n cynnig dewis eang o wasanaethau i bobl ifanc 14 - 25 oed. Bydd ar agor bob diwrnod gwaith o 9.30am tan 3.30pm ac ar nosweithiau Mawrth a Mercher. Y llynedd yn unig, cafodd mwy na 1,000 o bobl ifanc elw ohono. Trwy gydweithio â cholegau, ysgolion a nifer helaeth o asiantaethau cymunedol, mae'r prosiect yn gallu cynorthwyo i dywys pobl ifanc wrth iddynt wneud rhai o'r penderfyniadau anodd yn ystod eu bywydau a darparu hafan glyd a diogel ar gyfer amser personol a gweithgareddau hamdden. Meddai Sue Parry, Cydlynydd y prosiect: "Rydym yno i fod yn fan cyswllt i bobl ifanc, yn ogystal â chynnig lle iddynt ymlacio. Gallwn roi help i bobl ifanc sydd ag ymholiadau neu broblemau, i gysylltu â'r sefydliadau perthnasol sy'n gallu rhoi cymorth iddynt. Yn ogystal â hyn mae gennym gyfleusterau fel cyfrifiaduron, mynediad i'r rhyngrwyd, cerddoriaeth, teledu a llawer o sesiynau diddorol; er enghraifft rydym yn gobeithio dechrau dosbarth hunanamddiffyn cyn bo hir." "Bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i ni. Bydd yn golygu ein bod yn gallu cyflogi rhagor o staff ac ymestyn y gwasanaethau sydd ar gael i bobl ifanc yn yr ardal. Mae'n adeg ddelfrydol i ni gael yr arian hwn," ychwanegodd Sue. Mewn mannau eraill yng Ngogledd Cymru, mae sefydliadau eraill wedi elwa ar gyfres ddiweddaraf y prif grantiau hyn. Ar hyd a lled y wlad mae 18 sefydliad yn rhannu cyfanswm o £3,227,605. Bydd Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint yn derbyn £330,181 dros dair blynedd i sefydlu dwy ganolfan adnoddau yn Y Fflint a Glannau Dyfrdwy i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i grwpiau cymunedol a gwirfoddol. Yng Ngwynedd, bydd grant o £96,326 i adnewyddu Neuadd Bentref Aberangell yn gwella'r cyfleusterau cymdeithasol i'r gymuned leol, ac ar Ynys Môn bydd £110,776 i adnewyddu Neuadd Bentref Llanfaelog yn cynnwys gosod mynediad llawn i bobl ag anabledd. Ar hyd a lled Cymru, dyfernir £130,474 i Gymdeithas Iselder Gorffwyll i recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr i ddatblygu rhwydwaith grwp y Gymdeithas a bydd Fforwm Cymru Gyfan y Rhieni a'r Gofalwyr yn cael £288,825 i ddarparu cefnogaeth, hyfforddiant a gwybodaeth i rieni a gofalwyr plant sydd ag anableddau. Dosbarthwyd cyfanswm o dros £113 miliwn i grwpiau gwirfoddol gan y Gronfa Gymunedol yng Nghymru (Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol gynt) i fynd i'r afael â thlodi a hybu cymunedau i gymryd rhan. Dylai grwpiau sydd eisiau ffurflenni cais neu wybodaeth ychwanegol ffonio: 0845 791 9191 (Saesneg) neu 0845 727 3273 (Cymraeg). Nodiadau i Olygyddion:
Nodyn i Ddylunwyr Logo'r Gronfa Genedlaethol yw'r logo sy'n ymddangos ar y datganiad i'r wasg yma. (Mae'r logo "bysedd wedi eu croesi" yn arwyddnod i'r Loteri Genedlaethol ac felly nid yw ar gyfer defnydd y Gronfa Gymunedol). |