[ENGLISH] [Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
26 Ebrill 2001 Grantiau bychain wrth fodd Gogledd CymruMae'r Gronfa Gymunedol wedi cyhoeddi'r gyfres gyntaf o Grantiau bychain dan ei henw newydd ac mae grwpiau ledled y wlad yn cael eu hannog i wneud cais am gyllid y loteri i gefnogi eu gweithgareddau yn y gymuned. Mae Grwp Aelodau Gogledd Cymru o'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) yn dathlu wedi iddynt gael grant o £5,000 i brynu treilyr arddangosfa symudol. Bydd yr arddangosfa yn codi ymwybyddiaeth o faterion cadwraeth a natur ac yn darparu cymorth addysgol gwerthfawr i ysgolion a chymunedau ar hyd a lled Gogledd Cymru. Mae Arweinydd y Grwp Paul Braid yn dweud bodH:\cf site\TXT y grwp yn hynod falch o gael yr arian: "Nid yw ein gwirfoddolwyr wedi bwrw ymlaen â'r agwedd hon o'n gwaith am gryn amser ac rydym yn edrych ymlaen at dymor yr haf pan fyddwn yn gallu mynd â'r arddangosfa i nifer o leoliadau yng Ngogledd Cymru. Pan fydd yn barod, gallwn anfon y treilyr o amgylch gwarchodfeydd adar ac rydym yn gobeithio bod ar bromenâd Llandudno ar Wyl y Banc ym mis Awst ac mewn nifer o ddigwyddiadau cymunedol eraill yn ystod y flwyddyn. Fel rheol, byddem hefyd yn ceisio mynd i sioeau amaethyddol ac eisteddfodau." Bydd yr wybodaeth yn canolbwyntio ar fywyd adar yn gyffredinol, cynefinoedd adar, cyfarwyddyd ynglyn â pha adar i'w gweld ym mha leoliadau a thueddiadau cadwraeth ar hyn o bryd. Meddai Paul: "Yn amlwg mae ein gwaith yn gogwyddo'n bendant o blaid adar; serch hynny, rydym yn canolbwyntio ar gadwraeth a dylai'r wybodaeth ar yr uned arddangos fod yn ddiddorol a gwerthfawr i bawb." Mewn mannau eraill yng Ngogledd Cymru, mae grwpiau cymunedol wedi elwa ar gyfres ddiweddaraf y Grantiau bychain a ddyfarnwyd. Ledled y wlad, mae 39 sefydliad yn rhannu cyfanswm o £121,109. Yn Sir y Fflint bydd dau gylch chwarae yn elwa. Bydd Cylch Chwarae Argoed yn derbyn £1,049 ar gyfer offer chwarae newydd a defnyddiau crefftau, tra bydd Cylch Chwarae Cyn-Ysgol Gwernymynydd yn cael £4,265 hefyd ar gyfer offer chwarae ac i gael tystysgrif o sicrhad ansawdd. Yng Ngwynedd, bydd grant o £4,976 i Grwp Sgowtiaid 1af Porthmadog yn galluogi astudiaeth ddichonoldeb i gael ei chynnal ar gyfleusterau'r grwp ac yn Wrecsam, dyfarnwyd £1,989 i Gylch Chwarae Bellevue er mwyn prynu cadeiriau, byrddau, matiau diogelwch ac offer chwarae. Dosbarthwyd cyfanswm o dros £113 miliwn i grwpiau gwirfoddol gan y Gronfa Gymunedol yng Nghymru (Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol gynt) i fynd i'r afael â thlodi a hybu cymunedau i gymryd rhan. Dylai grwpiau sydd eisiau ffurflenni cais neu wybodaeth ychwanegol ffonio: 0845 791 9191 (Saesneg) neu 0845 727 3273 (Cymraeg). Nodiadau i Olygyddion:
Nodyn i Ddylunwyr Logo'r Gronfa Genedlaethol yw'r logo sy'n ymddangos ar y datganiad i'r wasg yma. (Mae'r logo "bysedd wedi eu croesi" yn arwyddnod i'r Loteri Genedlaethol ac felly nid yw ar gyfer defnydd y Gronfa Gymunedol). |