[ENGLISH] [Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
26 Ebrill 2001 Prif grantiau wrth fodd De CymruMae'r Gronfa Gymunedol wedi cyhoeddi'r gyfres gyntaf o Grantiau bychain dan ei henw newydd ac mae grwpiau ledled y wlad yn cael eu hannog i wneud cais am gyllid y loteri i gefnogi eu gweithgareddau yn y gymuned. Mae Adfywio Cymuned Blaenllechau (BCR) yn Rhondda Cynon Taf yn dathlu wedi iddynt gael grant o £111,256 dros dair blynedd i ddarparu gwasanaeth cludiant gymunedol i bobl leol nad ydynt ar hyn o bryd o fewn cyrraedd y gwasanaethau a'r cyfleusterau lleol. Rhaglen adfywio mewn cymunedau yw BCR, sy'n gwasanaethu pobl Blaenllechau a'r cylch. Wedi cau'r glofeydd yn y 1980au, cafodd yr ardal ei dynodi yn un o'r prif ardaloedd difreintiedig yng Nghymoedd De Cymru. Ar hyn o bryd mae BCR yn darparu ac yn rheoli amrwyiaeth o brosiectau yn cynnwys canolfan gymuned, canolfan galw heibio i'r ifanc, siop bysgod a sglodion, caffi cymunedol, meithrinfa, fferm gymunedol a neuadd gymdeithasol i'r glowyr. Meddai David Thomas, y Trysorydd: "Bydd y grant loteri hwn yn ein galluogi i brynu cerbyd a chynnal gwasanaeth cludiant a hefyd gallwn gyflogi cydlynydd cludiant cymunedol. Roeddem am wneud hyn ers peth amser a dim ond nawr, diolch i'r arian hwn, yr ydym yn gallu bwrw ymlaen â'r cynllun. Bydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i bobl o bob oedran." Am dâl bychan, bydd preswylwyr yn gallu archebu lle ar y cludiant cymunedol er mwyn teithio o gwmpas - ar gyfer apwyntiadau meddygol, gweld pobl yn yr ysbyty, siopa a phob math o deithiau cymdeithasol. Meddai David: "Mae mynd i'r ganolfan gymunedol yn amhosib i rai pobl, oherwydd y nifer o fryniau sydd yn yr ardal. Er enghraifft mae gennym fenyw fywiog 78 oed, a bellach gall hi ymuno â dewis helaeth o weithgareddau cymunedol a chyrraedd y siopau yn llawer mwy hwylus - bydd hyn yn gwneud byd o wahaniaeth iddi a phobl eraill debyg hefyd." Mewn mannau eraill yn Ne Cymru mae sefydliadau wedi elwa ar gyfres ddiweddaraf y prif grantiau. Ar hyd a lled y wlad, mae 18 sefydliad yn rhannu cyfanswm o £3,227,605. Bydd grant o £352,810,dros dair blynedd, i Gymdeithas Rheoli Canolfan Gymunedol y Penllwyn ym Mhontllanffraith, Caerffili, yn sefydlu adeilad cymunedol newydd i ddarparu canolfan ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau, a bydd Cardiff Mind yn derbyn £188,877 i gyflogi dau aelod o staff i ddatblygu prosiect, darparu cyfleoedd hyfforddiant a mynediad i waith ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl. Dyfernir £253,975 i Gyngor yr Henoed Caerdydd a Bro Morgannwg ar gyfer gwasanaeth hawliau lles i'r henoed, ac yng Nghasnewydd bydd Gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Cymunedol a leolir ym Mhillgwenlly yn cael £141,555 i ddatblygu cynllun cynhyrchu fideo yn seiliedig ar y gymuned, a darparu cyfleoedd i ddatblygu hyfforddiant a sgiliau. Yn Abertawe, caiff Neuadd y Plwyf Penmaen a Nicholaston ei gwella, diolch i grant o £26,902, a bydd Canolfan Gydweithredol Cymuned Tsieineaidd Abertawe yn derbyn £189,539 i ddatblygu gweithgareddau ac ar gyfer hyfforddiant. Bydd Cymdeithas Gymunedol Garndiffaith yn Nhorfaen yn cael £119,218 i brynu offer a chwblhau adeilad cymunedol newydd. Ar hyd a lled Cymru, dyfernir £130,474 i'r Gymdeithas Iselder Gorffwyll er mwyn clustnodi, recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr i ddatblygu rhwydwaith grwp y Gymdeithas, bydd Ymddiriedolaeth Tai Gofal yn derbyn £199,615 i wella cyfleoedd cyflogaeth i bobl â phroblemau iechyd meddwl difrifol yng Nghymru a bydd Fforwm Cymru Gyfan y Rhieni a'r Gofalwyr yn cael £288,825 i ddarparu cefnogaeth, hyfforddiant a gwybodaeth i rieni a gofalwyr plant sydd ag anableddau. Dosbarthwyd cyfanswm o dros £113 miliwn i grwpiau gwirfoddol gan y Gronfa Gymunedol yng Nghymru (Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol gynt) i fynd i'r afael â thlodi a hybu cymunedau i gymryd rhan. Dylai grwpiau sydd eisiau ffurflenni cais neu wybodaeth ychwanegol ffonio: 0845 791 9191 (Saesneg) neu 0845 727 3273 (Cymraeg). Nodiadau i Olygyddion:
Nodyn i Ddylunwyr Logo'r Gronfa Genedlaethol yw'r logo sy'n ymddangos ar y datganiad i'r wasg yma. (Mae'r logo "bysedd wedi eu croesi" yn arwyddnod i'r Loteri Genedlaethol ac felly nid yw ar gyfer defnydd y Gronfa Gymunedol). |