[ENGLISH] [Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
10 Mai 2000 Dyfarnu £7.5 miliwn i GymruRhoddodd y Bwrdd Elusennau hwb o £7.5 miliwn i weithgareddau gwirfoddol sy’n trawsnewid bywydau yng Nghymru. Bydd y swm o £7,518,155 a ddyfarnwyd i 45 o brosiectau yn gwneud y byd o wahaniaeth i gymunedau. Dyfarnwyd £852,360 i brosiect ar gyfer yr anabl, y grant mwyaf a ddyfarnwyd erioed gan y Bwrdd Elusennau yng Nghymru. Dywedodd Elisabeth Watkins, Cadeirydd y Bwrdd Elusennau yng Nghymru, "Bydd y byddar, y digartref, yr henoed, rhai sy’n gofalu am ddioddefwyr Alzheimer, merched duon a merched o gymunedau ethnig lleiafrifol, ymhlith eraill, yn elwa o’r prosiectau ar gyfer Cymru gyfan. Ein nod yw gwneud y prif raglenni grantiau mor amrywiol â phosibl er mwyn mynd i’r afael â Thlodi a difreintedd ac annog Gweithredu cymunedol." Bydd Mewn Cymru yn defnyddio grant o £315,683 i fynd i’r afael â’r anfantais sy’n wynebu merched duon a merched o gymunedau ethnig lleiafrifol yng Nghymru trwy gynnwys addysg, hyfforddiant a meithrin hyder yn ogystal â chreu ymwybyddiaeth ymhlith penderfynwyr polisi. O hyn allan, bydd gan yr henoed yng Nghymru lais uniongyrchol yn y Cynulliad Cenedlaethol, y Senedd a’r Senedd Ewropeaidd. Bydd grant Cyngor Henoed Cymru o £135,298 yn cyflogi Swyddog Materion Gwleidyddol a fydd yn tynnu sylw penderfynwyr polisi at faterion yn ymwneud â henoed. Mae peryg i ofalwyr o fewn teuluoedd cleifion Alzheimer deimlo dan straen ac yn unig wrth iddynt ofalu’n feunyddiol am eu hanwyliaid er mwyn ceisio lleddfu rhywfaint ar eu dioddefaint. Bydd grant o £420,203 a ddyfarnwyd i’r Gymdeithas Alzheimer yn talu am sefydlu canolfan adnoddau newydd yn Ne Cymru i gefnogi’r gofalwyr hyn ac ysgwyddo peth o’u baich. Mae anfanteision ychwanegol i bobl fyddar os ydynt wedi eu hynysu’n ddaearyddol neu oherwydd lefel incwm, diffyg mudoledd neu anabledd arall. Bydd y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol ar gyfer y Byddar yn defnyddio grant o £158,179 i sefydlu gwasanaeth allanol. Dyfarnwyd £852,360 – y grant mwyaf a ddyfarnwyd erioed gan y Bwrdd Elusennau yng Nghymru – i Cyfle Cymru yng Nghaerdydd ar gyfer prosiect i ddarparu cyfleon hyfforddi i gannoedd o bobl anabl trwy greu unedau gweithdy yn cynnig profiad gwaith a hyfforddiant. Dywedodd Roy Norris, Cyfarwyddwr y Bwrdd yng Nghymru, "Yn amlwg, mae £7.5 miliwn yn swm aruthrol o arian a fydd, os y’i defnyddir yn ddoeth, yn gwneud y byd o wahaniaeth i’r rhai dan anfantais yng Nghymru trwy weithredu annibynnol a gwaith gwirfoddol. Fel arfer, bu ein staff yn swyddfa’r Drenewydd yn asesu’r holl geisiadau a byddant yn parhau i fonitro datblygiad y prosiectau. Edrychwn ymlaen at weld y prosiectau hyn yn dwyn ffrwyth." Y tro hwn, 35 y cant o’r ceisiadau fu’n llwyddiannus. Dylai grwpiau sydd am gael ffurflenni cais ar gyfer grantiau’r Bwrdd Elusennau neu ragor o wybodaeth ffonio 0845 727 3273. Nodiadau i Olygyddion
Nodyn i Ddylunwyr 1. Logo Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol yw y logo cylchol sy’n ymddangos ar y datganiad i’r wasg hwn. (Mae’r logo "croesi bysedd" yn nod masnach ar gyfer y Loteri Genedlaethol ac nid yw felly at ddefnydd y Bwrdd Elusennau.) |