[ENGLISH] [General Info] [Media] [Contact] [Links] [Help] [Previous] |
21 Ionawr 2000 Bargyfreithwraig yn Gadeirydd y Bwrdd Elusennau yng NghymruY Fargyfreithwraig Elisabeth Watkins yw Cadeirydd newydd Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol yng Nghymru. Bu’n aelod o Bwyllgor Cymru a Phwyllgor Rhyngwladol y Bwrdd Elusennau er 1997. O Ionawr 2000 ymlaen, bydd yn olynu Tom Jones OBE fel Cadeirydd Pwyllgor Cymru. Wedi dal swyddi pwysig dramor, dychwelodd Elisabeth Watkins i’r DG ym 1993. Mae’n Ddyfarnwraig Mewnfudo Arbennig a bu’n gadeirydd rhan-amser y Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol rhwng 1996 a 1998. Ganwyd Mrs Watkins (nee Arfon-Jones), sy’n rhugl yn y Gymraeg, yng Nghaerdydd ac y mae’n awr yn byw gyda’i gwr, Brian, a’r ferch, Caroline, yng Nghas-gwent. Cafodd ei haddysg yn ysgolion cynradd Bryn Taf, Rhiwbina a Llanbadarn; Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth; Ysgol Ramadeg i Ferched Grove Park, Wrecsam; a derbyniodd Ddiploma mewn Llenyddiaeth Ffrangeg yn Sorbonne, Paris ym 1968. Ym 1971 graddiodd yng Ngholeg Prifysgol Llundain ac fe’i galwyd i’r Bar ym 1972 gan Gray’s Inn, ble’r oedd yn Ysgolor William Shaw. Wrth siarad am ei phenodiad newydd, dywedodd "Mae hwn yn amser cyffrous i fod yn Gadeirydd y Bwrdd Elusennau yng Nghymru. Yn y Mileniwm newydd, a gyda Cynulliad Cymreig yn canolbwyntio’n fanwl ar faterion yn ymwneud ag anfantais yng Nghymru, rwy’n disgwyl gweld cyfnod newydd o syniadau a thwf yn y sector gwirfoddol. Mae’r seiliau cadarn a osodwyd gan y Cadeirydd blaenorol, Tom Jones, a gwaith arbennig y swyddfa yn y Drenewydd, yn ogystal â chefnogaeth ac ymateb y sector gwirfoddol, yn rhoi rheswm i mi edrych ymlaen at gyfnod cyffrous i’r Bwrdd Elusennau yng Nghymru. Fy mwriad yw parhau â llwyddiannau Tom a’r tîm gan sicrhau fod y Bwrdd Elusennau yn dal i chwarae rhan amlwg mewn bywyd cyhoeddus a chymunedol yng Nghymru." Mae profiad rhyngwladol Mrs Watkins yn cynnwys treulio sawl blwyddyn ym Mermwda ble penodwyd hi’n Gofrestrydd y Goruchaf Lys ac yn Gofrestrydd y Llys Apêl, ar ôl gyrfa ddisglair yn Gwnsler y Goron. Symudodd Mrs Watkins gyda’i gwr a oedd gynt yn Brif Gonswl Prydeinig ac yna’n Uchel Gomisiynydd, i Bacistan, Canada a Swaziland gan wneud gwaith i fudiadau gwirfoddol ym mhob gwlad yn cynnwys cadeirio Pwyllgor Rhyngwladol Croes Goch Columbia Brydeinig a bod yn gadeirydd a sefydlwraig Hosbis Swaziland Gartref. Mae ei gweithgareddau gwirfoddol yn y DG yn cynnwys y swyddi canlynol:
Ymhlith ei diddordebau mae’r celfyddydau perfformiadol, teithio a sgïo. Nodiadau i Olygyddion
Nodyn i Ddylunwyr 1. Logo Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol yw y logo cylchol sy’n ymddangos ar y datganiad i’r wasg hwn. (Marc masnachu y Loteri Genedlaethol yw’r logo ‘croesi bysedd’ ac nid yw felly at ddefnydd y Bwrdd Elusennau.) |