[ENGLISH] [Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
18 Chwefror 2000 Over Dros £4.5m i Gymru ar gyfer cludiant cymunedol, iselder ysbryd a difreinteddHeddiw mae dros £4.5 miliwn yn cael ei ddyfarnu i Gymru yn benodol ar gyfer ymladd Tlodi a difreintedd ac i hybu Gweithredu cymunedol. Cyflwynwyd 32 o grantiau gwerth £4,566,745 gan Fwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol, a leolir yn y Drenewydd, a byddant yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r grwpiau sydd yn gweithio gyda phobl difreintiedig. Dywedodd Elisabeth Watkins, sydd newydd ei phenodi yn Gadeirydd y Bwrdd Elusennau yng Nghymru, "Mae’r dyfarniadau heddiw yn dangos y lles a ddaw yn sgîl y Bwrdd Elusennau fel ariannydd annibynnol sy’n cefnogi materion fel difreintedd economaidd, anabledd, digartrefedd, trais yn y cartref, problemau iechyd meddwl, a diffyg defnydd o gludiant cyhoeddus. Trwy gyfrwng ein dwy brif raglen grantiau, Tlodi a difreintedd a Gweithredu cymunedol, gall grwpiau gwirfoddol droi atom ni am arian. Rwyf yn estyn fy llongyfarchiadau i’r holl grwpiau a dderbyniodd grant heddiw gan edrych ymlaen i weld eu prosiectau yn dwyn ffrwyth." Mae cludiant cymunedol yn flaenoriaeth fawr gan y Bwrdd Elusennau ac fe fydd Cludiant Cymunedol Annibynnol Cyf, Caerffili, yn derbyn grant o £139,795 ar gyfer gwasanaeth cludiant ar gyfer pobl hyn ac anabl i gyrraedd cyrchfannau lleol, rhanbarthol a llefydd gwyliau. Mae’r grwp o’r Fenni sy’n ymateb i effaith difreintedd economaidd a chymdeithasol ar bobl ifanc yn Ne Cymru, Uned Pobl a Gwaith, yn derbyn £119,898 er mwyn trefnu gwersylloedd ar gyfer pobl ifanc ddifreintiedig lle y medrant ddysgu sgiliau newydd ac ennill hyder. Bydd mater sy’n cynnig sialens i bawb yn cael ei ateb gan y grw^p Cyfleoedd Cyflogaeth ar gyfer Pobl ag Anableddau a leolir yng Nghaerdydd. Derbyniodd y grwp yma £146,898 i hyrwyddo a chreu cyfleoedd gwaith ar gyfer pobl gydag anableddau. Agwedd ar iechyd meddwl sy’n rhoi pryder i Gymrodoriaeth Iselder Gorffwyll (Manic Depression) Casnewydd, sy’n gwasanaethu Cymru gyfan. Mae’n derbyn £155,715 i ddarparu hyfforddiant ar gyfer pobl gydag iselder ysbryd er mwyn iddyn nhw ddysgu sut i reoli eu clefyd. Mae mentrau cymunedol hefyd yn cael rhan amlwg yn y dyfarniadau heddiw, gan gynnwys y grant uchaf o £465,759 a ddyfarnwyd i Gymdeithas Neuadd yr Urdd Dyserth yn Sir Ddinbych i adnewyddu ac ailadeiladu y neuadd. Dywedodd Roy Norris, Cyfarwyddwr y Bwrdd Elusennau yng Nghymru: "Mae yr amrywiaeth o ddyfarniadau yn adlewyrchu amrywiaeth anghenion y sector wirfoddol yng Nghymru. Hefyd, yn arwyddocaol, heddiw fe welwn y dyfarniad mawr cyntaf ar gyfer prosiect cludiant cymunedol ers i’r Bwrdd Elusennau gyhoeddi y fenter tair blynedd ar gyfer Cymru’n unig i geisio lleddfu’r difreintedd a achosir gan ddiffyg cludiant. Ein hymrwymiad ni yw i osod £3 miliwn y flwyddyn o’r neilltu ar gyfer prosiectau cludiant cymunedol ac, o’r herwydd, bydd gan gymunedau ym mhob rhan o Gymru ddiddordeb mewn gwybod rhagor am brosiect llwyddiannus Caerffili er mwyn cyflwyno cynlluniau tebyg yn eu hardaloedd eu hunain." Dylai grwpiau sydd am dderbyn ffurflenni cais ar gyfer grantiau’r Bwrdd Elusennau neu unrhyw wybodaeth bellach alw 0845 7273273. Nodiadau i Olygyddion
|