TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-



[ENGLISH]


[Gwybodaeth gyffredinol]
[Y wasg]
[Cyswllt]
[Cysylltiadau]
[Help]
[Yn ôl]

11 Chwefror 2000

70 grwp o Gymru’n derbyn grantiau’r Bwrdd Elusennau

Teganau i hybu ymwybyddiaeth amlddiwylliannol, lifft i gadeiriau olwyn, seminar ar faterion iechyd meddwl, byrddau ar gyfer sioe arddio, fideo hyrwyddo, a phebyll ar gyfer Gwersyll Mileniwm, dyma rai o’r pethau a ddaw yn sgil grantiau diweddaraf Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol.

Heddiw, dyfarnodd y Bwrdd Elusennau, sydd â’i leoliad yn y Drenewydd, gyfanswm o £220,854 i 70 grwp o dan y rhaglen Grantiau bychain sydd eleni’n dathlu Gwyl y Mileniwm yng Nghymru.

Dywedodd Cadeirydd newydd y Bwrdd Elusennau yng Nghymru, Elisabeth Watkins: "Wrth i Ddydd Dewi Sant agosau ac o gofio’r pwyslais a roddai ef ar y pethau bychain, medrwn yn sicr gytuno ag ef yn ôl pwysigrwydd y Grantiau bychain. Mae’r cynllun Grantiau bychain, a roddwyd ar brawf gyntaf yng Nghymru gan y Bwrdd Elusennau, wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth ddod ag arian i fudiadau lleol. Hoffwn longyfarch yr holl grwpiau lleol sy’n derbyn grantiau heddiw. O safbwynt cenedlaethol, hwyrach mai ‘bychan’ yw eu cyfraniad ond gyda’i gilydd maent yn chwarae rhan hanfodol er mwyn adfywio gweithgarwch cymunedol ledled Cymru."

Derbyniodd grwpiau ieuenctid, pensiynwyr a chymunedau lleol, yn ogystal â grwpiau chwarae, grantiau. Bu nifer o grwpiau ar gyfer Cymru gyfan yn llwyddiannus hefyd, megis Gweithredu Cymunedol Myfyrwyr Cymru yng Nghaerdydd a dderbyniodd £5,000 i gynhyrchu fideo hyrwyddol; Gofal a Thrwsio Cymru ym Mangor a dderbyniodd £1,784 i brynu cyfrifiadur ‘lap-top’ er mwyn gwella’r gwasanaeth; ‘Lupus UK’ yng Nghaernarfon a dderbyniodd £2,399 i dalu am offer i hybu datblygiad y mudiad newydd hwn; Fforwm Hunan-niwed yn y Fenni a dderbyniodd £4,275 i alluogi aelodau anghyflogedig i fynychu cynhadledd; a Merched y Wawr, ym Machynlleth, a dderbyniodd £4,937 i brynu offer clyweledol ac offer TG i’r swyddfa.

Eglurodd Cyfarwyddwr Cymru, Roy Norris, "Dyfernir y Grantiau bychain, rhwng £500 a £5,000, i grwpiau a chanddynt incwm blynyddol o hyd at £15,000. Er mwyn medru ymateb yn fwy hyblyg i gymunedau sy’n dathlu yn ystod y Filflwydd, mae’r Bwrdd Elusennau wedi uno’r cynllun â dosbarthwyr eraill y Loteri o dan faner Gwyl y Mileniwm. O’r herwydd mae nifer o’r grantiau heddiw’n dilyn thema’r Mileniwm. Mae grantiau eraill yn adlewyrchu’r pethau sylfaenol sy’n angenrheidiol i grwpiau er mwyn parhau i wasanaethu eu cymunedau, a disgwyliwn y bydd y gofynion hyn yn parhau ymhell i ganol y Mileniwm."

Dylai grwpiau yng Nghymru sy’n awyddus i gael ffurflenni cais ar gyfer Grantiau bychain neu wybodaeth am grantiau eraill y Bwrdd Elusennau ffonio 0845 7273273.

Nodiadau i Olygyddion:

  1. Ar gyfer ymholiadau i’r wasg neu rifau cyswllt y grwpiau a fyddech gystal â galw Hanna neu Myrddin ar 01286 675221.
  2. Mae Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol yn gorff annibynnol a sefydlwyd gan y Senedd er mwyn rhannu arian i gefnogi mudiadau elusennol, llesiannol a dyngarol. Mae 17 o aelodau ar y Bwrdd, yn cynnwys y Cadeirydd. Penderfynir ar grantiau gan aelodau mewn pwyllgorau dyfarnu grantiau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a’r DG gyfan.
  3. Mae dwy brif raglen grantiau y Bwrdd Elusennau: Gweithredu cymunedol a Thlodi a difreintedd, yn ogystal â’r Grantiau bychain yn cael eu hasesu gan Bwyllgor Cymru. Aelodau’r Bwrdd yng Nghymru yw Elisabeth Watkins (Cadeirydd), Tom Jones a Jeff Carroll. Aelodau Cyfetholedig y Bwrdd yng Nghymru yw Margaret Dennis, Aled Siôn a Dr Glyn Williams.
  4. Prif nod y Bwrdd yw rhoi grantiau er mwyn ateb anghenion y rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas a gwella ansawdd bywyd yn y gymuned.
  5. Er mis Hydref 1995, mae’r Bwrdd Elusennau, o dan ei brif grantiau, wedi dyfarnu dros £79 miliwn i 891 o grwpiau yng Nghymru. Mae dros £4 miliwn wedi ei ddyfarnu i 1534 o grwpiau o dan Grantiau bychain. Mae’r cyfanswm a ddyfarnwyd yng Nghymru, dros bum mlynedd, yn fwy na £83 miliwn.
  6. Cyhoeddir rhestr lawn o grantiau’r Bwrdd Elusennau ar y we ar www.nlcb.org.uk a chyhoeddir rhestr lawn o grantiau holl ddosbarthwyr y Loteri ar www.lottery.culture.gov.uk.

Nodyn i Ddylunwyr

  1. Logo Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol yw y logo cylchol sy’n ymddangos ar y datganiad i’r wasg hwn. (Marc masnachu y Loteri Genedlaethol yw’r logo ‘croesi bysedd’ ac nid yw felly at ddefnydd y Bwrdd Elusennau.)