[ENGLISH] [Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
10 Ebrill 2000 Prosiect Dydd y Farn yn derbyn un o 68 grant y Bwrdd ElusennauHwyrach mai swm cymharol fach ydyw ond bydd y grant o £617 a ddyfarnwyd i Bwyllgor Mileniwm Trefdraeth, Sir Benfro yn ariannu prosiect cymdeithasol gwerth chweil wrth i’r grw^p fynd ati i gofnodi nodweddion y gymuned er mwyn creu math o Lyfr Dydd y Farn modern. Bydd rali i bensiynwyr Cymru gyfan a chynhadledd hefyd yn cael eu cynnal yn ystod yr Haf gyda chyfraniad grant o £2,000 i Gymdeithas Genedlaethol Pensiynwyr Cymru. Bydd nifer o brosiectau cymunedol cyffrous yn elwa o ddosraniad diweddaraf Grantiau bychain Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol sy’n werth cyfanswm o £196,747 i 68 o grwpiau ledled Cymru. Bydd Cymdeithas Preswylwyr Grangetown yng Nghaerdydd yn defnyddio’u grant o £4,753 i gynhyrchu cylchlythyr cymunedol; bydd Llanuwchllyn yng Ngwynedd yn cymryd rhan mewn gw^yl efeillio gyda grant o £2,300 a ddyfarnwyd i Wes Wes - Wa; a bydd Hendy yn ardal Abertawe yn elwa o arolwg o anghenion cymunedol a fydd yn cael ei ariannu gan grant o £5,000 a ddyfarnwyd i Fforwm Hamdden Cymunedol Hendy. Dywedodd Elisabeth Watkins, Cadeirydd y Bwrdd Elusennau yng Nghymru, "Peth braf yw gweld cymunedau bychain yn cydweithio i wneud blwyddyn y Mileniwm yn rhywbeth arbennig. Ar wahân i ddigwyddiadau bythgofiadwy, mae’r Grantiau bychain, sy’n amrywio o £500 i £5,000, yn cwrdd â nifer o anghenion sylfaenol cymunedau. Yn Sir y Fflint er enghraifft, mae grwpiau chwarae a chanddynt angen offer newydd, pentref sydd am gyflwyno cyfrifiaduron i’r gymuned a phwyllgor lles i henoed sy’n trefnu gwibdaith i wella ansawdd bywyd ei aelodau ymhlith y rhai sy’n derbyn grantiau. Credwn fod grwpiau cymunedol lleol ar y cyfan yn deall cymaint sydd i’w elwa o gynllun Grantiau bychain y Bwrdd Elusennau. Fodd bynnag, nid ydym yn llwyddo i ddenu ceisiadau o rai ardaloedd ble mae nifer y ceisiadau’n isel. Felly am ragor o wybodaeth ynghylch arian ar gyfer prosiectau cymunedol cysylltwch â’r Bwrdd Elusennau yn y Drenewydd." Dylai grwpiau sydd am gael ffurflenni cais ar gyfer grantiau’r Bwrdd Elusennau neu ragor o wybodaeth ffonio 0845 727 3273. Nodiadau i Olygyddion
Nodyn i Ddylunwyr Logo Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol yw y logo cylchol sy’n ymddangos ar y datganiad i’r wasg hwn. (Mae’r logo "croesi bysedd" yn nod masnach ar gyfer y Loteri Genedlaethol a hyrwyddir gan Camelot ac nid yw felly at ddefnydd y Bwrdd Elusennau.) [Ar gyfer datganiadau wedi eu teilwrio: Mae’r rhain yn cynnwys Penybont, Blaenau Gwent, Caerffili, Sir y Fflint a Chasnewydd.] Teilwrio Cymraeg: Yng Ngheredigion, gall aelodau 2il Grw^p Sgowtiaid Penparcau edrych ymlaen at gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau awyr agored a gwersylla gyda chyfraniad grant o £2,440 i dalu am gludiant. Yn ardal Conwy, gall cymuned Ysbyty Ifan edrych ymlaen at well cyfleusterau yn y neuadd bentref, yn cynnwys llenni, byrddau ac unedau cegin yn sgil grant o £5,000 a ddyfarnwyd i Sefydliad a Chofeb Rhyfel Ysbyty Ifan. Yng Ngwynedd dyfarnwyd cyfanswm o £11,124 i bum grw^p yn cynnwys Wes Wes - Wa yn Llanuwchllyn a dderbyniodd £2,300 i gynnal gw^yl efeillio ym mis Mai. Bydd Clwb Cyfeillion Felin Fach, Pwllheli yn defnyddio’u grant o £3,000 i gynnig cefnogaeth i bobl sy’n gwella wedi salwch meddwl trwy drefnu gwibdeithiau a gweithgareddau crefft. Derbyniodd dau grw^p chwarae, Cylch Meithrin Tremadog a Chylch Meithrin Y Ffor grantiau hefyd. Dyfarnwyd grantiau i bedwar grw^p ym Môn: £2,865 i Gynghrair La Leche Môn er mwyn gwella gwasanaeth gwybodaeth ynghylch materion yn ymwneud â bwydo ar y fron; £1,220 i Grw^p Dros 50 Moelfre tuag at drip i theatr a gweithdy celf a chrefft; a £2,000 a £1,101 i Grw^p Chwarae Cyn Ysgol Amlwch a Grw^p Chwarae Llandegfan. Ym Mhowys dyfarnwyd naw o grantiau yn cynnwys £917 i Grw^p ‘Badger’ Sir Faesyfed ar gyfer digwyddiadau addysgol; £3,022 i Ganolfan Gynghori Machynlleth a’r Cylch i wella’u cyfleusterau; £1,197 i Brosiect Cymunedol ‘Mind, Body & Soul’ yn y Drenewydd tuag at offer TG i hwyluso gwaith gweinyddol a £3,000 i’r ‘Get Going Gang’ yn y Trallwng ar gyfer cynllun chwarae yn ystod gwyliau. Yn ardal Wrecsam dyfarnwyd cyfanswm o £16,500 i bedwar grw^p. Dyfarnwyd £5,000 i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam i drefnu gw^yl ar gyfer gwirfoddolwyr yn Wrecsam ar y 3ydd o Fehefin 2000; bydd y grant o £5,000 a ddyfarnwyd i Gyfeillion Ysgol Powys yn ariannu cynllun cludiant cymunedol; a bydd grant o £2,500 yn galluogi Fforwm Pabyddol Wrecsam i Blant Teithwyr i gyfrannu tuag at gostau cludiant er mwyn helpu plant i deithwyr fynychu meithrinfa. |