[ENGLISH] [Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
7 Medi 1999 £9 miliwn i ateb y galw am gludiant cymunedolMae Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol yng Nghymru wedi dod i’r casgliad nad oes modd mynd i’r afael â difreintedd yng Nghymru heb ddelio â chludiant. Mae cyrraedd cyfleusterau megis swyddfa’r post neu ganolfannau iechyd, yn ogystal â chael hyfforddiant a swyddi, yn faterion hollbwysig, yn enwedig yng nghymoedd de Cymru ac mewn ardaloedd gwledig. Gan fod y cysylltiad rhwng cludiant a difreintedd mor sylfaenol bwysig i’r Bwrdd Elusennau, mae wedi clustnodi £9m, am dair blynedd, er mwyn ariannu mentrau newydd yn ymwneud â chludiant cyhoeddus. Mae’r gronfa hon yn unigryw i Gymru ond bydd gan swyddfeydd y Bwrdd Elusennau mewn rhannau eraill o’r DG ddiddordeb mawr yn natblygiad y cynllun. Wrth lansio’r cynllun ariannu cludiant cymunedol yn Llandudno, dywedodd Tom Jones, Cadeirydd y Bwrdd Elusennau yng Nghymru, "Yn syml ddigon, fy neges i gymunedau heddiw yw: mae’r arian ar gael i’w ddosbarthu - archwiliwch eich anghenion yn drylwyr yn nhermau cludiant cymunedol, a gweithredwch ar unwaith. Ni ddylem sefyll o’r neilltu a derbyn fod diffyg cludiant yn rhan annatod o’n daearyddiaeth a’n hanes diwydiannol. Yn y Gymru fodern, ni ddylem ychwaith ganiatáu’r anfantais ychwanegol sy’n wynebu’r anabl na fedrent symud ymhell. Gan mai nod y Bwrdd Elusennau yw helpu’r rhai sydd fwyaf dan anfantais, mae’n rhaid mynd i’r afael â’r diffyg cludiant. Ein gobaith yw y bydd clustnodi £3m y flwyddyn am dair blynedd yn hybu gweithredu cymunedol. "A barnu yn ôl prosiectau cludiant cymunedol a ariannwyd gennym hyd yma, rydym yn hyderus y bydd clustnodi’r arian yma’n cael effaith sylweddol ar Gymru. Ar ddiwedd y dydd, mae’r effaith yma’n dibynnu ar ddychymyg, brwdfrydedd ac arbenigedd y sector gwirfoddol. Rydym yn ffyddiog fodd bynnag y caiff y cyfle hwn ei gydnabod yn garreg filltir bwysig sy’n rhoi cyfle i’r ifanc, yr anabl, henoed ac yn wir bawb sy’n rhan o gymunedau dan anfantais." Lansiwyd cynllun ariannu cludiant cymunedol y Bwrdd Elusennau yng Nghanolfan Gynadleddau Llandudno ar 7 Medi 1999. Y siaradwyr eraill oedd Harri Owen-Jones, Cadeirydd Pwyllgor Cymru Cymdeithas Cludiant Cymunedol, a roddodd ddarlun o gludiant cymunedol ar waith; a Simon Thomas, Rheolwr Jigso, sydd yn gwybod o brofiad mor bwysig yw rôl cymunedau wrth siapio eu dyfodol eu hunain. Nid cyfrifoldeb y Bwrdd Elusennau yw dyletswyddau’r gwasanaethau statudol ac o’r herwydd dim ond y sector gwirfoddol all wneud cais am yr arian hwn. Fodd bynnag, mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn gweithredu cynllun ‘Grantiau ar gyfer Cludiant Gwledig yng Nghymru’, sydd ar gael i gyrff cyhoeddus a gweithwyr masnachol sy’n gwasanaethu mewn ardaloedd gwledig. Dywedodd Roy Norris, Cyfarwyddwr y Bwrdd Elusennau yng Nghymru, "Mae cludiant cymunedol yn deillio o anghenion penodol pob cymuned ac o’r herwydd gall amrywio o gynlluniau megis rota ceir, bysus neu finibysus cymunedol, cronfa sgwteri, cynlluniau seiclo neu hyd yn oed ‘fysus cerdded’. Mae’r olaf yn golygu fod oedolion yn tywys grwpiau o blant i’r ysgol, sy’n ymwneud â chludiant yn ogystal â chydnabod yr angen i gynyddu ymarfer corfforol dyddiol a ffitrwydd plant. Nid oes modd rhagweld pa geisiadau a dderbyniwn, ond rydym yn awyddus i annog cymunedau i fod yn greadigol wrth ddatrys y problemau sydd ynghlwm wrth ddiffyg cludiant. Ymhlith yr opsiynau ariannu mae gweithredu, hyfforddi, costau gwirfoddolwyr, prynu cerbydau neu adeilad, ac astudiaethau dichonolrwydd." Dylai grwpiau sydd am dderbyn ffurflenni cais ar gyfer grantiau’r Bwrdd Elusennau neu sydd am gael gwybodaeth bellach alw 0345 273273. Nodiadau i Olygyddion 1. Ar gyfer ymholiadau i’r wasg a fyddech gystal â galw Hanna neu Myrddin ar 01286 675221. 2. Mae Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol yn gorff annibynnol a sefydlwyd gan y Senedd er mwyn rhannu arian i gefnogi mudiadau elusennol, llesiannol a dyngarol. Mae 17 o aelodau ar y Bwrdd, yn cynnwys y Cadeirydd. Penderfynir ar grantiau gan aelodau mewn pwyllgorau dyfarnu grantiau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a’r DG gyfan. 3. Asesir dyfarniadau yng Nghymru ar gyfer rhaglenni’r Bwrdd Elusennau, Gweithredu cymunedol a Thlodi a difreintedd, yn ogystal â’r Grantiau bychain, gan Bwyllgor Cymru. Yr aelodau o’r Bwrdd yng Nghymru yw Tom Jones (Cadeirydd), Elisabeth Watkins a Jeff Carroll. 4. Prif nod y Bwrdd yw rhoi grantiau er mwyn ateb anghenion y rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas a gwella ansawdd bywyd yn y gymuned. 5. Er mis Hydref 1995, mae’r Bwrdd Elusennau, o dan ei brif grantiau, wedi dyfarnu dros £74 miliwn i 857 o grwpiau yng Nghymru. Mae dros £3 miliwn wedi ei ddyfarnu i 1334 o grwpiau o dan Grantiau bychain. Mae’r cyfanswm a ddyfarnwyd yng Nghymru, dros bum mlynedd, yn fwy na £77 miliwn. 6. Cyhoeddir rhestr lawn o grantiau ar y we ar www.nlcb.org.uk. Nodyn i Ddylunwyr 1. Logo Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol yw y logo cylchol a welir ar y datganiad yma i’r wasg. (Marc masnachu y Loteri Genedlaethol yw’r logo ‘croesi bysedd’ ac nid yw felly at ddefnydd y Bwrdd Elusennau.) |