TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-



[ENGLISH]


[Gwybodaeth gyffredinol]
[Y wasg]
[Cyswllt]
[Cysylltiadau]
[Help]
[Yn ôl]

19 Hydref 1999

Y Bwrdd Elusennau yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol

Mae Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 1998/9 sy’n datgelu fod y Bwrdd Elusennau, o dan ei holl raglenni grantiau, wedi dyfarnu 6,428 o grantiau ar hyd a lled y DG yn werth £284 miliwn. Mae hyn yn gwneud y cyfanswm a ddyfarnwyd i elusennau a mudiadau gwirfoddol yn y DG yn fwy na £1.3 biliwn. Mae Cymru wedi parhau i dderbyn cyfran uwch o’r arian oherwydd nodweddion anfantais.

Dywedodd Tom Jones, Cadeirydd y Bwrdd yng Nghymru: "Mae cyhoeddi Adroddiad Blynyddol wastad yn cynnig cyfle i bwyso a mesur ein llwyddiannau a’r hyn sydd angen ei gyflawni o hyd. Ar ddiwedd y dydd, dosbarthwr grantiau ydym ac felly mae tueddiad i fesur ein llwyddiant ar sail niferoedd, er enghraifft dyfarnwyd dros £15m mewn grantiau mawr a bach i 503 o grwpiau yng Nghymru yn ystod 1998/9. Fodd bynnag, mae’r niferoedd yn cael eu diffinio yn ôl swm yr arian sydd ar gael, ac yr ydym yn ymwybodol iawn nad oes modd ariannu pob prosiectau gwerth chweil mewn blwyddyn benodol gan fod arian yn gyfyngedig. Felly’r gwir linyn mesur ar gyfer llwyddiant y Bwrdd Elusennau mewn blwyddyn yw’r ymdrech a wneir i sicrhau fod yr arian cyfyngedig sydd ar gael yn cael ei ddosbarthu’n deg, i brosiectau haeddiannol, er mwyn sicrhau mai’r difreintiedig neu gymunedau sy’n elwa fwyaf."

Mae uchafbwyntiau’r flwyddyn yn cynnwys:

  • ar ôl trydydd ymgynghoriad manwl gyda’r sector gwirfoddol, cyhoeddi’r Cynllun Strategol sy’n tynnu sylw at ddull y Bwrdd Elusennau o dargedu ardaloedd a materion ble mae angen arian
  • addewid gan Bwyllgor Cymru, yn deillio o’r Cynllun Strategol, i glustnodi hyd at £9 miliwn dros gyfnod o dair blynedd tuag at gynlluniau cludiant cymunedol
  • cynyddu’r gynrychiolaeth yng Nghymru trwy benodi tri aelod cyfetholedig newydd
  • llunio llythyrau er mwyn ymateb i geisiadau gan amlinellu rhesymau pam nad oedd yn bosibl dyfarnu grant
  • lansio rhaglen ymchwil benodol gan roi £25 miliwn i hybu a chefnogi mudiadau sy’n gwneud ymchwil feddygol neu gymdeithasol yn y DG
  • pasio carreg filltir bwysig, sef dyfarnu £50 miliwn yng Nghymru o dan y prif raglenni grantiau, yn dilyn grant a ddyfarnwyd i’r grw^p cefnogol ‘After Adoption Wales’ ym mis Rhagfyr 1998

Dywedodd Diana Brittan, Cadeirydd Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol yn y DG: "Mae’r rhain yn llwyddiannau arbennig sy’n cadarnhau fod y Bwrdd Elusennau yn dosbarthu arian mewn modd a ddylai wella’n barhaol ansawdd bywyd y rhai sydd fwyaf dan anfantais."

Cloriennir holl waith y Bwrdd Elusennau yn wrthrychol ac yn annibynnol ym Mlwyddlyfr y Loteri Genedlaethol 1999, a gyhoeddwyd gan Gyfarwyddiaeth Newid Cymdeithasol (Directory of Social Change), sy’n nodi: "Ar y cyfan, ystyrir ei bod yn hawdd cysylltu ag ef [y Bwrdd Elusennau] a’i fod yn drefnus, yn gweithredu’n lleol ac yn hyblyg wrth ddelio â phroblemau sy’n deillio o’r prosiectau y mae’n eu hariannu."

Nodiadau i Olygyddion

  1. Ar gyfer ymholiadau i’r wasg a fyddech gystal â galw Hanna neu Myrddin ar 01286 675221.
  2. Mae Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol yn gorff annibynnol a sefydlwyd gan y Senedd er mwyn rhannu arian i gefnogi mudiadau elusennol, llesiannol a dyngarol. Mae 17 o aelodau ar y Bwrdd, yn cynnwys y Cadeirydd. Penderfynir ar grantiau gan aelodau mewn pwyllgorau dyfarnu grantiau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a’r DG gyfan.
  3. Gwneir dyfarniadau yng Nghymru ar gyfer rhaglenni’r Bwrdd Elusennau, Gweithredu cymunedol a Thlodi a difreintedd, yn ogystal â’r Grantiau bychain, gan Bwyllgor Cymru. Yr aelodau o’r Bwrdd yng Nghymru yw Tom Jones (Cadeirydd), Elisabeth Watkins a Jeff Carroll. Aelodau Cyfetholedig y Bwrdd yw Margaret Dennis, Aled Siôn a Dr Glyn Williams.
  4. Mae’r Bwrdd Elusennau yn dosbarthu 4.7 ceiniog o bob punt a wneir gan y Loteri Genedlaethol.
  5. Prif nod y Bwrdd yw rhoi grantiau er mwyn ateb anghenion y rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas a gwella ansawdd bywyd yn y gymuned.
  6. Er mis Hydref 1995, mae’r Bwrdd Elusennau, o dan ei brif grantiau, wedi dyfarnu dros £74 miliwn i 857 o grwpiau yng Nghymru. Mae dros £3 miliwn wedi ei ddyfarnu i 1334 o grwpiau o dan Grantiau bychain. Mae’r cyfanswm a ddyfarnwyd yng Nghymru, dros bum mlynedd, yn fwy na £77 miliwn.
  7. Cyhoeddir rhestr lawn o grantiau y Bwrdd Elusennau ar y we ar www.nlcb.org.uk a cheir rhestr gyflawn o holl ddosbarthwyr granatiau’r Loteri ar www.lottery.culture.gov.uk
  8. Mae cyhoeddiadau’r Gyfarwyddiaeth Newid Cymdeithasol (Directory of Social Change), gan gynnwys The National Lottery Yearbook 1999, ar gael drwy ffonio 0171 2095151

Nodyn i Ddylunwyr

  1. Logo Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol yw y logo cylchol a welir ar y datganiad yma i’r wasg. (Marc masnachu y Loteri Genedlaethol yw’r logo ‘croesi bysedd’ ac nid yw felly at ddefnydd y Bwrdd Elusennau.)