TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-



[ENGLISH]


[Gwybodaeth gyffredinol]
[Y wasg]
[Cyswllt]
[Cysylltiadau]
[Help]
[Yn ôl]

17 Rhagfyr 1999

Gofalon y Nadolig yn sail i addewid Blwyddyn Newydd

Mae Tom Jones, a fydd yn ymddeol fel Cadeirydd y Bwrdd Elusennau yng Nghymru, yn annog grwpiau gwirfoddol a chymunedol, yn enwedig yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, i wneud adduned Blwyddyn Newydd i droi at y Bwrdd Elusennau am gymorth trwy alw 0845 7273273.

"Mae cyfnod y Nadolig yn aml iawn yn amlygu helbulon y difreintiedig yn ein cymdeithas. Mae’r helbulon hynny yn cynnwys tlodi, unigrwydd, diffyg cludiant a diffyg cyfle i fod yn rhan o ddigwyddiadau a gweithgareddau y mae’r rhan fwyaf ohonom yn eu cymryd yn ganiataol. Cyfrifoldeb y Bwrdd Elusennau yw rhoi grantiau i gynorthwyo gydag anghenion y rhai mwyaf difreintiedig mewn cymdeithas ac i wella ansawdd bywyd yn y gymuned, felly mae’n briodol i ni ar adeg y Nadolig ystyried gymaint o waith sydd ar ôl i’w wneud."

Ers mis Hydref 1995, mae Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu 2,408 o grantiau hyd at gyfanswm o dros £83 miliwn. Mewn termau ariannol mae’r £83 miliwn fel ffynhonnell o gyllid annibynnol ychwanegol ar gyfer gweithgaredd gwirfoddol wedi gwneud cyfraniad sylweddol er mwyn gwella bywyd y difreintiedig a chryfhau cymunedau. Yr hyn sy’n gosod yr hyn sydd wedi ei gyflawni mewn cyd-destun, fodd bynnag, yw bod oddeutu 25,000 o grwpiau gwirfoddol ac elusennol yng Nghymru. Mae y Bwrdd Elusennau yn ymdrechu drwy’r adeg i geisio gwneud yn sïwr bod cymaint o grwpiau a phosibl yn gwybod am ei grantiau. Heddiw mae’r Bwrdd Elusennau yn rhoi pwyslais arbennig ar annog grwpiau yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru i wneud cais am grant.

Dywedodd Tom Jones: "Yn aml y grwpiau yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yw y rhai mwyaf amharod i wneud ceisiadau am grantiau ac felly rwyf am yrru neges gref at y cymunedau hyn yn y flwyddyn newydd. Efallai fod yr enw ‘Bwrdd Elusennau’ yn gwneud i ni swnio braidd yn ffurfiol a pharchus ond mewn gwirionedd yr ydym yma wrth law er mwyn ateb eich anghenion. Yr ydym o fewn cyrraedd pawb yn y Drenewydd, ar ben arall y ffôn gyda’n llinell gymorth, ac os oes digon o grwpiau yn eich ardal chi yn gofyn am ymweliad, medrwn drefnu galw heibio eich tref neu bentref i egluro sut y dylech wneud cais am grant."

Dylai grwpiau yng Nghymru sy'n dymuno cael ffurflenni cais ar gyfer grantiau y Bwrdd Elusennau neu unrhyw wybodaeth bellach alw 0845 7273273.

Nodiadau i Olygyddion:

  1. Ar gyfer ymholiadau i’r wasg neu luniau a fyddech gystal â galw Hanna neu Myrddin ar 01286 675221.
  2. Mae Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol yn gorff annibynnol a sefydlwyd gan y Senedd er mwyn rhannu arian i gefnogi mudiadau elusennol, llesiannol a dyngarol. Mae 17 o aelodau ar y Bwrdd, yn cynnwys y Cadeirydd. Penderfynir ar grantiau gan aelodau mewn pwyllgorau dyfarnu grantiau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a’r DG gyfan.
  3. Mae dwy brif raglen grantiau y Bwrdd Elusennau: Gweithredu cymunedol a Thlodi a difreintedd, yn ogystal â’r Grantiau bychain yn cael eu hasesu gan Bwyllgor Cymru. Aelodau’r Bwrdd yng Nghymru yw Tom Jones (Cadeirydd), Elisabeth Watkins a Jeff Carroll. Aelodau Cyfetholedig y Bwrdd yng Nghymru yw Margaret Dennis, Aled Siôn a Dr Glyn Williams.
  4. Prif nod y Bwrdd yw rhoi grantiau er mwyn ateb anghenion y rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas a gwella ansawdd bywyd yn y gymuned.
  5. Er mis Hydref 1995, mae’r Bwrdd Elusennau, o dan ei brif grantiau, wedi dyfarnu dros £79 miliwn i 891 o grwpiau yng Nghymru. Mae dros £3.5 miliwn wedi ei ddyfarnu i 1517 o grwpiau o dan Grantiau bychain. Mae’r cyfanswm a ddyfarnwyd yng Nghymru, dros bum mlynedd, yn fwy na £83 miliwn.
  6. Cyhoeddir rhestr lawn o grantiau’r Bwrdd Elusennau ar y we ar www.nlcb.org.uk a chyhoeddir rhestr lawn o grantiau holl ddosbarthwyr y Loteri ar www.lottery.culture.gov.uk.

Nodyn i Ddylunwyr

1. Logo Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol yw y logo cylchol sy’n ymddangos ar y datganiad i’r wasg hwn. (Marc masnachu y Loteri Genedlaethol yw’r logo ‘croesi bysedd’ ac nid yw felly at ddefnydd y Bwrdd Elusennau.)