[ENGLISH] [Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
2 Medi 1998 Bwrdd Elusennau yn dyfarnu 100 o Grantiau Bychain yng Nghymru - mewn da bryd ar gyfer y tymor newyddHeddiw fe gyhoeddodd Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol ei fod yn dyfarnu cyfanswm o £285,102 mewn arian grant i 100 o grwpiau ledled Cymru o dan y Rhaglen grantiau bychain Fe gafodd y rhaglen sy’n dyfarnu grantiau rhwng £500 a £5,000 ei hail-lansio ym mis Awst 1998 ac mae cyhoeddiad heddiw yn nodi’r dyfarniadau olaf o dan y cynllun treialu blaenorol. Fe fydd llawer o’r grantiau yn cael eu croesawu gan rieni wrth iddynt wynebu blwyddyn ysgol newydd gan fod bron i hanner y grantiau a ddyfarnwyd yn mynd i elwa pobl ifanc. Mae’r Grantiau bychain eraill a ddyfarnwyd yn adlewyrchu’r amrywiaeth o faterion gwirfoddol ac elusennol y mae grwpiau bychain yn ymdrin â hwy gan gynnwys anabledd, trais yn y cartref, gwella cyfleusterau cymunedol, M.E. a lles pensiynwyr. Mae Clwb Henoed y Gurnos yn derbyn £4,346 er mwyn gwella’r cyfleusterau yn y neuadd gyfarfod, mae Grp Cymorth Cymdeithas M.E. Dyfed yn derbyn £1,500 er mwyn darparu adnoddau ar gyfer y grp hwn sy’n helpu dioddefwyr M.E., mae Fforwm Trais yn y Cartref Conwy yn derbyn £4,564 ar gyfer cynhyrchiad theatr a fydd yn cynyddu ymwybyddiaeth o drais yn y cartref ac mae Sefydliad y Merched yn Abercraf yn derbyn £3,030 i brynu piano er mwyn ymarfer ar gyfer eu cyngherddau codi arian i elusennau. Dywedodd Tom Jones, Cadeirydd Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol yng Nghymru: "Rwy’n llongyfarch yr holl grwpiau sydd wedi derbyn grantiau ac yn gobeithio y bydd eraill yn gweld eu llwyddiant ac yn cael eu hannog i gyflwyno ceisiadau. Rydym yn cynnig Grantiau bychain oherwydd eu bod yn gallu helpu grwpiau gwirfoddol i wneud gwahaniaeth sylweddol er mai dim ond ‘bychain’ ydy’r enw arnynt. Rydym yn dibynnu ar y grwpiau eu hunain i ddweud wrthym sut mae nhw’n bwriadu gwneud gwahaniaeth. Parhau y mae cyfleoedd i ariannu o dan y Cynllun grantiau bychain newydd ac ehangach a lansiwyd y mis diwethaf ar gyfer grwpiau sy’n chwilio am grantiau o hyd at £5,000." Eglurodd Roy Norris, Cyfarwyddwr y Bwrdd Elusennau yng Nghymru: "Yn gryno, dyma’r newidiadau i’r Rhaglen grantiau bychain: gall grwpiau fod ag incwm blynyddol o hyd at £15,000 yn hytrach na £10,000 ac mae nhw’n cael chwe mis yn awr i gwblhau’r prosiectau. Mae gan grwpiau gyfle da i lwyddo gyda’r cynllun hwn ac mae arian ar gael yn awr." Gellir cael gwybodaeth a ffurflenni cais ar gyfer pob un o raglenni grantiau’r Bwrdd trwy ffonio 0345 273273. |