TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-



[ENGLISH]


[Gwybodaeth gyffredinol]
[Y wasg]
[Cyswllt]
[Cysylltiadau]
[Help]
[Yn ôl]

28 Hydref 1998

Y Bwrdd Elusennau i fynd i'r afael â Thlodi a Difreintedd

Amlygwyd trafferthion pobl ar incwm isel heddiw wrth i Fwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol lansio rhaglen grantiau newydd dan y teitl ‘Tlodi a difreintedd’, sy'n anelu'n benodol at leihau effeithiau tlodi ac ymdrin â'r achosion sydd wrth wraidd yr anawsterau hyn. Mae'r angen yng Nghymru yn ddiamheuol a, chyda'r Bwrdd Elusennau'n darparu cyllid yn benodol ar gyfer y sector gwirfoddol, disgwylir y bydd llawer o grwpiau sy'n gweithio gyda'r rhai sy'n dioddef oherwydd incwm isel yn elwa.

Cyflwynwyd rhaglen grantiau benodol Tlodi a difreintedd er mwyn rhoi mwy o gyfleoedd i'r rhai sydd dan anfantais ddifrifol heb i'w hanghenion hwy gystadlu'n uniongyrchol â'r anghenion cymunedol amrywiol eraill yng Nghymru. Y brif raglen gyfochrog sy'n agored i'r sector gwirfoddol ar hyn o bryd yw Gweithredu cymunedol, sydd wedi cael derbyniad da ac sy'n cynnwys amrediad eang o brosiectau mewn cymunedau ledled Cymru.

Dywedodd Tom Jones, Cadeirydd y Bwrdd Elusennau yng Nghymru, "Rydym ni yng Nghymru yn bobl falch ac nid yw 'tlodi' yn air yr hoffwn ei ddefnyddio i ddisgrifio amgylchiadau neu gymunedau arbennig - yn hytrach, rydym yn ymfalchïo yn y camau a gymerir o fewn cymunedau i osgoi neu leddfu tlodi. Y gweithgarwch cymunedol traddodiadol hwn yr ydym am ei gefnogi trwy'r rhaglen Tlodi a difreintedd. Rydym yn hyderus y bydd pobl Cymru'n cefnogi'r rhaglen hon sy'n delio'n benodol ag agweddau ar anfantais sy'n deillio o incwm isel, ac y bydd y sector gwirfoddol yn croesawu'r cyfle cyllido newydd hwn."

Ychwanegodd Roy Norris, Cyfarwyddwr Cymru, "Mae incwm isel yn effeithio ar gymunedau yn ogystal ag ar grwpiau cymdeithasol fel y di-waith a'r henoed a'n nod ni yw gwella ansawdd bywyd i'r rhai yr effeithir arnynt. Rydym hefyd yn cydnabod bod cyraeddiadau addysgol a diffyg cyfle i gael hyfforddiant neu i sicrhau gofal plant yn rhai materion y gallwn fynd i'r afael â nhw fel achosion sydd wraidd incwm isel. Bydd llwyddiant y rhaglen yn y pen draw yn dibynnu ar y prosiectau a gynigir gan y sector gwirfoddol ond rydym yn rhagweld y bydd gofal iechyd a phrosiectau cymdeithasol, gwasanaethau tai, clybiau i'r henoed neu bobl ifanc, prosiectau ar stadau sydd dan anfantais neu mewn cymunedau gwledig, a chanolfannau cymuned a chynlluniau cludiant yn rhai o'r materion y bydd grwpiau gwirfoddol am fynd i'r afael â nhw. Mae'r ffurflenni cais ar gael nawr ac mae ein staff ni wrth law i roi cyngor ar ein llinell ymholiadau ddwyieithog."

Dylai unrhyw un sydd am gael ffurflenni cais neu fwy o wybodaeth ffonio 0345 273273.