[ENGLISH] [Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
22 Hydref 1998 Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol yn cyhoeddi Adroddiad BlynyddolHeddiw, cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol gerbron y Senedd. Mae’r Adroddiad yn edrych ar y flwyddyn o 1 Ebrill 1997 hyd 31 Mawrth 1998. Yn y flwyddyn 1997/98, mae’r Bwrdd wedi:
Dywedodd David Sieff, Cadeirydd, Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol,: "Yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 1998, mae’r Bwrdd Elusennau wedi datblygu agwedd newydd tuag at ddyfarnu grantiau. Rydym wedi cyflwyno amrywiaeth o raglenni eang, parhaus yn ogystal â rhaglenni arbenigol sydd ag amserlen ymgeisio benodol. Rydym wedi’i gwneud hi’n haws i grwpiau cymunedol lleol wneud cais am arian trwy ein Cynllun Grantiau Bychain. Rydym hefyd wedi arloesi gyda’n Awards for All yn yr Alban - y cynllun grantiau bychain ‘siop-un-stop’ cyntaf, er mwyn ei gwneud hi’n haws i grwpiau bach wneud cais am arian a godwyd gan y Loteri Genedlaethol. Fe fydd y rhaglenni hyn yn ein galluogi i wneud mwy er mwyn helpu’r rhai hynny sydd o dan yr anfantais fwyaf ac er mwyn gwella ansawdd bywyd yn y gymuned. "Rydym wedi sicrhau fod yr arian mwyaf posibl ar gael ar gyfer y grantiau trwy gadw’n costau gweithredol yn isel. Yn y flwyddyn ariannol 1997/98, roedd ein costau rhedeg yn chwech y cant o’n hincwm blynyddol."Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Bwrdd wedi cydweithio’n agos gyda’r Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn y gwaith o ddrafftio a datblygu’r Papur Gwyn a’r ddeddfwriaeth ddiweddarach ar ‘Loteri’r Bobl’. Roeddem yn hynod falch fod y mesurau newydd yn adlewyrchu nifer o’r polisïau yr ydym wedi eu mabwysiadu ers 1995. "Ers sefydlu’r Bwrdd bedair blynedd yn ôl, rydym wedi ymgynghori’n eang gyda’r sector gwirfoddol. O dan Ddeddf y Loteri Genedlaethol 1996, mae gofyn i ni gynhyrchu Cynllun Strategol i’w gyflwyno gerbron yr Ysgrifennydd Gwladol yn ystod y Gwanwyn nesaf. Fe fydd ein cyfnod Ymgynghorol cyfredol wedi dod i ben erbyn Ionawr 1999 ac fe fydd y canlyniadau yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Strategol. "Mae’r Bwrdd wedi datblygu safonau uchel o ran asesu ceisiadau yn wrthrychol wrth ddyfarnu grantiau sydd wedi cael cymeradwyaeth gan y sector gwirfoddol. Er budd y sector, ac er mwyn defnyddio arian y Loteri ar gyfer sicrhau’r manteision gorau i’r rhai hynny sydd mewn angen, rydym yn credu ei bod hi’n hanfodol fod y Bwrdd yn parhau’n annibynnol. Ymholiadau gan y cyfryngau: Robert Blow 0171 747 5227 |