TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-



[ENGLISH]


[Gwybodaeth gyffredinol]
[Y wasg]
[Cyswllt]
[Cysylltiadau]
[Help]
[Yn ôl]

30 Tachwedd 1998

Bwrdd Elusennau yn dyfarnu dros £5m

Bydd cymunedau ledled Cymru yn manteisio drwy dderbyn £5,256,000 mewn grantiau wedi eu dyfarnu gan Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol heddiw. Yn oll mae 51 o sefydliadau gwirfoddol ac elusengar wedi derbyn grantiau ar gyfer prosiectau sydd yn amrywio o waith ailadeiladu canolfannau cymdeithasol i gyfathrebu drwy bapurau newydd llafar. Mae’r grantiau a ddyfarnwyd yn cynnwys £124,000 i Cysylltu â Theulu, sefydliad sydd yn cyfarfod anghenion teuluoedd gyda phlant sydd ag anableddau gan hyrwyddo cydgymorth. Mae’r rhwydwaith o wirfoddolwyr yng Nghymru, sydd wedi bod yn cynnal y gwasanaeth hyd yn hyn, wedi croesawu’r cyfle yma i sefydlu swyddfa yng Nghymru ac i hybu hygyrchedd.

Dyfarnwyd y grant mwyaf o £294,000 i Ganolfan Pobl Torfaen er mwyn talu am gostau adnewyddu’r adeilad, darparu cyflogau a chostau cynnal ac i alluogi’r ganolfan i gyfarfod â’r gofynion cynyddol am y gwasanaeth a ddarperir. Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru sydd yn derbyn y grant ail-fwyaf o £279,000. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i sefydlu canolfan wybodaeth a chefnogaeth y sector gwirfoddol yn agos at adeilad y Cynulliad Cymreig. Bydd y fenter yma yn darparu gwell dealltwriaeth a chydweithrediad rhwng grwpiau gwirfoddol ac aelodau staff y cynulliad.

Mae Crest Cydweithredol Cyf yn Y Rhyl, sydd yn darparu hyfforddiant a phrofiad gwaith i bobl ieuanc anabl a difreintiedig, yn derbyn grant o £273,000 ar gyfer adnewyddu, cyfarpar, cyflogau a chostau cynnal dros gyfnod o dair blynedd. Dyfarnwyd £22,000 i Gymdeithas Papur Newydd Llafar Cylch Ogwr er mwyn amnewid a gwella offer recordio a chynhyrchu personol sydd wedi dioddef defnydd cyson a parhaol.

Dywedodd Tom Jones, Cadeirydd y Bwrdd Elusennau yng Nghymru: "Teimlaf yn freintiedig i gyhoeddi’r grantiau yma heddiw sydd yn cynnwys prosiectau gwerth chweil a cyffrous iawn. Mae'r sector wirfoddol yn gwneud cyfraniad pwysig tuag at safon byw yn ein cymunedau gyda gweithrediad gan grwpiau elusengar neu gwirfoddol ar lefel leol. Mae’r Bwrdd Elusennau yng Nghymru wedi dyfarnu dros £5miliwn heddiw, sydd yn nhermau gwerth cymunedol yn amlygu ei hun mewn adeiladau a gwasanaethau newydd gan gynnwys gwellhad sylweddol i safon byw i nifer o unigolion difreintiedig. Mae’r Bwrdd yn wynebu tasg anodd drwy asesu’r ceisiadau ac yna yn cael y mwynhad mwyaf o gyhoeddi’r dyfarniadau, ond y grwpiau eu hunain sydd yn haeddu’r clôd am y weledigaeth a’r dyfalbarhad sydd yn eu gwthio i gynnal y prosiectau."

Dywedodd Roy Norris, Cyfarwyddwr y Bwrdd Elusennau yng Nghymru: "Mae cyhoeddi grantiau Gweithredu cymunedol yn amlygu y nifer eang o ‘gymunedau’ sydd gennym yng Nghymru. Mae cymunedau mewn trefi, pentrefi ac ardaloedd yn cael eu atgyfnerthu gan gyfleusterau cymunedol o safon. Sefydlir cymunedau eraill gan y sawl sydd yn arwahanedig yn gorfforol, ac yn sefydlu rhwydwaith gefnogi ar gyfer pobl difreintiedig eraill ledled Cymru. Mae’r rhaglen Gweithredu cymunedol yn parhau, ynghyd a rhaglen Tlodi a difreintedd a lansiwyd yn ddiweddar. Er nad oes dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, rydym yn annog grwpiau sydd yn anelu tuag at wireddu prosiectau erbyn haf 1999 i gyflwyno ceisiadau erbyn diwedd mis Ionawr."

Dylai unrhyw un sy’n dymuno cael ffurflenni cais neu wybodaeth bellach alw 0345 273273.