TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-






[Gwybodaeth gyffredinol]
[Y wasg]
[Cyswllt]
[Cysylltiadau]
[Help]
[Yn ôl]

18 Tachwedd 1998

Dydd y Rhai Bychain

Mae ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ymhlith plant yngln â cham-drin rhywiol a chorfforol yn un o’r prosiectau Cymru gyfan sy’n derbyn arian gan Fwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol yn y cylch diweddaraf o grantiau a gyhoeddwyd heddiw. Derbyniodd yr Ymddiriedolaeth Gymreig er Atal Camdriniaeth £4,851 ar gyfer yr ymgyrch, a fydd yn cynnwys ymweliadau a phob un o 22 awdurdod lleol Cymru.

Grantiau eraill a ddyfarnwyd gan y Bwrdd Elusennau yw £4,770 i Dim Achub Mynydd Brycheiniog, er mwyn gwella offer cyfathrebu y grp, a £4,348 i Gymdeithas Gymunedol Siwdaniaid De Cymru, er mwyn dodrefnu swyddfa newydd ar gyfer y grp.

Dyfarnwyd cyfanswm o £145,885 heddiw i 44 o grwpiau o dan y cynllun ‘Grantiau bychain’. Wrth gyhoeddi’r grantiau, dywedodd Tom Jones, Cadeirydd y Bwrdd Elusennau yng Nghymru, "Cyn belled ag y mae y Bwrdd Elusennau yn y cwestiwn, mae’r ‘bychain’ yn ben oherwydd y gwaith mawr a wneir gan grwpiau bychain a gweithredol. Mae y Grantiau bychain yn caniatáu i ni ddosbarthu lles y Loteri ar hyd a lled Cymru i gynorthwyo traws doriad o gymdeithas trwy gyfrwng grwpiau gwirfoddol sydd wedi ymrwymo i wella ansawdd bywyd y rhai mwyaf difreintiedig mewn cymdeithas. Mae’r grantiau a gyhoeddir heddiw yn adlewyrchu amrywiaeth y grwpiau gwirfoddol yng Nghymru yn ogystal â’r gefnogaeth gref a geir o fewn y sector wirfoddol ar gyfer cynorthwyo plant ifanc, yr anabl a’r henoed."

Dywedodd Roy Norris, Cyfarwyddwr Cymru, "Mae y grantiau o £500 hyd at £5,000 sydd ar gael o dan y cynllun Grantiau bychain yn cynnig dyfodol i lawer o grwpiau gwirfoddol yng Nghymru, nad yw y rhan fwyaf ohonynt wedi gwneud cais am grant erioed o’r blaen. Mae ein ffurflen gais diwygiedig yn agor y broses i bawb ac yr ydym yn awyddus i annog unrhyw grp gwirfoddol sy’n ystyried prosiect ac sydd angen arian i gysylltu â ni am ragor o fanylion."

Dylai unrhyw un sy’n dymuno cael ffurflenni cais neu wybodaeth bellach alw 0345 273273.