TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-

National Lottery Charities Board Wales

* News * Focus * Contacts * Links

19 Mai 1998

Seminar I Lwyddo Denu Grant

Mae Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol yn cynnig ffynhonnell arian werthfawr i grwpiau gwirfoddol. Er mwyn sicrhau fod gan grwpiau cymunedol sy’n dymuno gwneud cais y cyfle gorau i lwyddo mae’r Bwrdd Elusennau yn cynnal seminarau yn rhad ac am ddim ar hyd a lled Cymru. Cynhelir dwy seminar yng nghanolbarth Cymru ym mis Mai, un ym Machynlleth ar yr 21ain o Fai ac un yn Aberteifi ar y 27ain o Fai.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymru, Roy Norris, "Mae’r Bwrdd Elusennau yn arwain drwy gynnig gwybodaeth i ymgeiswyr posibl cyn i’r ffurflenni cais gael eu cyflwyno. Ein prif darged yw grwpiau nad oes ganddynt hyder i wneud cais a grwpiau sydd wedi cael eu siomi yn y gorffennol. Mae’r seminarau yn rhoi cyfle i grwpiau cymunedol i gynllunio eu prosiectau yn ofalus. Mae ein profiad yn y gorffennol wedi dangos fod y seminarau hyn yn werthfawr yn nhermau galluogi grwpiau, boed yn fach neu yn fawr, i baratoi ceisiadau o safon.

"Nod y Bwrdd Elusennau yw sicrhau fod arian yn cael ei roi tuag at yr achosion mwyaf buddiol yn ein cymdeithas. Trwy gynnig seminarau mewn ardaloedd medrwn fod yn sicr fod y siawns o lwyddiant yr un ar gyfer pob grp."

Ym mis Mehefin, cynhelir seminarau ym Mhontypridd (3 Mehefin), yng Nghaerdydd (16 Mehefin) ac yng Nghasnewydd (23 Mehefin).

Mae croeso i grwpiau sy’n dymuno cael rhagor o wybodaeth ffonio 0345 273273.