[ENGLISH] [Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
23 Mawrth 1998 Dros £8 Miliwn o Grantiau Bwrdd Elusennau I GymruMae dros £8 miliwn am gael ei roi i 95 o fudiadau yng Nghymru er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl. Cyhoeddwyd y grantiau yn y Rhyl heddiw gan Fwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol. Themâu y grantiau oedd Gwella amgylchedd byw pobl a Datblygu’r sector gwirfoddol. Eu nod yw cael gwared ar effeithiau digartrefedd, ymateb i faterion amgylcheddol yn y gymuned, a chynorthwyo y sector wirfoddol. Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Elusennau yng Nghymru, Tom Jones, "Mae bod yn ddigartref yn broblem ddifrifol yng nghymdeithas y dyddiau hyn ac mae llawer o’r grantiau hyn wedi eu dyfarnu er mwyn lleddfu’r broblem, gan gynorthwyo pobl i ganfod tai diogel, parhaol, sydd o fewn eu cyrraedd yn ariannol a hefyd i gynorthwyo pobl ddiymgeledd i aros yn eu cartrefi. Rhoddir cefnogaeth hefyd i brosiectau sy’n cael eu harwain gan y gymuned er mwyn gwella ansawdd tai. Yr ydym yn disgwyl y bydd prosiectau, fel y rhai a gynlluniwyd gan dai Shortlife Housing a Bwrdd Bondiau Caerdydd yn ne Cymru, a Chywaith Joseph Co-Operative a Chymdeithas Tai Eryri yng ngogledd Cymru, yn gwella bywydau rhai o bobl fwyaf difreintiedig Cymru yn sylweddol. "Mae y Bwrdd Elusennau hefyd yn cynorthwyo i ariannu prosiectau ymarferol cymunedol a fydd yn gymorth i wella’r amgylchedd mewn ardaloedd trefol a gwledig. Yr ydym wedi cynorthwyo yn arbennig grwpiau sydd â’r genhadaeth i gynnig gwell mynediad i ardaloedd gwyrdd i gymunedau difreintiedig, a grwpiau sydd yn rhoi rhan i bobl yn y gwaith o reoli eu hamgylchedd lleol. Ymhlith y prosiectau sy’n dilyn y genhadaeth hon mae Cymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, Ymddiriedolaeth Groundwork Islwyn & Rhymni, Canolfan Amgylchedd Abertawe a’r Rhwydwaith Amgylchedd Ddu." "O dan y thema Datblygu’r sector gwirfoddol, ein nod oedd datblygu a chefnogi gwasanaethau ar gyfer y sector gwirfoddol a chynorthwyo mudiadau gwirfoddol a chymunedol i fod yn fwy effeithiol. Mae mudiadau Cymru-gyfan fel yr Urdd, yn ogystal â mudiadau mwy rhanbarthol fel Newemploy Cymru, Menter Taf-Elai ac Unllais wedi llwyddo i ddenu cyllid ar gyfer prosiectau sydd yn ymateb i ddatblygiad y sector gwirfoddol." Dywedodd Cyfarwyddwr Cymru, Roy Norris: "Heddiw mae 95 o grwpiau yng Nghymru yn cael cynnig grantiau hyd at gyfanswm o £8,076,991. O’r cyfanswm hwn mae £5,573,124 wedi mynd tuag at brosiectau sy’n Gwella amgylchedd byw pobl, a £2,503,867 tuag at Ddatblygu’r sector gwirfoddol. Yr ydym bellach yn edrych ymlaen at weld y prosiectau hyn yn cael eu gweithredu ac yn dod â budd go iawn i bobl ym mhob rhan o Gymru." Ychwanegodd, "Mae yna grwpiau a dderbyniodd grantiau heddiw sydd wedi llwyddo ar ôl sawl ymgais ac ail-asesiadau ac maen nhw’n haeddu canmoliaeth am ddal ati. Yr ydym yn gobeithio y bydd y grwpiau hynny a siomwyd heddiw yn dilyn eu hesiampl ac yn cynnig unwaith eto." Mae y llyfryn Rhaglenni grantiau newydd yn rhoi crynodeb o’r grantiau sydd ar gael gan y Bwrdd Elusennau eleni a gellir cael copi trwy alw 0345 273273. |