[ENGLISH] [Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
26 Mehefin 1998 Y Bwrdd Elusennau Yn Cynyddu Y Cyfleoedd Am Grantiau I Alluogi Mynediad I’r AnablMae prif raglen grantiau Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol, Gweithredu cymunedol, bellach wedi cael ei ymestyn er mwyn cynnwys prosiectau sydd yn benodol ar gyfer gwella mynediad i’r anabl. Nod y rhaglen Gweithredu cymunedol yw cefnogi mudiadau cymunedol a gwirfoddol a’u gweithgareddau. Mae y rhaglen yn berthnasol i amrywiaeth eang o weithgaredd gwirfoddol yng Nghymru ac mae y disgrifiad ‘cymunedol’ yn cael ei ddehongli yn eang i gynnwys grwpiau o bobl gyda diddordebau cyffredin yn ogystal â grwpiau daearyddol o bobl. Hyd yma elfen o brosiectau ehangach oedd cynlluniau i wella mynediad i bobl anabl. Pwysigrwydd y diwygiad hwn i’r rhaglen grantiau yw fod prosiectau sy’n ymwneud â gwella mynediad i’r anabl yn unig bellach yn teilyngu grant. Gallai’r galw gynnwys darparu rampiau, minicoms, lifftiau neu gylchoedd clywed ar gyfer canolfannau ieuenctid neu gymuned neu neuaddau pentref. Dywedodd Tom Jones, Cadeirydd y Bwrdd Elusennau yng Nghymru, "Nid yw nod y rhaglen Gweithredu cymunedol wedi newid. Mae iddi thema eang er mwyn ariannu prosiectau sydd yn galluogi pobl i chwarae rhan mwy canolog ac i wella ansawdd bywyd ar gyfer y gymuned gyfan. Trwy gynnwys prosiectau sydd yn gwella mynediad i’r anabl yn unig y cyfan a wnaethom oedd ymestyn y teilyngdod. Er ei fod yn ymddangos yn ddiwygiad bychan efallai, mae’r ymateb a gawsom gan y sector gwirfoddol yn dangos y bydd nifer o grwpiau ar draws Cymru yn croesawu y newyddion hyn gan ei fod yn darparu cyfleoedd newydd sylweddol." Ychwanegodd Cyfarwyddwr Cymru, Roy Norris, "Bydd y cyhoeddiadau cyntaf yngln â grantiau ar gyfer Gweithredu cymunedol yn cael eu gwneud yn Hydref 1998. Nid oes dyddiad cau ar gyfer y rhaglen hon ond yr ydym yn anelu at wneud cyhoeddiadau rheolaidd bob tri mis. Gall y grant dalu am y rhan fwyaf o weithgareddau yn amrywio o fuddsoddiadau cyfalaf i annog gwirfoddoli ac felly dylai unrhyw un sydd yn ansicr a yw eu prosiect yn teilyngu grant ai peidio gysylltu â swyddfa Cymru yn y Drenewydd am fanylion pellach. I gael manylion pellach neu ffurflenni cais y rhif cyswllt ar y ffôn yw: 0345 273273. |