TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-



[ENGLISH]


[Gwybodaeth gyffredinol]
[Y wasg]
[Cyswllt]
[Cysylltiadau]
[Help]
[Yn ôl]

11 Mehefin 1998

£508,206 Yn Cael Ei Ddyfarnu I Elusennau Yng Nghymrui Helpu Pobl Difreintiedig Ledled Y Byd

Mae plant a phobl ifanc anghenus yn ardaloedd mwyaf difreintiedig y byd ymysg y rhai a fydd yn cael y budd mwyaf o Grantiau Rhyngwladol Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol a ddyfarnwyd heddiw. Mae cyfanswm o 134 o elusennau Prydeinig sydd yn gweithio dramor wedi derbyn gwerth £25 miliwn o grantiau er mwyn helpu i ddarparu anghenion sylfaenol megis bwyd, gofal iechyd, glendid ac addysg mewn dros 80 o wledydd.

Mae tair elusen sydd wedi eu lleoli yng Nghymru wedi bod yn llwyddiannus. Mae Ymddiriedolaeth Gymorth Pentrefi Gyrca Cymru, Sir Gaerfyrddin, yn derbyn £68,671 i ddatblygu technoleg rad i gefnogi diwydiannau crefft pentrefi yn Nepal. Mae Cysylltiadau Byd-eang, Penfro yn derbyn £74,922 i gynyddu ymwybyddiaeth o faterion datblygiad rhyngwladol drwy ddatblygu adnoddau addysgiadol ar gyfer athrawon a gweithwyr cymunedol ac ieuenctid yng Ngorllewin Cymru. Mae Sefydliad Thomson, Caerdydd, yn derbyn £364,613 i wella addysg iechyd ar gyfer pobl ifanc ym Mangladesh drwy ddefnyddio’r teledu a’r radio.

Mae grwpiau ar hyd y DG sydd yn derbyn grantiau yn cynnwys Achub y Plant (y DG), sydd yn derbyn £1,007,762 i ddarparu datblygiad plentyndod cynnar a rhaglenni anabledd yn y Dwyrain Canol a chynyddu ymwybyddiaeth o hawliau plant. Mae Croes Goch Prydain yn derbyn £372,814 i helpu bron i ddwy filiwn o bobl, yn byw yn y 38 ardal ym Mangladesh sydd yn fwyaf tebygol o ddioddef trychineb, drwy ddarparu offer i sicrhau gwell siawns o oroesi trychinebau naturiol. Mae Cwmni Big Issue yn derbyn £92,488 i ehangu ei waith presennol fel y gall mwy o bobl digartref yn Nhref y Penrhyn, De Affrica, werthu copïau o’r cylchgrawn Big Issue lleol.

Bydd prosiectau eraill yn helpu dioddefwyr ffrwydron tir a chynyddu ymwybyddiaeth yngln â’r anafiadau a achosir gan ffrwydron tir; atal a thrin dallineb; helpu plant sy’n amddifad oherwydd AIDS; a dysgu elusennau yng Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop sut i godi arian yn eu cymunedau eu hunain.

Dywedodd Amanda Jordan, Cadeirydd Pwyllgor Bwrdd ar gyfer y DG gyfan sydd yn dyfarnu’r grantiau hyn: "Bydd y prosiectau hyn yn cael eu gweithredu gan elusennau Prydeinig a fydd yn defnyddio eu profiad a’u harbenigedd i weithio mewn partneriaeth â mudiadau sydd yn helpu pobl anghenus yn y gwledydd datblygol. Mae’r Bwrdd Elusennau wedi dyfarnu grantiau i brosiectau a fydd yn cynyddu ymwybyddiaeth neu’n dod â budd uniongyrchol i bobl difreintiedig drwy ddarparu addysg, hyfforddiant ac adnoddau ymarferol fel y bydd ansawdd bywyd yn gwella ac y byddent yn cael cymorth i ddod yn hunan-gynhaliol."

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymru, Roy Norris, "Mae gan Gymru draddodiad o waith elusennol dramor ac yr wyf yn falch y gall y Bwrdd Elusennau gefnogi gwaith y grwpiau hyn drwy gynnig y Rhaglen grantiau rhyngwladol. Mae gwerth £508,206 o grantiau wedi ei ddyfarnu i dri grp gwahanol iawn yng Nghymru heddiw. Bydd prosiect Ymddiriedolaeth Gymorth Pentrefi Gyrca Cymru yn darparu cymorth ymarferol uniongyrchol i bentrefwyr yn Nepal i ennill bywoliaeth, bydd Sefydliad Thomson yn cynyddu ymwybyddiaeth o faterion iechyd ym Mangladesh a bydd y prosiect Cysylltiadau Byd-eang yn cynyddu ymwybyddiaeth o faterion datblygu dramor mewn ysgolion yng Ngorllewin Cymru. Edrychwn ymlaen i weld cynnydd y prosiectau hyn a’r buddiannau hirdymor a ddaw yn eu sgîl i bobl difreintiedig dramor."

Mae’r rhaglen yn cyflawni nod y Llywodraeth (a roddwyd mewn Papur Gwyn ym mis Tachwedd 1997) o geisio cael cefnogaeth weithredol y cyhoedd ym Mhrydain er mwyn haneru’r gyfran o boblogaeth y byd sydd yn byw mewn tlodi eithafol erbyn 2015. Ym 1995 cyfrannodd y cyhoedd ym Mhrydain £350 miliwn i helpu cymunedau mewn gwledydd datblygol.